Diwrnodau allan i'r teulu yn Dinefwr

Neidio i
Mae rhywbeth i’w wneud bob amser yn Dinefwr, waeth beth fo’r tywydd. Archwiliwch ystafelloedd y tŷ, dewch i weld beth sy’n newydd yn yr Iard Dderw, mwynhewch ginio yn y caffi, ewch am dro o amgylch y parcdir a’r coetiroedd Cymreig hynafol, neu os ydych chi’n teimlo’n egnïol, ewch i weld adfeilion urddasol Castell Dinefwr.
Hanner Tymor Mai yn Ninefwr
Archwiliwch hanner tymor yn Ninefwr. Dewch o hyd i ystod o weithgareddau hwyliog i’r teulu yn Nhŷ Newton, gan gynnwys chwarae dychmygol, sesiynau crefft a chyfle i dynnu lluniau ar y cyd.
Dewch i ddringo yn yr Hen Olchdy, sy’n agor ddydd Sadwrn 23 Mai gyda’r ‘Triciau Teiars’ newydd sbon. Mae’r ardal hon sydd wedi’i thrawsnewid bellach yn gartref i deiars a achubwyd o dirlenwi, ac yn lle hynny, maent yn cynnig y lle perffaith i chwarae, adeiladu a bod mor ddychmygol ag y dymunwch.
Trwy gydol yr wythnos, bydd Tŷ Newton yn orlawn o gemau hwyliog i’r teulu cyfan. Gwnewch eich marc ar ein bwrdd tynnu lluniau cydweithredol yn yr ystafell fwyta, crëwch eich pyped eich hun yn y pantri a mwynhewch gêm fwrdd deuluol yn yr ystafell groeso. Mae llawer mwy i’w archwilio...
Digwyddiadau fesul dydd (parhewch i edrych yn ôl gan y gellir ychwanegu digwyddiadau newydd):
Dydd Llun 25 Mai, Creu Bwydwr Adar 1 - 3pm
Byddwch yn greadigol wrth greu eich bwydwr adar eich hun i helpu i gefnogi bywyd gwyllt yn eich ardal leol.
Dydd Mercher 27 Mai, Taith Gerdded Dolydd, 1pm-2pm
Ymunwch â ni ar gyfer taith dywys ysgafn drwy’r parcdir, yn archwilio anifeiliaid a phlanhigion cyfoethog yr ystâd. Dan arweiniad un o’n ceidwaid, dysgwch am y blodau gwyllt hardd sy’n ffynnu yma, gan gynnwys amrywiaeth o degeirianau sydd i’w gweld yn y dolydd.
Dydd Iau 28 Mai, Creu Bwydwr Adar, 1-3pm
Byddwch yn greadigol wrth greu eich bwydwr adar eich hun i helpu i gefnogi bywyd gwyllt yn eich ardal leol.
Dydd Gwener 29 Mai, Hwyl Ysgol Goedwig
Gweithgareddau ymarferol wedi’u hysbrydoli gan natur, dan arweiniad Ysgol Goedwig Seed and Root. Bydd y plant yn archwilio, chwarae a chreu gan ddefnyddio deunyddiau naturiol, gan annog hyder, chwilfrydedd a chysylltiad â’r awyr agored.
Dydd Llun - Gwener, 25 - 29 Mai 11am - 12pm
Gafaelwch yn eich binocwlars ac mwynhewch sesiwn gwylio adar o'r sied adar yn y parcdir.
Oriau o hwyl yn Dinefwr
Beth bynnag fo'r tywydd, gadewch i'r lle arbennig hwn ddarparu'r hwyl yn ystod y tymor 'ma.
Gyda’r parcdir yn aros amdanoch, rhedwch, cerddwch, chwarae cuddio, crwydro’r Parc Ceirw neu’r Castell.
Cewch hyd i'r Cwt Cludfwyd yn y mae parcio, y lle am rywbeth melys i'w fwyta neu ddiod cynnes ar ddiwrnod oer, ar agor pob dydd.

Beth sydd i’w weld yn y Parcdir?
Tu fas mae aceri o barcdir i ddarganfod, perffaith ar gyfer rhedeg, neidio a chwarae.
A welwch chi’r Gwartheg Gwyn yn y cae o flaen y tŷ? Neu mynd syth am Gastell Dinefwr? Beth bynnag eich dewis mae digon o hwyl i’w gael tu fas yn Dinefwr.
Yn y Parc Ceirw cewch hyd i’r llwybr bordiau sy’n grêt ar gyfer bygis a’r cwt cludfwyd sy’n gweini paneidiau neu rhywbeth melys i’w fwynhau ar ôl mynd am dro.
Ddim yn siŵr ble i gerdded? Bydd ein tîm yn fwy na hapus i’ch helpu i ddarganfod y llwybr gorau i chi, mae hefyd map i’w weld yn y maes parcio.
Cynllunio eich ymweliad gyda’r teulu
I’ch helpu i gynllunio’ch diwrnod allan ymlaen llaw, dyma ychydig o wybodaeth allweddol:
· Gallwch ddod o hyd i'n holl oriau agor yma ar gyfer gwahanol rannau'r ystâd. Cynghorwn eich bod yn cael golwg ar ein horiau agor cyn i chi deithio oherwydd gall amseroedd agor rhai rhannau newid yn dibynnu ar y tymor.
· Mae croeso i gŵn o gwmpas y rhan fwyaf o'r ystâd ac yn y tŷ a'r caffi. Darllenwch fwy am ymweld gyda’ch ffrind pedair coes yma.
· Gellir dod o hyd i’r toiledau yn y maes parcio ac o fewn islawr Tŷ Newton. Mae'r toiledau anabl a’r cyfleusterau newid yn y maes parcio.
· Gellir gweld prisiau mynediad ar ein tudalen we yma (Gall aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gael mynediad am ddim).
· Os ydych chi’n ymweld â ni mewn cadair olwyn neu gyda chadair wthio, mae mynediad gwastad o’r maes parcio i Dŷ Newton. Gellir gweld llwybrau hygyrch, gwastad o flaen Tŷ Newton, ond noder y gallai rhai llwybrau fod yn anaddas ac nid oes lifft y tu mewn i’r tŷ. Os oes angen cymorth arnoch chi, neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, gofynnwch i aelod o’n tîm cyfeillgar.
· Mae digonedd o lefydd i fwynhau picnic yn Dinefwr, neu'r mae'r cwt cludfwyd a'r caffi yn y tŷ yno ar gyfer byrbrydau, hufen iâ neu ddiodydd.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
Ymweld â Thŷ Newton a'r Ardd yn Dinefwr
Yn swatio ym mharc Dinefwr ger Llandeilo, mae Tŷ Newton yn blasty Cymreig anffurfiol sy’n cynnig cyfuniad o’r hanesyddol a’r cyfoes.

Crwydrwch y parc yn Ninefwr
Dewch am dro drwy Barc Dinefwr ger Llandeilo, ystâd 800-erw drawiadol lle gwelwch amrywiaeth o fywyd gwyllt a rhai o’r coed hynaf yng ngwledydd Prydain.

Ymweld â Dinefwr gyda'ch ci
Mwynhewch ddiwrnod allan gyda'ch ci yn Ninefwr. Croesawir cŵn drwy gydol y flwyddyn, ac mae digon o leoedd ichi eu harchwilio.
