Skip to content

Ymweld â Gardd Goetir Colby gyda'ch ci

Cwpwl yn mynd â’r ci am dro dros bont yng Ngardd Goetir Colby, Sir Benfro
Mynd â’r ci am dro yng Ngardd Goetir Colby, Sir Benfro. | © National Trust Images/James Dobson

Croesawir cŵn yng Ngardd Goetir Colby drwy gydol y flwyddyn, ac mae digon o leoedd ichi fynd am dro gyda'ch cyfaill pedair coes yn ystod eich ymweliad. Helpwch i sicrhau bod Gardd Goetir Colby yn parhau i fod yn rhywle gall pawb ei mwynhau drwy gadw eich ci ar dennyn drwy'r adeg, codi baw ci ar ei ôl a dilyn y canllawiau isod.

Beth sydd angen i mi fod yn ymwybodol ohono?

Mae'r ardd yn llawn bywyd gwyllt, gan gynnwys dyfrgwn, adar dŵr ac adar sy'n nythu ar y tir. Rydym yn gofyn ichi gadw eich ci ar dennyn drwy'r adeg yn yr Ardd Goetir. Cynghorir hefyd ichi beidio â gadael eich anifail anwes yn y car, gan nad yw ein meysydd parcio'n cynnig llawer o gysgod. Siaradwch ag aelod o'r tîm croesawu ymwelwyr os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi.

Ein system raddio pawen

Rydym wedi bod yn gweithio'n galed er mwyn ei gwneud yn haws i chi weld pa mor addas i gŵn fydd eich ymweliad cyn i chi a'ch cyfaill pedair coes gyrraedd. Er mwyn helpu â hyn, rydym wedi creu system raddio pawen ac wedi rhoi gradd i'r holl leoedd dan ein gofal. Mae'r wybodaeth hon ar gael yn llawlyfr aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Mae Gardd Goetir Colby wedi'i graddio ag un bawen.

Croesewir cŵn ar dennyn yma, ond mae cyfleusterau'n gyfyngedig. Maent yn gallu ymestyn eu coesau wrth aros ar dennyn, ac archwilio'r rhan fwyaf o leoedd yn 8.5 erw o Ardd Goetir Colby.

Ble mae fy nghi'n cael mynd yng Ngardd Goetir Colby?

Croesawir cŵn yng Ngardd Goetir Colby drwy gydol y flwyddyn.

Ni chaniateir cŵn yn yr ardd furiog, siop lyfrau na'r ystafell de.

Gallant fynd i'r ystafell arddangos Bothy, lle mae byrddau hefyd ar gael ichi fwynhau eich bwyd o Ystafell De Bothy dan do hefyd.

Ci bach annwyl yng Ngardd Goetir Colby, Sir Benfro dros y gaeaf
Cyfaill blewog yn ymweld â Gardd Goetir Colby, Sir Benfro | © National Trust Images/ James Dobson

Pa gyfleusterau sydd ar gael i gŵn?

Mae powlenni dŵr hefyd ar gael y tu allan i'r blociau toiled, yn ogystal â bachau cŵn o gwmpas. Gwnewch yn siŵr eich bod yn codi baw eich ci mewn bag ac yn ei roi yn y bin. Gallwch brynu danteithion i'ch ci o Ystafell De Bothy yn ogystal â hufen iâ i gŵn.

Mae un bin baw cŵn wedi'i leoli yn y maes parcio isaf.

Ystâd ehangach Colby a chŵn

Rydym wrthi'n gweithio ar nifer o lwybrau newydd ar hyn o bryd a fydd ar gael i'w gweld ar ein gwefan yn 2023. Yn y cyfamser, mae'r Ystâd ehangach yn cynnwys tua 800 erw sy'n llawn bywyd gwyllt, gan gynnwys dyfrgwn, adar dŵr ac adar sy'n nythu ar y tir. Rydym yn gofyn ichi gadw eich ci ar dennyn drwy'r adeg os ydych yn penderfynu archwilio'r ystâd ehangach.

Mae'r ystâd ehangach wedi'i amgylchynu gan dir amaethyddol sydd yn aml yn gartref i dda byw fel gwartheg a defaid.

Nid oes unrhyw gyfleusterau ar gyfer cŵn ar yr ystâd ehangach.

Cod Cŵn

Rydym wedi gweithio gyda’n partner Forthglade i lunio’r cod cŵn hwn, sy’n helpu i sicrhau y gall pawb fwynhau eu diwrnod:

  • Tynhewch y tennyn: gallwch helpu i leihau’r siawns y bydd eich ci yn tarfu ar adar sy’n nythu ar y ddaear ac anifeiliaid fferm drwy ei gadw ar dennyn byr. Mae’n hanfodol defnyddio tennyn byr o gwmpas defaid. Ond os bydd gwartheg yn dod atoch chi, y peth gorau i’w wneud yw gadael eich ci oddi ar y tennyn, a’i alw’n ôl atoch chi pan mae’n ddiogel i wneud hynny.
  • Codi’r baw: glanhewch ar ôl eich ci bob tro. Os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i fin gerllaw, ewch â’r bagiau baw adref gyda chi.
  • Troediwch yn ofalus: cadwch olwg ar arwyddion a hysbysiadau lleol ble bynnag fyddwch chi’n cerdded. Byddant yn rhoi gwybod i chi os yw cŵn wedi’u gwahardd o draeth, er enghraifft, neu os yw llwybr wedi’i wyro, neu os ydych chi mewn ardal lle gall cŵn redeg yn rhydd.
  • Cadw’ch llygad ar y bêl: cofiwch nad yw pawb yn caru cŵn, ac mae rhai pobl yn eu hofni. Felly gwnewch yn siŵr nad yw eich ci yn rhedeg i fyny at bobl eraill, yn enwedig plant.
Golygfa o’r Ardd Furiog yng Ngardd Goedwig Colby, Sir Benfro. Mae llwybr yn arwain drwyddi, a nesaf ato mae borderi trwchus a choeden aeddfed fawr â dail coch tywyll.

Darganfyddwch fwy yng Ngardd Goedwig Colby

Dysgwch pryd mae Gardd Goedwig Colby ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Eirlysiau ym mis Chwefror, Gardd Goetir Colby, Sir Benfro.
Erthygl
Erthygl

Ymwelwch â Gardd Goedwig Colby 

Mae rhywbeth i bawb yma, o hanes diymhongar yr ardd gegin wreiddiol i dreftadaeth gyfoethog yr ardd goedwig a’r lle chwarae naturiol.

Golwg graff ar ddwylo plentyn yn dal broga brown bach yn yr ardd yn yr Argory, Swydd Armagh.
Erthygl
Erthygl

Bywyd gwyllt yng Ngardd Goedwig Colby 

Mae dyffryn coediog Colby dan ei sang â chreaduriaid o bob lliw a llun. Cadwch olwg am adar, pryfed, ystlumod prin ac ambell ddyfrgi hyd yn oed.

Golygfa allanol o adeilad y caffi ac adeilad yr oriel gyda byrddau a chadeiriau yng nghwrt Gardd Goedwig Colby, Sir Benfro
Erthygl
Erthygl

Bwyta a Siopa yng Ngardd Goetir Colby 

Mae Ystafell De’r Caban, sy’n ffefryn gyda phobl leol ac ymwelwyr fei ei gilydd, yn gweini cinio blasus a chacennau sy’n tynnu dŵr o’r dannedd ac mae Galeri’r Groglofft yn gwerthu cynnyrch lleol wedi’u crefftio â llaw. Mae yna siop lyfrau ail-law a chofroddion ar gyfer yr ardd yn ein Canolfan Ymwelwyr.

Plant a chi yn Llyn Bosherston, Stagbwll, Sir Benfro

Llefydd sy’n croesawu cŵn yng Nghymru 

O’r mynyddoedd a’r traeth, i erddi a pharcdiroedd, gallwch ganfod llwybr cerdded cŵn yng Nghymru y byddwch chi, a’ch cyfaill pedair coes, yn ei wir fwynhau. Dyma eich canllaw ar gyfer rhai o’r lleoliadau gorau yng Nghymru i ymweld â nhw gyda chŵn.