
Darganfyddwch fwy yng Ngardd Goedwig Colby
Dysgwch pryd mae Gardd Goedwig Colby ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Mae'r Gasebo’n eistedd wrth galon yr Ardd Furiog yng Ngardd Goedwig Colby. Fodd bynnag, ac yntau wedi bod ar gau ers 2019, mae ei waliau a'i weithiau celf yn dechrau dirywio. Cyfrannwch heddiw a helpwch i adfer yr adeilad gwerthfawr hwn a phenderfynu sut y caiff ei ddefnyddio yn y dyfodol.
Wedi’i adeiladu yn y 1970au gan Peter a Pamela Chance, mae Gasebo Colby yn cyfuno celf a natur.
Wedi'i amgylchynu gan ardd sy'n fôr o liw a bywyd, mae'r Gasebo bob amser wedi bod yn hafan o lawenydd a llonyddwch.
Y tu mewn, mae'r waliau wedi'u peintio â gwaith celf 3D rhyfeddol gan yr artist Americanaidd, Lincoln Taber. Wedi'u gorffen hanner canrif yn ôl ar ôl iddynt gael eu comisiynu gan Peter, maen nhw bellach angen eu hadfer ar frys.
Rydyn ni eisiau adfer y berlen hanesyddol boblogaidd hon i'w gwir ogoniant. Mae adfer yn golygu mwy nag achub adeilad; mae'n golygu gwarchod etifeddiaeth fyw.

Yn 2019 symudodd nythfa o wenyn mêl i mewn i do’r Gasebo, gan ei gau i ymwelwyr. Roedd y gwenyn amddiffynnol yn golygu bod gwaith cynnal a chadw rheolaidd yn amhosibl ac felly dirywiodd yr adeilad. Mewn tywydd poeth roedd gwêr a mêl yn toddi trwy'r nenfwd, gan niweidio'r gweithiau celf gwerthfawr.
O’r diwedd, y llynedd, ar ôl sawl ymdrech mae’r gwenyn wedi cael eu hailgartrefu. Gosodwyd to newydd ar y Gasebo ac mae bellach yn barod ar gyfer y cam nesaf o adfer, i adfywio'r gofod i bawb allu ei fwynhau unwaith eto.

Mae angen i ni godi £20,000 i sicrhau dyfodol Gasebo Colby.
Bydd eich rhodd yn ariannu’r gwaith o warchod ac adfer y Gasebo a'i waith celf trompe l'oeil rhyfeddol yn uniongyrchol.
Gyda'n gilydd, gallwn ni sicrhau bod y Gasebo ar gael i’w fwynhau i bawb, am byth.
Helpwch i ariannu'r gwaith o adfer y Gasebo yng Ngardd Goedwig Colby a'i waith celf trompe l'oeil.
Mae miloedd o ymwelwyr â Gardd Goedwig Colby wedi dod o hyd i ysbrydoliaeth a heddwch yn y Gasebo.
Helpwch ni i ddod â'r swyn yn ôl trwy rannu eich syniadau ar sut y gellir defnyddio'r gofod newydd orau yn y dyfodol.
Cysylltwch â ni yn colby@nationaltrust.org.uk

Dysgwch pryd mae Gardd Goedwig Colby ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.