
Darganfyddwch fwy yn Erddig
Dysgwch pryd mae Erddig ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Gyda gardd ffurfiol a 1,200 erw o barcdir wedi ei dirlunio i’w mwynhau, mae gan Erddig ddigonedd o ddewisiadau i chi fynd allan ac ymgolli yn natur. Rhowch gynnig ar ein gweithgareddau grŵp cyfeillgar, am ddim, gan gynnwys cerdded Nordig a parkrun, neu chwiliwch am lwybr i’w gerdded ar eich cyflymder eich hun.
Gall mynd i’r awyr agored yn Erddig fod yn ffordd wych o gael gwared ar straen a gwella eich llesiant. A does dim rhaid i chi fod yn chwys i gyd i gael budd.
– Glyn Smith, Prif Arddwr Erddig
Mae ein holl weithgareddau am ddim. Mae bwced rhoddion ar gyfer y cerdded Nordig a sesiynau Esgidiau Rhedeg Mwdlyd i helpu i brynu offer newydd, ond nid oes gofyn i chi gyfrannu.
Mae’r bwyty yn Erddig ar agor ar ôl ein holl weithgareddau bore sydd wedi eu trefnu, felly gallwch sbwylio eich hun a dod i adnabod ffrindiau newydd.
Os ydych yn chwilio am daith gerdded fer heibio’r Gwpan a’r Soser, nodwedd dŵr o’r 18fed ganrif, neu daith bellach trwy’r coetir a’r gweirgloddiau, mae llwybr addas i bawb yng ngardd ffurfiol Erddig a’r parcdir wedi ei dirlunio.
Ar gyfer pobl sy’n ei chael yn anos symud, mae llwybr heb risiau o gwmpas yr ardd ac mae rhai llwybrau parcdir yn addas i gadeiriau olwyn hefyd.
Cerdded Nordig yw’r ymarfer i’r corff cyfan gorau i bobl o bob lefel o ffitrwydd. Yn ddiogel a chymdeithasol, mae’n eich helpu i gryfhau cyhyrau heb roi fawr o straen ar gymalau, a gallai helpu i leddfu problemau gwar, ysgwydd a chefn.
Ymunwch â’n harweinwyr teithiau cerdded gwirfoddol ar gyfer y sesiynau iachusol yma ar ddyddiau Mercher a Sadwrn. Croesawir pob gallu – rydym yn darparu polion cerdded Nordig, neu gallwch ddod â rhai eich hun.
Wedi ei drefnu a’i arwain gan dîm ymroddedig o wirfoddolwyr, mae parkrun Erddig yn ffordd wych o gychwyn y penwythnos ac edmygu cyffiniau’r ystâd.
Mae Parkrun yn ddigwyddiadau wythnosol, cymunedol 5k am ddim. Fe’u cynhelir bob bore Sadwrn am 9am mewn parciau a mannau agored o gwmpas y byd. Mae’n brofiad cadarnhaol, croesawus a chynhwysol heb unrhyw gyfyngiad amser ac ni fydd unrhyw un yn gorffen yn olaf. Mae croeso i bawb ddod draw, os byddwch yn cerdded, jogio, rhedeg, gwirfoddoli neu wylio.
Tu allan i’r tŷ y mae’r daith yn cychwyn a gorffen, ac mae’n cynnwys ‘allt Erddig’ sydd newydd ei enwi i herio eich hun ar y ffordd. Croesewir cŵn ar dennyn byr ar ein parkrun.
Os nad ydych yn teimlo fel gwneud y 5k, mae croeso i chi ymuno â ni fel stiward gwirfoddol.
Grŵp rhedeg i ddechreuwyr sy’n cael ei gynnal ddwywaith yr wythnos yw Esgidiau Rhedeg Mwdlyd Erddig sy’n cyfarfod bob bore Sadwrn ac ar nos Fercher. Mae’r grŵp yn gefnogol a chroesawus iawn, yn addas i bob gallu, gan gynnwys dechreuwyr llwyr.
Am ragor o wybodaeth am unrhyw un o’n gweithgareddau awyr agored, ffoniwch ni ar 01978 315179 neu anfonwch e-bost at erddig@nationaltrust.org.uk.
Dysgwch pryd mae Erddig ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
O gennin Pedr yn y gwanwyn i 180 o wahanol fathau o afalau yn yr hydref, dysgwch am yr ardd furiog hon o’r 18fed ganrif ai gweithgareddau tymhorol a’r uchafbwyntiau.
Dysgwch beth yw’r prif bethau i’w gweld a’u gwneud wrth ymweld â’r parcdir. O afonydd troellog a nodwedd ddŵr o’r 18fed ganrif i’r llethr dramatig yn arwain at Glawdd Wat.
Mae gan Erddig sgôr o ddwy bawen. Mae Erddig yn cynnig digon o gyfleoedd i rasio, neidio, ffroeni a sblasio i gŵn. Dysgwch am y parth oddi ar dennyn a chyfyngiadau ar fynediad a all effeithio ar eich cynlluniau.
Edrychwch ar y mannau i fwyta a siopa yn Erddig. Mae’r rhan fwyaf yn ein hadeiladau hanesyddol ac mae pob pryniant yn ein helpu i ofalu am Erddig i genedlaethau’r dyfodol ei fwynhau.