
Darganfyddwch fwy yng Ngerddi Dyffryn
Dysgwch pryd mae Gerddi Dyffryn ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Mwynhewch hwyl yr ŵyl gyda’r teulu yng Ngerddi Dyffryn y Nadolig hwn.
6 Rhagfyr – 4 Ionawr
Mae Siôn Corn wedi colli ei geirw ac mae angen i chi ei helpu i ddod o hyd iddyn nhw. Maen nhw'n cuddio yn y gerddi a phan fyddwch chi'n dod o hyd iddyn nhw, bydd ganddyn nhw gemau i chi eu chwarae. Gemau fel sticio’r trwyn ar y carw, ras pelen eira ar lwy, dyfalu’r gân Nadolig a mwy. Y math o hwyl sy'n gwneud i bob aelod o'r teulu, o'r ieuengaf i'r hynaf, chwerthin gyda'i gilydd.
Ar ôl dod o hyd i'r holl geirw pren (a wnaed yn arbennig gan ddefnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu a phren o’r gerddi), gallwch chi fwynhau ychydig o liwio Nadoligaidd yn y siop lyfrau ail-law wedi’i haddurno a thwymo gyda siocled poeth a thrît tymhorol yng Nghaffi’r Ardd.
Mae ein holl ardaloedd dan do wedi'u haddurno â channoedd o addurniadau a wnaed gan ein tîm o wirfoddolwyr ac mae cyfle i dynnu llun fel teulu o flaen ein harwydd "Nadolig Llawen" enfawr wrth ben rhodfa o goed Nadolig.
Addurniadau Nadolig yng Ngerddi Dyffryn
Mae’r llwybr yn hygyrch ac yn addas ar gyfer cymhorthion symudedd a bygis. Does dim archebu ac mae’r digwyddiad am ddim (rhaid talu’r pris mynediad arferol, mynediad am ddim i aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol). Rydyn ni hefyd yn croesawu cŵn (ar dennyn) yng Ngerddi Dyffryn fel y gallwch chi ddod â phob aelod o'ch teulu gyda chi.
Mae hwn yn ddigwyddiad awyr agored yn bennaf, felly gwisgwch yn addas ar gyfer y tywydd a chofiwch siwmper Nadolig hwyl (rydyn ni hefyd yn annog clustiau ceirw a hetiau Siôn Corn!)


Dysgwch pryd mae Gerddi Dyffryn ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mwynhewch brydau i dwymo’r galon neu snac ysgafn yn y caffi, gyda danteithion blasus yn goron ar eich ymweliad. A chofiwch alw i mewn i’r siop i brynu rhywbeth i gofio’ch ymweliad.

Darganfyddwch erddi 55 erw Dyffryn, gan gynnwys yr ardd goed, planhigion trofannol y tŷ gwydr, Gerddi’r Gegin a’r ardal chwarae wyllt.

Mae gan Erddi Dyffryn sgôr o ddwy bawen. Dysgwch fwy am ymweld gyda’ch ci a sut rydym yn gwneud Dyffryn yn well fyth i gŵn.
