Skip to content
A man stands on a bridge in the distance surrounded by trees and bushes clothed in autumn colours
Golygfa o’r teras a’r borderi llysieuol ar ddiwedd yr haf yng Ngardd Bodnant, Conwy. | © National Trust Images/John Miller

Gerddi a pharciau yng Nghymru

Rydym yn gofalu am gasgliad arbennig o erddi a pharciau sy’n cwmpasu mwy na 500 mlynedd o hanes Cymru. O derasau Eidalaidd a gerddi muriog i erddi coed ac ystadau cefn gwlad, mae digon i’w ddarganfod drwy gydol y tymhorau.

Y gorau o fyd natur hydrefol

Ar draws Cymru mae sioe hydrefol byd natur ar waith. O ddail yn cwympo i ffwng yn ymddangos a gwledd o fywyd gwyllt, dyma rai o'r prif lefydd i fwynhau'r gorau o beth sydd gan tymor yr hydref i'w gynnig.

Gwledd o liw 

O goed derw hynafol i fasarnen drawiadol mae'r dail yn drochfa o oren rhydlyd a choch llachar wrth i'r hydref ymledu ymysg y coed. Mae Gardd Bodnant yn un o'r prif lefydd i fwynhau'r dail yn troi.

ger Bae Colwyn, Conwy

Yn hollol agored heddiw
Llannerch Acer yn yr hydref yng Ngardd Bodnant, Conwy

Tymor y rhidio 

Un o uchafbwyntiau'r hydref yw gweld y ceirw'n rhidio, mae gwledd i'w weld yn Ninefwr wrth iddynt grwydro o amgylch yn Parc Ceirw yr hydref hwn.

Llandeilo, Sir Gaerfyrddin

Yn hollol agored heddiw
Fallow deer in the parkland at Attingham Park, Shropshire

Ffwng ffantastig 

Yr hydref yw'r amser gorau i ddod o hyd i ffyngau neu gapiau cŵyr cain yn cuddio ymysg y deiliach neu'r glaswellt yng Nghastell y Waun a'r Ardd

Y Waun, Wrecsam

Yn hollol agored heddiw
Close up fungi at Bodnant Garden, Conwy

Sylwi ar y wiwer goch 

Mae'r hydref yn dymor prysur iawn i'r wiwer goch ym Mhlas Newydd, ewch am ennyd i'r goedwig, gan aros yn dawel a gwrando am sŵn yn y coed, efallai y cewch gip arnynt yn neidio o gangen i gangen.

Llanfairpwll, Sir Fôn

Yn hollol agored heddiw
Gwiwer goch yn eistedd ar goeden a'i chynffon dros ei gefn

Y perllannau gorau i ymweld â nhw yng Nghymru

Dewch i gerdded ymysg coed llawn afalau a chroesawu’r Hydref drwy grensian eich ffordd drwy un o’r llu o berllannau traddodiadol dan ein gofal yng Nghymru. Dyma ein hoff berllannau y dylech ymweld â nhw'r tymor hwn.

Neuadd a Gardd Erddig 

Archwiliwch berllan Erddig ac edmygwch y coed espalier sydd wedi’u trin yn fedrus i hongian yn drwm â sawl amrywiaeth gwahanol o afalau treftadaeth. Peidiwch â cholli’r dathliadau penwythnos cynaeafu afalau blynyddol ar 3-4 Hydref, sy’n cynnwys arddangosfa o afalau hanesyddol a chyfle i flasu afalau.

Wrecsam

Yn hollol agored heddiw
An autumn display of seasonal apples in baskets

Llanerchaeron 

Mae dros 60 o wahanol fathau o afalau’n tyfu yn yr Ardd Furiog, gan gynnwys ‘Llanerchaeron Peach’. Dathlwch y cynaeafu ar Benwythnos yr Afal ddydd 2-4 Hydref, un o adegau craidd yr hydref, i weld arddangosfa afalau Llanerchaeron.

ger Aberaeron, Ceredigion

Yn rhannol agored heddiw
Arddangosfa o afalau yn ystod Penwythnos Afalau Llanerchaeron, Ceredigion

Castell a Gardd Powis 

Mae coed afalau’r Ardd Ffurfiol Edwardaidd dros 100 mlwydd oed. Mae nifer o afalau prin a hen amrywiaethau Cymreig yn tyfu yn yr ardd, gan gynnwys y coed afalau pyramid sydd wedi'u trin a’u tocio’n ofalus.

Y Trallwng, Powys

Yn rhannol agored heddiw
Coed afalau pyramid sydd wedi'u trin a’u tocio’n ofalus.

Tŷ Tredegar 

Ymysg 90 erw’r ardd a’r parcdir, Gardd y Berllan yw’r ardd yn Nhŷ Tredegar. Troellwch drwy labrinth o lwybrau cudd ymysg y coed afalau, lle mae nifer o amrywiaethau o afalau treftadaeth yn tyfu.

Newport

Yn hollol agored heddiw
Apples in the orchard at Wimpole Estate, Cambridgeshire

Gerddi yng Ngogledd Cymru

O derasau Gardd Bodnant i docwaith trawiadol Castell y Waun, mwynhewch wledd i’r synhwyrau yng ngerddi gorau’r gogledd.

Plas Newydd a’r Ardd 

Ar lannau Afon Menai gyda golygfeydd dramatig o Eryri, mae’r ardd hon yn llawn rhyfeddodau. Ymgollwch eich hun mewn 40 erw o derasau Eidalaidd, dolydd a Gardd Goed gysgodol.

Llanfairpwll, Sir Fôn

Yn hollol agored heddiw
The house at Plas Newydd, Anglesey, on the banks of the Menai Strait with autumn trees in the foreground

Gardd Bodnant 

Ymwelwch â’r ardd fyd-enwog hon mewn lleoliad dramatig ar ochr bryn a mwynhau 80 erw o erddi ffurfiol, coetir a dolydd, a chasgliadau botanegol o bedwar ban byd.

ger Bae Colwyn, Conwy

Yn hollol agored heddiw
Shrubs and bushes with vivid red and yellow autumn foliage alongside a stone path in the Winter Garden at Bodnant Garden, Conwy

Castell y Waun 

Rhowch wledd i’ch synhwyrau a thanio’ch dychymyg wrth grwydro ymysg arogleuon a lliwiau llachar y borderi blodau toreithiog yn yr ardd 5.5-erw hyfryd hon.

Y Waun, Wrecsam

Yn hollol agored heddiw
Awyrlun o Gastell a Gardd y Waun, Wrecsam, yn yr hydref.

Neuadd a Gardd Erddig 

Bu bron i’r ardd hon gael ei cholli am byth, ond a hithau bellach wedi’i hadfer yn llawn dyma’r lle perffaith i fwynhau prynhawn braf, gyda lawntiau eang a rhodfeydd o balalwyf wedi’u plethu.

Wrecsam

Yn hollol agored heddiw
Rhaeadr y Gwpan a’r Soser yn Erddig, Cymru lle mae dŵr yn llifo i lawr agoriad crwn, tra bod teulu yn gwylio gyda choed hydrefol yn y cefndir.

Castell Penrhyn a'r Ardd 

Fel y castell ei hun, mae’r tiroedd a’r ardd yn eang ac yn wledd i’r synhwyrau. Mwynhewch y llonyddwch yn yr Ardd Furiog, neu crwydrwch Ardd y Gors, sy’n debyg i jyngl.

Bangor, Gwynedd

Yn hollol agored heddiw
Two people with pushchairs walk under a large oak tree at Penrhyn Castle and Garden

Gerddi yng Nghanolbarth Cymru

Mwynhewch ryfeddodau un o erddi gorau’r DU yng Nghastell Powis, gyda’i thocwaith trawiadol, neu darganfyddwch yr ardd furiog fendigedig yn Llanerchaeron.

Castell a Gardd Powis 

Yn dyddio’n ôl dros 300 mlynedd, mae tipyn o bopeth yn yr ardd fyd-enwog hon. Darganfyddwch Derasau Eidalaidd gyda golygfeydd gwych a thocwaith dramatig, a gardd ffurfiol heddychlon.

Y Trallwng, Powys

Yn rhannol agored heddiw
Golygfa ar draws tirwedd hydrefol

Llanerchaeron 

Mae’r Ardd Furiog heddychlon hon yn wledd i’r synhwyrau. Ewch am dro ymysg y coed ffrwythau hynafol, a gardd lysieuol bersawrus sydd dan ei sang â llysiau coginio llesol.

ger Aberaeron, Ceredigion

Yn rhannol agored heddiw
Coed yn dechrau troi’n goch ger llyn ar ddechrau’r hydref

Gerddi yn Ne Cymru

O ffynhonnau Gerddi Dyffryn i wylltir Gardd Goedwig Colby, darganfyddwch drysorau garddwriaethol y de.

Gerddi Dyffryn 

Darganfyddwch erddi 55-erw Dyffryn, gan gynnwys rhwydwaith hyfryd o ardd-ystafelloedd, gardd goed, gerddi’r gegin a thŷ gwydr enfawr sydd dan ei sang â rhyfeddodau arallfydol.

Sain Nicholas, Bro Morgannwg

Yn rhannol agored heddiw
An autumnal day at Dyffryn Gardens, Vale of Glamorgan

Tŷ Tredegar 

Ymgollwch eich hun mewn tair gardd ffurfiol berffaith. Gyda thai gwydr, Orendy, borderi blodau a pherllan, mae digon o ryfeddodau i’w darganfod ar hyd eu llwybrau dirgel.

Newport

Yn hollol agored heddiw
Tŷ gyda llyn o’i flaen a choed hydrefol i’r dde

Gardd Goedwig Colby 

Mae’r ardd ddiarffordd hon, a oedd unwaith yn faes glo gweithredol, yn dal i gofio’i gwreiddiau diwydiannol, ond heddiw, gyda’i nentydd, dolydd, coetir a gardd furiog, mae’n hafan go iawn i fyd natur.

ger Llanrath, Sir Benfro

Yn rhannol agored heddiw
A view of the Walled Garden in bloom at Colby Woodland Garden, with part of the wall visible to the right, and beds filled with greenery and flowering plants in the foreground. A white visible and bird table are visible in the image.

Gerddi cymunedol yng Nghymru

Gerddi cymunedol yng Nghymru 

Yn llawer o'r lleoedd arbennig y gofalwn amdanynt, rydym yn gweithio gyda chymunedau i greu gerddi lle gall pobl dreulio amser ym myd natur, a chyda'i gilydd.

Two people kneeling and working in the soil at the community garden at Powis Castle

Parcdir ac ystadau yng Ngogledd Cymru

Mwynhewch antur natur yn nhiroedd castell crand fel Castell y Waun neu fynd am dro drwy dirwedd fel Erddig.

Castell Y Waun a’r Ardd 

Ewch am dro o gwmpas yr ystâd 480-erw ddiddorol hon a darganfod coed hynafol, bywyd gwyllt bendigedig, a golygfeydd godidog o’r cefn gwlad cyfagos.

Y Waun, Wrecsam

Yn hollol agored heddiw
Yr hydref yng Nghastell y Waun

Neuadd a Gardd Erddig 

O goetir heddychlon a gweddillion castell mwnt a beili i gaeau gwyrdd godidog a’r rhaeadr Cwpan a Soser, mae digon i’w ddarganfod yn yr ystâd hon, sy’n 300 mlwydd oed.

Wrecsam

Yn hollol agored heddiw
A visitor enjoying the autumn views of Erddig Hall

Castell a Gardd Penrhyn 

Mwynhewch gerdded ling-di-long drwy ardaloedd llai adnabyddus o diroedd y castell i weld dolydd, cuddfan adar heddychlon, coetir, a golygfeydd gwych dros Fae Conwy ac Eryri.

Bangor, Gwynedd

Yn hollol agored heddiw
Ymwelydd yn cerdded tiroedd Castell Penrhyn yn yr hydref, gyda’r castell a’r bryniau yn y cefndir yng Ngwynedd, Cymru.

Parcdir ac ystadau yng Nghanolbarth Cymru

O un o’r enghreifftiau gorau o dirwedd ddarluniadwy yn Ewrop yn Hafod i ystâd goediog heddychlon Llanerchaeron, mae digon i’w ddarganfod yn y canolbarth.

Ystad Hafod 

Un o'r enghreifftiau gorau o dirwedd pictiwresg yn Ewrop

Ystrad Meurig, Ceredigion

Yn hollol agored heddiw
Gwartheg yr Ucheldir yn pori ar Ystad Hafod, Ceredigion

Llanerchaeron 

Nid yw’r ystâd heddychlon hon yn nyffryn coediog Aeron wedi newid rhyw lawer ers dros 200 mlynedd. Mae amrywiaeth o fywyd gwyllt i’w weld drwy gydol y flwyddyn yn y parcdir, y coedwigoedd, y dolydd a’r llyn.

ger Aberaeron, Ceredigion

Yn rhannol agored heddiw
Golygfa o'r awyr yn y gaeaf o Lanerchaeron, Ceredigion

Parcdir ac ystadau yn Ne Cymru

Gyda’r parcdir yn Nhŷ Tredegar yn cynnig dihangfa ddedwydd rhag prysurdeb y ddinas ac ystâd eang sy’n llawn hanes yn Nolaucothi, mae digon o lefydd i fwynhau eiliad o lonyddwch.

Gardd Goedwig Colby 

Gyda’r gweddillion diwydiannol yn eistedd ar lannau nentydd a phyllau heddychlon, blodau gwyllt a llwybrau drwy’r coetir, mae llawer o gyfrinachau i’w datgelu yn yr hen bwll glo hwn.

ger Llanrath, Sir Benfro

Yn rhannol agored heddiw
Y ddôl blodau gwyllt ym mis Chwefror, gardd Coetir Colby, Sir Benfro

Tŷ Tredegar 

Y parcdir 90-erw hwn yw’r lle perffaith i ddianc rhag prysurdeb y ddinas, ac mae digon i’w ddarganfod gyda lawntiau eang, llyn heddychlon, coetir a bywyd gwyllt bendigedig.

Newport

Yn hollol agored heddiw
People walking in parkland at Tredegar with trees in the foreground

Dinefwr 

Gyda hanes sy’n estyn yn ôl dros 2000 o flynyddoedd, mae Dinefwr yn lle eiconig yn hanes Cymru. Crwydrwch 800 erw a dod o hyd i amrywiaeth o fywyd gwyllt, yn ogystal â rhai o’r coed hynaf yng ngwledydd Prydain.

Llandeilo, Sir Gaerfyrddin

Yn hollol agored heddiw
Defaid yn pori gyda Castell Dinefwr yn y cefndir, Dinefwr, Sir Gaerfyrddin

Dolaucothi 

Mae tipyn o bopeth yn yr ystâd 2,500-erw hon, o afonydd, coetir a ffermydd i fryniau gyda golygfeydd trawiadol o Ddyffryn Cothi. Mae llawer mwy i Ddolaucothi na’r mwyngloddiau Rhufeinig.

Llanwrda, Sir Gaerfyrddin

Yn rhannol agored heddiw
Buwch yn sefyll ar ochr bryn yn edrych tua’r camera, gyda choed, bryniau a haul yn machlud yn y cefndir ar Ystâd Dolaucothi ym Mwyngloddiau Aur Dolaucothi, Sir Gâr

Lleoedd eraill o ddiddordeb i chi

Cestyll a chaerau yng Nghymru 

Camwch i mewn i gaer ganoloesol â dwnsiynau yn y Waun neu ymwelwch â chartref tywysogion Cymru yng Nghastell Powis. Darganfyddwch rai o gestyll gwychaf ac enwocaf Cymru.

View from the Wilderness of Powis Castle and it's terraces, Wales

Tai ac adeiladau yng Nghymru 

Darganfyddwch blastai Cymreig mawreddog a’u casgliadau, o gartrefi teuluol i adeiladau a ddyluniwyd gan benseiri enwog. Darganfyddwch hanes a hanesion o’r oes a fu mewn lleoliadau trawiadol ledled Cymru.

Golygfa o wedd ogledd-orllewinol Tŷ Tredegar, Casnewydd, o’r tu allan i’w gatiau haearn gyr du ac aur addurniadol.

Cefn gwlad a choetir yng Nghymru 

Darganfyddwch ddyffrynnoedd dramatig a phrydferth, coetiroedd hynafol a llwybrau glan afon, neu anturiwch ar fynyddoedd gwyllt Cymru ac ymweld â rhai o gopaon mwyaf eiconig y wlad.

Golygfa o lwybr coetir priddlyd yn Nolaucothi, wedi’i amgylchynu gan goed llawn dail yn Sir Gâr, Cymru
Golygfa o Gastell Powis, uwchben ei derasau, Powys, Cymru, yn yr hydref.

Dewch i ddarganfod Cymru

Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.