Skip to content

Arfordiroedd a thraethau Penrhyn Gŵyr

Yr olygfa o Fae’r Tri Chlogwyn o gyffiniau Penmaen gyda rhostir yn y blaendir, ar Benrhyn Gŵyr, De Cymru
Bae’r Tri Chlogwyn o gyffiniau Penmaen, Penrhyn Gŵyr | © National Trust Images/Joe Cornish

Mae arfordiroedd a thraethau Penrhyn Gŵyr yn drawiadol drwy gydol y flwyddyn. Ymwelwch â Bae Rhosili am ddiwrnod o nofio ac adeiladu cestyll tywod, mwynhewch deithiau cerdded arfordirol o gwmpas Twyni Penmaen a Nicholaston, ewch i wylio adar yn Whitffordd neu darganfyddwch fywyd gwyllt ac archaeoleg ym Mhwll Du. Dysgwch fwy am bethau i’w gweld a’u gwneud ar ymweliad â Phenrhyn Gŵyr.

Arfordiroedd a thraethau i’w gweld yn y Gŵyr

Rhosili
Stribyn 3 milltir o dywod gyda golygfeydd ysgubol o’r arfordir. Gallwch nofio neu hyd yn oed hedfan barcud yma, ac mae digon o fywyd gwyllt a hanes i’w ddarganfod os byddai’n well gennych fynd am dro o gwmpas yr arfordir. Cerddwch i gopa Cefnen Rhosili, y pwynt uchaf yn y Gŵyr. O’r fan hon gallwch fwynhau golygfeydd panoramig yn estyn yr holl ffordd i orllewin Cymru, Ynys Wair ac arfordir gogledd Dyfnaint.Trefnwch eich ymweliad â Rhosili
Twyni Penmaen a Nicholaston
Mae Twyni Penmaen a Nicholaston yn swatio rhwng Bae’r Tri Chlogwyn a Bae Oxwich. Ewch am dro drwy’r ardal a mwynhau’r rhostir, y coetir, y twyni tywod a’r clogwyni, gyda golygfeydd godidog dros y bae. Mae’r twyni yn Nicholaston yn fwrlwm o fywyd gwyllt, tra bod Twyni Penmaen yn gyfoeth o hanes. Cadwch olwg am weddillion siambr gladdu Neolithig, amddiffynfa gylch Normanaidd, ac eglwys ganoloesol.Trefnwch eich ymweliad â Thwyni Penmaen a Nicholaston
Pennard, Pwll Du a Dyffryn Llandeilo Ferwallt
Penrhyn Pwll Du yw’r pentir uchaf yn y Gŵyr ac mae’n cynnig golygfeydd gwych o Glogwyni Pennard a’r arfordir tuag at y Mwmbwls. Yn gyfoeth o dreftadaeth ddiwydiannol, mae ‘na ogofau, coetir hynafol a rhywogaethau prin i’w darganfod yma. Mae ‘na hefyd nodweddion archeolegol niferus a dwy ogof bwysig – Bacon Hole a Minchin Hole.Trefnwch eich ymweliad â Pennard, Pwll Du a Dyffryn Llandeilo Ferwallt
Whitffordd a Gogledd Gŵyr
Mae morfa Cwm Ivy yn ffurfio rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol ehangach Whitffordd ar arfordir Gogledd Gŵyr. Mae’n hafan i fywyd gwyllt ac yn llecyn delfrydol ar gyfer gwylio adar. Mae yna ddwy guddfan adar, cuddfan Cheriton a chuddfan Monterey, wedi’u lleol y naill ochr i’r forfa. Cadwch olwg am grehyrod bach copog, y gallwch eu gweld bob dydd gyda’u cefndryd mwy o faint, y crëyr glas.Trefnwch eich ymweliad â Gogledd Gŵyr
Ymwelydd yn eistedd gyda’i chefn at y camera yn edrych allan ar yr olygfa o’r bae yn Rhosili ac Arfordir De Gŵyr, Cymru, i lawr y clogwyn at draeth tywodlyd gyda moroedd glas clir y tu hwnt ac awyr las heulog yn y pellter.
Ymwelydd yn mwynhau’r olygfa o’r bae yn Rhosili ac Arfordir De Gŵyr | © National Trust Images/Chris Lacey

Traethau i gŵn ym Mhenrhyn Gŵyr

Mae croeso i gŵn da ar draethau’r Gŵyr, oni bai bod angen cadw cŵn i ffwrdd am resymau’n ymwneud â chadwraeth natur. Gall hyn fod yn ddibynnol ar yr adeg o’r flwyddyn, felly ewch i wefan y traeth neu’r arfordir i gadarnhau a allwch ddod â’ch ci cyn eich ymweliad.

Cŵn a anifeiliaid fferm

Wrth ymweld, talwch sylw i unrhyw arwyddion lleol am gerdded cŵn – er enghraifft, a oes angen i’ch ci fod ar dennyn. Dylai cŵn gael eu cadw ar dennyn o gwmpas anifeiliaid, ond os oes gwartheg neu anifeiliaid mawr eraill yn cwrso eich ci, y peth gorau i’w wneud yw gadael y tennyn i fynd tan eich bod wedi gadael yr ardal.

Tri pherson yn chwarae ar y traeth gyda chi yn Pennard, Penrhyn Gŵyr, Cymru.
Pobl yn chwarae ar y traeth, Pennard, Penrhyn Gŵyr, Cymru. | © National Trust Images/John Millar

Dilynwch y cod cefn gwlad

Helpwch i gadw arfordiroedd a thraethau Penrhyn Gŵyr yn ddiogel a dymunol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Parchwch bobl eraill

  • Byddwch yn ystyrlon o’r gymuned leol a phobl eraill sy’n mwynhau ac yn gweithio yn yr awyr agored
  • Parciwch yn ofalus gan sicrhau bod gatiau a dreifiau’n cael eu cadw’n glir
  • Gadewch gatiau ac eiddo fel yr oedden nhw pan gyrhaeddoch chi
  • Dilynwch lwybrau sydd wedi’u marcio ac arwyddion lleol
  • Byddwch yn gyfeillgar, dwedwch shwmae

Diogelu’r amgylchedd naturiol

  • Peidiwch â gadael dim ar eich ôl – ewch â’ch sbwriel adref
  • Byddwch yn ofalus gyda barbeciws a thanau – defnyddiwch nhw mewn ardaloedd pwrpasol yn unig
  • Cadwch gŵn dan reolaeth
  • Baw ci – yn y bag, yn y bin – mae unrhyw fin cyhoeddus yn iawn
Golygfa o Gastell Powis, uwchben ei derasau, Powys, Cymru, yn yr hydref.

Dewch i ddarganfod Cymru

Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Enfys dros Rhosili
Lle
Lle

Rhosili ac Arfordir De Gŵyr 

Darganfyddwch draeth euraidd Bae Rhosili, llongddrylliad sy’n ymddangos pan fo’r llanw ar drai, golygfeydd dramatig o Gefnen Rhosili a morloi ar Ynys Weryn.

Rhosili, Swansea

Yn hollol agored heddiw
View from the top of Cwm Ivy Tor at Whiteford Burrows, Swansea.
Lle
Lle

Whitffordd a Gogledd Gŵyr 

Milltiroedd o dywod gyda golygfeydd ysgubol i Borth Tywyn a morfa heli lanwol sydd dan ei sang â fflora a ffawna.

Swansea

Yn hollol agored heddiw
Golygfa dros glogfeini Pennard yng Ngŵyr, Cymru
Lle
Lle

Pennard, Pwll Du a Dyffryn Llandeilo Ferwallt 

Cyfoeth o dreftadaeth ddiwydiannol, ogofâu, coetiroedd hynafol a rhywogaethau prin.

Swansea

Yn hollol agored heddiw
Ymwelydd yn cario sach gefn ac yn cerdded ar hyd llwybr troed yn Divis a’r Mynydd Du gyda waliau carreg i’r naill ochr, y cefn gwlad i’w weld yn y cefndir.
Erthygl
Erthygl

Dilynwch y cod cefn gwlad 

Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Golygfan y Canmlwyddiant, Dinas Oleu, Cymru

Arfordiroedd a thraethau yng Nghymru 

Darganfyddwch 157 milltir o arfordir Cymru sy’n cael ei ddiogelu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, o draethau euraidd eang i glogwyni geirwon

Plant a chi yn Llyn Bosherston, Stagbwll, Sir Benfro

Llefydd sy’n croesawu cŵn yng Nghymru 

O’r mynyddoedd a’r traeth, i erddi a pharcdiroedd, gallwch ganfod llwybr cerdded cŵn yng Nghymru y byddwch chi, a’ch cyfaill pedair coes, yn ei wir fwynhau. Dyma eich canllaw ar gyfer rhai o’r lleoliadau gorau yng Nghymru i ymweld â nhw gyda chŵn.

Walkers admire the view across Llyn Ogwen to the Cwm Idwal Valley on a sunny day, with a body of water visible in the valley and mountains in the distance

Cefn gwlad a choetir yng Nghymru 

Darganfyddwch ddyffrynnoedd dramatig a phrydferth, coetiroedd hynafol a llwybrau glan afon, neu anturiwch ar fynyddoedd gwyllt Cymru ac ymweld â rhai o gopaon mwyaf eiconig y wlad.

Blodau coed ceirios ar ddiwedd y daith gerdded coed yw yn yr ardd yn Erddig

Gerddi a pharciau yng Nghymru 

Ymwelwch â chasgliad arbennig o erddi a pharciau yng Nghymru. O erddi muriog i ystadau cefn gwlad a gerddi coed, mae digon i’w ddarganfod.