
Darganfyddwch fwy yng Ngardd Goedwig Colby
Dysgwch pryd mae Gardd Goedwig Colby ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Dewch i fwynhau diwrnod yn archwilio Gardd Goetir Colby a’r ystâd ehangach gyda’ch ffrindiau a’ch teulu. Archwiliwch yr ardd goediog, gudd, sydd mewn dyffryn, dewch i ddysgu am ei hanes a rhyfeddu at y coed a’r awyr yn y llannerch.
Dyma ychydig o wybodaeth allweddol i’ch helpu i gynllunio eich diwrnod ymlaen llaw.
Archwiliwch Ardd Goedwig Colby a'r ystad ehangach gyda theulu a ffrindiau. Ymunwch â ni am Haf o Hwyl gan Starling Bank. Adeiladwch eich ffau eich hun, mwynhewch yr ardaloedd chwarae naturiol neu cymerwch ran mewn gweithdy neu ddigwyddiad.
Yn y sesiwn gyflwyno, dymhorol hon, byddwn yn archwilio tiroedd Colby a cyn gweithio gydag un neu ddau blanhigyn i wneud amrywiaeth o liwiau inc botanegol ar gyfer lluniadu, ysgrifennu, peintio a gwneud gwaith crefft.
Byddwch yn: Dysgu'r broses o wneud inc o gasglu'n barchus i botelu, gyda gwyddoniaeth lliw ac alcemi ychwanegol a rhyd y ffordd. Dysgwch fwy ac archebu lle yma.
Dewch ar daith gerdded stori gyda'r adroddwr straeon traddodiadol Phil Okwedy wrth iddo rannu chwedlau o Gymru a’r byd. Dysgwch fwy ac archebu lle yma.
Ymunwch â ni ar gyfer saethyddiaeth feddal a gemau'r ddôl yn ystod gwyliau'r haf eleni yn y ddôl blodau gwyllt arbennig o 22 Gorffennaf. Dysgwch fwy yma. Noddir Haf o Hwyl gan Starling Bank
Mae syrcas y ddôl eleni'n cynnwys "Swyn", sioe syrcas a dawns awyr agored wedi'i hysbrydoli gan Sir Benfro â'n gorffennol Celtaidd. Bydd hwn yn berfformiad gwych ac mae archebu lle'n hanfodol. Wedi'i drefnu mewn partneriaeth â Span Arts. Dysgwch fwy ac archebu lle yma.
Mae'r crefftwyr sy'n rhedeg y Loft Gallery yn cynnal amrywiaeth o weithdai drwy gydol yr haf. Dysgwch fwy ac archebu lle yma
Ewch i'n tudalen ddigwyddiadau i weld yr holl bethau gwych sydd gennym ar eich cyfer yma'r haf hwn
Mae’r bagiau cefn yma wedi’u hysbrydoli gan ‘50 o bethau i’w gwneud cyn eich bod yn 11 ¾’, ac yn cynnwys gweithgareddau bendiGOEDwig, o ddefnyddio chwyddwydr i weld pryfed a stethosgop i wrando ar goed i dâp mesur a chyfarwyddiadau ar sut i fesur uchder coeden.
Mae'r bagiau cefn am ddim i unrhyw un eu benthyg heb fod angen archebu na blaendal (maent ar gael ar sail y cyntaf i’r felin). Gofynnwch i’r Tîm Croeso i gael benthyg bag cefn y tro nesaf y byddwch yn ymweld a chewch weld eich plantos yn profi Coetir Colby mewn ffyrdd hwyliog newydd. Cynhelir bob dydd o 22 Ebrill tan 2 Tachwedd. Rhagor o wybodaeth yma yma
Mae hwn yn llwybr gwych i'w fwynhau gyda theulu neu ffrindiau ac mae’n rhoi’r cyfle ichi archwilio uchafbwyntiau’r paentiad trompe l’oeil o gasebo’r Ardd Furiog, gan ddod â’r ‘Tu Mewn i’r Tu Allan’. Llwybr hunan-dywys yw hwn felly dewch unrhyw bryd a chewch gymryd cyn hired ag yr hoffech rhwng yr amseroedd agor a chau. Yn digwydd bob dydd o 1 Mai tan 2 Tachwedd. Dysgwch fwy yma
Gardd y Coetir yw'r lle delfrydol i blant o bob oed ddarganfod natur drwy chwarae. Darganfyddwch y llannerch syllu ar yr awyr ym mhen y goedwig, neu mwynhewch adeiladu ffau dan y coed. Mwynhewch neidio ar y cerrig camu anferth neu archwiliwch y fflora a’r ffawna sy’n ymgartrefu o amgylch y nant sy’n llifo drwy’r ddôl yn rhan isaf yr ardd.
Mae digonedd o leoedd i fwynhau picnic yn yr ardd. Dewiswch rhwng y ddôl, y goedwig neu unrhyw le sy’n apelio atoch.
Os oes angen rhywle hygyrch arnoch, ystyriwch y fainc a wnaed â llaw sydd ar y llwybr gro sy’n rhedeg ochr yn ochr â’r ddôl neu'r fainc ger y bont uchaf. Am wybodaeth fanylach gofynnwch i’n staff yn y ganolfan groeso, sydd yn barod iawn i helpu.
Gall plant ifanc ymarfer ar eu beiciau balansio yn yr ardd goetir yn unig, ac mae chwarae gemau pêl yn ogystal â hedfan barcud yn y ddôl yn llawn hwyl. Nid ydym yn caniatáu beiciau balansio, barcudiaid na gemau pêl yn yr ardd furiog.
Mae yna ardaloedd chwarae naturiol ym mhob man gan gynnwys coed wedi disgyn i'w dringo, ffau bambŵ yn y ddôl, cerrig camu yn y goedwig a llawer mwy i’w ddarganfod pan fyddwch chi’n ymweld.
Darganfyddwch fywyd gwyllt fel adar, bronfreithod bach, gwenoliaid y bondo a’r anifeiliaid di-asgwrn-cefn eraill sy’n byw yn y pyllau a’r afon.
I roi cynnig ar ein llwybrau teulu-gyfeillgar, ewch i’r Ganolfan Croesawu Ymwelwyr i gasglu eich taflen llwybr ac am fwy o wybodaeth, neu i ddarganfod taith gerdded Gardd Goetir Colby ar ein gwefan
Casglwch eich taflen ‘50 o bethau i’w gwneud cyn eich bod yn 11¾’ o’r Ganolfan Croesawu Ymwelwyr a gofynnwch am gyngor gan ein staff cymwynasgar ar ba weithgareddau sy’n gweithio orau yn ystod yr adeg o’r flwyddyn y byddwch chi’n ymweld.
Dysgwch pryd mae Gardd Goedwig Colby ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mae Ystafell De’r Caban, sy’n ffefryn gyda phobl leol ac ymwelwyr fei ei gilydd, yn gweini cinio blasus a chacennau sy’n tynnu dŵr o’r dannedd ac mae Galeri’r Groglofft yn gwerthu cynnyrch lleol wedi’u crefftio â llaw. Mae yna siop lyfrau ail-law a chofroddion ar gyfer yr ardd yn ein Canolfan Ymwelwyr.
Mae Gardd Goetir Colby wedi'i graddio ag un bawen. Dysgwch fwy am ddod â'ch ci i'r dyffryn coediog a phryd a lle allwch chi fynd.
Mae rhywbeth i bawb yma, o hanes diymhongar yr ardd gegin wreiddiol i dreftadaeth gyfoethog yr ardd goedwig a’r lle chwarae naturiol.