Skip to content

Hanes Gardd Goedwig Colby

Olwyn fawr yn gorwedd ar lawr y coetir yng Ngardd Goedwig Colby, Sir Benfro. Mae planhigion wedi tyfu ym mhob rhan o’r olwyn.
Hen olwyn pwll glo yn y coetir yng Ngardd Goedwig Colby | © National Trust Images/James Dobson

Nid yw Colby bob amser wedi bod yn hafan heddychlon. Chwaraeodd y safle rôl flaenllaw yn niwydiant glo Sir Benfro ar ddiwedd y 1700au. Nid yw Colby bob amser wedi bod yn hafan heddychlon. Chwaraeodd y safle rôl flaenllaw yn niwydiant glo Sir Benfro ar ddiwedd y 1700au. Mae atgofion o gefndir diwydiannol Colby i’w gweld hyd heddiw, ar wasgar yma ac acw ar y tiroedd wyth-erw a’r ystâd ehangach.

Gwreiddiau diwydiannol yng Ngardd Goedwig Colby

Er bod cofnodion yn dangos bod glo wedi’i gloddio yn yr ardal ers 700 mlynedd, dechreuodd stori go iawn Colby yn y 1790au pan ddaeth y tirfeddiannwr John Colby i Sir Benfro ar drywydd diwydiant.

Gardd ar faes glo

Mae’r tir wedi’i leoli ym mhen pellaf gwythïen lo Sir Benfro ac mae’r gwythiennau’n gul iawn, felly defnyddiwyd plant i lusgo’r cerbydau glo allan o’r pyllau. Roedd glo Colby yn cael ei gludo i’r arfordir ac yna’n cael eu lwytho ar drên i Lanusyllt (neu Saundersfoot).

Mae mapiau cynnar o’r ystâd yn dangos lleoliad llawer o’r pyllau, ond nid yw’r cofnodion yn ddigon cywir i bennu’r union nifer. Os gwelwch rywbeth sy’n edrych fel mynedfa i bwll glo, cadwch draw, os gwelwch yn dda.

Unigolion allweddol cynnar Colby

1700au

John Colby

Dechreuodd popeth gyda John Colby a’i byllau glo, ond mae llawer o unigolion allweddol wedi dylanwadu ar yr ystâd ers hynny. 

Tirfeddiannwr yn Sir Benfro a ddaeth i’r ardal yn y 1790au i gloddio am lo. Ef oedd Is-Gyrnol Byddin Sir Benfro a Llywodraethwr Castell Hwlffordd ar adeg yr Ymosodiad Olaf. Arweiniodd y fyddin leol yn erbyn ymosodiad olaf y Ffrancod ar Brydain ym 1797. 

Gorymdeithiodd y fyddin dros nos i Abergwaun, lle ildiodd y Ffrancod i Syr John Campbell o Stagbwll. 

Cofeb Pamela Chance yng Ngardd Goedwig Colby, Sir Benfro, sy’n cynnwys saith piler mewn cylch yn sefyll ymysg y coed.
Cofeb Pamela Chance yng Ngardd Goedwig Colby | © National Trust Images/James Dobson

Pamela a Peter Chance a Gardd Colby

Prynwyd Tŷ Colby a’r ardd furiog gan y pâr ym 1965 a pharhawyd â’r plannu. Adeiladwyd y gasebo hefyd, a chomisiynwyd darn o waith celf trompe l’oeil.

Ym 1979 rhoddodd Peter y tŷ a’r ardd furiog i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Bu farw’r cwpl yn y 1980au gan adael gwaddol i blannu môr o rododendronau.

Cofeb yn y coed

Yng nghoedwig y dwyrain fe welwch obelisg coffa ac arno’r llythrennau IOC, sy’n cyfeirio at enw iawn Peter, Ivan Oswald. Cylch o bileri metel yw cofeb ei wraig, Pamela, yn Lôn Hir ar ochr arall y dyffryn.

Tony a Cynthia Scourfield-Lewis a Gardd Colby

Cymerodd y cwpl reolaeth o Dŷ Colby a’r ardd furiog ym 1985. Gwnaethant helpu i drawsnewid yr ardd furiog i mewn i’r lleoliad ffurfiol a welwch heddiw, gan blannu a chreu’r cynllun addurniadol.

Dychwelodd yr ardd furiog i’n gofal ni yn 2010.

Golygfa o’r Ardd Furiog yng Ngardd Goedwig Colby, Sir Benfro. Mae llwybr yn arwain drwyddi, a nesaf ato mae borderi trwchus a choeden aeddfed fawr â dail coch tywyll.

Darganfyddwch fwy yng Ngardd Goedwig Colby

Dysgwch pryd mae Gardd Goedwig Colby ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Eirlysiau ym mis Chwefror, Gardd Goetir Colby, Sir Benfro.
Erthygl
Erthygl

Ymwelwch â Gardd Goedwig Colby 

Mae rhywbeth i bawb yma, o hanes diymhongar yr ardd gegin wreiddiol i dreftadaeth gyfoethog yr ardd goedwig a’r lle chwarae naturiol.

Golygfa allanol o adeilad y caffi ac adeilad yr oriel gyda byrddau a chadeiriau yng nghwrt Gardd Goedwig Colby, Sir Benfro
Erthygl
Erthygl

Bwyta a Siopa yng Ngardd Goetir Colby 

Mae Ystafell De’r Caban, sy’n ffefryn gyda phobl leol ac ymwelwyr fei ei gilydd, yn gweini cinio blasus a chacennau sy’n tynnu dŵr o’r dannedd ac mae Galeri’r Groglofft yn gwerthu cynnyrch lleol wedi’u crefftio â llaw. Mae yna siop lyfrau ail-law a chofroddion ar gyfer yr ardd yn ein Canolfan Ymwelwyr.

Golwg graff ar ddwylo plentyn yn dal broga brown bach yn yr ardd yn yr Argory, Swydd Armagh.
Erthygl
Erthygl

Bywyd gwyllt yng Ngardd Goedwig Colby 

Mae dyffryn coediog Colby dan ei sang â chreaduriaid o bob lliw a llun. Cadwch olwg am adar, pryfed, ystlumod prin ac ambell ddyfrgi hyd yn oed.