Skip to content

Ymweld â Gerddi Dyffryn gyda’ch grŵp

Grŵp o ymwelwyr ar daith o’r ardd yn y Cwrt Palmantog yng Ngerddi Dyffryn, Bro Morgannwg, Cymru
Taith o’r ardd yn y Cwrt Palmantog yng Ngerddi Dyffryn | © National Trust Images/Arnhel de Serra

O ddiwrnod llawn dop o bethau i’w gweld a’u gwneud i rywle i ymlacio am ychydig oriau, mae gan Erddi Dyffryn syniadau gwych ar gyfer pob math o ymweliad grŵp. Mwynhewch grwydro’r gerddi, cinio a byrbrydau blasus yn y caffi neu ymlwybro drwy’r ardd goed – byddwch yn siŵr o gael diwrnod i’r brenin.

Cyfraddau grŵp 

Mae grwpiau o 15 neu fwy yn cael gostyngiad ar y ffi fynediad. Mae aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cael mynediad am ddim gyda’u cerdyn aelodaeth. I fod yn gymwys ar gyfer gostyngiad grŵp, rhaid i’r grŵp fod yn 15 neu fwy (yn aelodau o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol neu beidio), archebu ymlaen llaw a thalu mewn un taliad.  

Cofiwch nad ydym yn derbyn archebion grŵp ar benwythnosau Gŵyl y Banc. 

Pwy sy’n gallu cael mynediad am ddim?  

Tywyswyr bwrdd twristiaeth cofrestredig (drwy ddangos bathodyn dilys), gyrwyr coetsys ac arweinwyr teithiau sydd â grwpiau o 15 neu fwy. Mae aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol hefyd yn cael mynediad am ddim, felly gallwch ad-dalu’r ffi fynediad i aelodau os ydych wedi’i chynnwys yn eich pecyn yn ôl eich disgresiwn – ni chaiff hon ei had-dalu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.  

Rhaid i aelodau ddod â’u cardiau aelodaeth gyda nhw i osgoi talu’r gyfradd grŵp lawn. Os hoffai unrhyw aelodau o’ch grŵp ymuno â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, cyfeiriwch nhw at ein tudalen Ymuno â Ni neu gofynnwch iddynt ffonio 0344 800 1895. 

Trefnu teithiau o’r ardd ymlaen llaw 

Dysgwch am ein cynlluniau i adfywio’r gerddi poblogaidd hyn a hanes y gerddi a’u dylunydd, Reginald Cory tra’n dilyn llwybr a ddyluniwyd i frolio’r holl uchafbwyntiau tymhorol. 

Os oes gennych ddiddordeb penodol, cysylltwch â ni ac fe allwn drafod opsiynau ymhellach. 

  • 16 person fesul taith. Efallai y bydd angen rhannu grwpiau mwy yn grwpiau llai a chynnal y teithiau ar adegau gwahanol, yn dibynnu ar argaeledd gwirfoddolwyr.  

  • Pris: am ddim – croesewir rhoddion 

  • Ar gael: Mawrth – Hydref. Yn amodol ar argaeledd gwirfoddolwyr Tywyswyr Teithiau’r Ardd. Byddwn yn cadarnhau hyn gyda chi bythefnos cyn eich ymweliad.  

  • Hyd: 1 awr oni nodir fel arall 

Os hoffech wneud cais am daith o’r ardd ar gyfer eich grŵp neu roi gwybod i ni am unrhyw ofynion mynediad, nodwch hyn ar eich ffurflen archebu grŵp. 

Ymwelwyr ar daith o’r ardd yn Nymans, Gorllewin Sussex
Ymwelwyr ar daith o’r ardd | © National Trust Images/Chris Lacey

Bwyd a diod 

Gallwn drefnu bwyd a diod i’ch grŵp ymlaen llaw (os oes ar gael) i sicrhau’r profiad gorau i chi, oherwydd gall y caffi yn Nyffryn fod yn brysur iawn.  

Cysylltwch â ni ymlaen llaw i allu ymlacio a mwynhau danteithion blasus fel rhan o’ch ymweliad. 

Symud o gwmpas 

Rydym yn cynnig gwasanaeth (i’w archebu ymlaen llaw) o gadeiriau olwyn a sgwteri symudedd am ddim, os ydynt ar gael. Mae bygi hefyd ar waith yn achlysurol, rhwng 11am a 4pm, sy’n cael ei yrru gan wirfoddolwr. Does dim modd archebu hwn. 

Gall ein holl deithiau gael eu trefnu i fod yn hollol hygyrch – nid oes rhaid defnyddio grisiau i gael mynediad i’r rhan fwyaf o’r gardd-ystafelloedd a gallwn drefnu ambell seibiant ger meinciau. Rydym hefyd yn cynnig teithiau synhwyrau i’r sawl sy’n colli eu golwg. 

Sut i archebu 

Rhaid i bob grŵp archebu ymlaen llaw. Argymhellwn 4 awr ar gyfer eich ymweliad â’r eiddo. 

  1. Ffoniwch ni cyn cwblhau eich ffurflen archebu i wneud yn siŵr bod eich dyddiad ar gael. 

  1. Llenwch y ffurflen archebu amgaeedig a’i dychwelyd i ni dros e-bost neu drwy’r post.  

  1. Cysylltwch â ni bythefnos cyn eich ymweliad i gadarnhau eich niferoedd terfynol, gan gynnwys nifer aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. 

  1. Ar ôl eich ymweliad byddem yn gwerthfawrogi adborth – llenwch a dychwelwch y ffurflen adborth i’n helpu i wella ar gyfer y tro nesaf. 

Os oes angen i chi ganslo neu newid archeb, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl. 

Os cewch eich oedi ar eith taith yma, gallwch ffonio’r dderbynfa neu’r swyddfa. 

Ymweliadau ymgyfarwyddo am ddim i arweinwyr grŵp  

Os ydych chi’n trefnu ymweliad grŵp, gallwch wneud cais am ein Tocyn Masnach Deithio am ddim a gallwch chi a ffrind neu gydweithiwr gael mynediad am ddim i dros 300 o’n lleoliadau ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon am 12 mis. Dyma’r ffordd berffaith i gynllunio ymweliad llwyddiannus – drwy weld rhywle gyda’ch llygaid eich hun. I dderbyn eich tocyn, ffoniwch 0344 800 2329, neu e-bostiwch ni yn NTTravelTrade@capita.co.uk

Cysylltwch â ni am ddod â grŵp i Erddi Dyffryn 

Cysylltwch â ni ar 029 2059 3328 neu e-bostiwch ni i gael rhagor o wybodaeth ac i ofyn am ffurflen archebu.

Herbaceous Border in summer, Dyffryn Gardens, Vale of Glamorgan

Darganfyddwch fwy yng Ngerddi Dyffryn

Dysgwch pryd mae Gerddi Dyffryn ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

The Causeway at Dyffryn Gardens during the summer, in the foreground are flowerbeds full of green and purple flowers, in the middle background Dyffryn House stands tall, the sky is blue with wispy clouds.
Erthygl
Erthygl

Y gerddi yn Nyffryn 

Darganfyddwch erddi 55 erw Dyffryn, gan gynnwys yr ardd goed, planhigion trofannol y tŷ gwydr, Gerddi’r Gegin a’r ardal chwarae wyllt.

Caffi’r Ardd, Gerddi Dyffryn, Bro Morgannwg
Erthygl
Erthygl

Bwyta a siopa yng Ngerddi Dyffryn 

Mwynhewch brydau i dwymo’r galon neu snac ysgafn yn y caffi, gyda danteithion blasus yn goron ar eich ymweliad. A chofiwch alw i mewn i’r siop i brynu rhywbeth i gofio’ch ymweliad.

Gwedd Ogleddol y tŷ yn Nhŷ a Gerddi Dyffryn, Bro Morgannwg, Cymru
Erthygl
Erthygl

Hanes Dyffryn 

Adeiladodd John Cory y tŷ a’r gerddi yn Nyffryn gyda’r cyfoeth a enillodd drwy ei orchestion yn y diwydiant glo.

Gwirfoddolwyr yng Ngerddi Dyffryn, Bro Morgannwg, Cymru
Erthygl
Erthygl

Gwirfoddoli yng Ngerddi Dyffryn 

Dysgwch sut y gallwch gyfrannu yng Ngerddi Dyffryn a chael golwg ar y gwahanol gyfleoedd sydd ar gael.