Skip to content

Ymweld ag Erddig efo'ch ci

Ci gyda blew cyrliog yn eistedd ar bentwr o bren wrth ymyl trên lliwgar ac arwydd ‘50 peth’ yn Erddig, Clwyd
Ci ac arwydd 50 Peth i’w wneud yn Erddig, Wrecsam | © National Trust Images/Vicki Coombe

Bydd crwydro'r erwau o barcdir yn Erddig gyda'ch hoff anifail yn ffordd wych o fwynhau'r dirwedd hardd, ac rydym yn croesawu cŵn sy'n ymddwyn yn dda. Darllenwch sut i wneud y mwyaf o'ch ymweliad ag ystâd Erddig hefo'ch ci ufudd.

Ein system sgorio pawennau

Rydym wedi bod yn gweithio’n galed i’w gwneud hi’n haws i chi wybod pa mor groesawgar fydd eich ymweliad i chi a’ch ci cyn i chi gyrraedd. I helpu gyda hyn, rydym wedi creu system sgorio pawennau newydd, a rhoi sgôr i’n holl leoliadau. Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth hon yn llyfryn aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Mae gan Erddig sgôr o ddwy bawen.

Mae gan y lleoedd hyn bowlenni dŵr, biniau cŵn a llwybrau cerdded sy'n croesawu cŵn. Gallwch fynd â'ch ci i rai ardaloedd, ond nid i bobman. Os oes man gwerthu bwyd a diod, gallwch chi gael paned o de gyda nhw, mae'n debyg y tu allan. Darllenwch ymlaen i ddarganfod yn union ble gallwch chi fynd â'ch ci.

Beth sydd ar gael yn Erddig ar gyfer cŵn?

Mae Erddig yn cynnig digon o gyfleoedd i rasio, neidio, ffroeni a sblasio trwy’r parc gwledig.

  • Mynediad trwodd i’n gardd de ac iard y domen i chi a’ch ci, ond ddim i mewn i’r tŷ, y gerddi, bwytai a siopau.

  • Dŵr ar gyfer bowlenni yfed.

  • Tri bin baw cŵn; un ychydig y tu allan i’r ardd de ar y llwybr i lawr at y gwpan a soser; un ar ochr arall yr ystâd wrth faes parcio Melin Puleston; un ar fynedfa ffordd Erddig i’r ystâd; a bin arferol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ym maes parcio Sonlli.

  • Bagiau baw ci rhag ofn i chi anghofio eich rhai chi.

  • Parth i fod oddi ar y tennyn ym Melin Puleston, gweler yr arwyddion.

Cerdded ger anifeiliaid sy'n pori

Mae ffermwyr tenant yn byw ar ein parcdir, ac mae ganddynt amrywiaeth o dda byw a all fod yn pori'n unrhyw le ar gaeau'r ystâd. Mae gennym hefyd gyfoeth o fywyd gwyllt sydd angen eu diogelu. I atal damweiniau ac ymosodiadau i dda byw a bywyd gwyllt, rhaid cadw cŵn ar dennyn, oni bai eich bod yn ein 'hardal rhedeg yn rhydd', lle mae'n rhaid eu cadw dan reolaeth. Cofiwch, gall hyd yn oed gŵn bach cyfeillgar ddychryn dafad yn anfwriadol.

Bachwch bamffled 'Cŵn yn Erddig' o'n Swyddfa Docynnau i gael map o'r llwybrau cerdded gorau, ac i ddod o hyd i'n 'hardal rhedeg yn rhydd'.

Cŵn cymorth yn Erddig

Mae croeso i gŵn sy’n rhoi cymorth i ymwelwyr ag anableddau y tu mewn i’r tŷ, yn y gerddi, y bwytai a’r siopau. Am fanylion mwy manwl am fynediad a chyfleusterau ewch i’n hafan.

Visitors walking through the sheltered valley at Lockeridge Dene and Piggledene, near Marlborough, Wiltshire
Bydd cŵn wrth eu bodd | © National Trust Images/James Dobson

Cod Cŵn

Rydym wedi gweithio gyda’n partner Forthglade i lunio’r cod cŵn hwn, sy’n helpu i sicrhau y gall pawb fwynhau eu diwrnod:

  • Tynhewch y tennyn: gallwch helpu i leihau’r siawns y bydd eich ci yn tarfu ar adar sy’n nythu ar y ddaear ac anifeiliaid fferm drwy ei gadw ar dennyn byr. Mae’n hanfodol defnyddio tennyn byr o gwmpas defaid. Ond os bydd gwartheg yn dod atoch chi, y peth gorau i’w wneud yw gadael eich ci oddi ar y tennyn, a’i alw’n ôl atoch chi pan mae’n ddiogel i wneud hynny.
  • Codi’r baw: glanhewch ar ôl eich ci bob tro. Os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i fin gerllaw, ewch â’r bagiau baw adref gyda chi.
  • Troediwch yn ofalus: cadwch olwg ar arwyddion a hysbysiadau lleol ble bynnag fyddwch chi’n cerdded. Byddant yn rhoi gwybod i chi os yw cŵn wedi’u gwahardd o draeth, er enghraifft, neu os yw llwybr wedi’i wyro, neu os ydych chi mewn ardal lle gall cŵn redeg yn rhydd.
  • Cadw’ch llygad ar y bêl: cofiwch nad yw pawb yn caru cŵn, ac mae rhai pobl yn eu hofni. Felly gwnewch yn siŵr nad yw eich ci yn rhedeg i fyny at bobl eraill, yn enwedig plant.

Cadwch eich ci dan reolaeth 

Mae ein diffiniad o reolaeth agos neu effeithiol fel a ganlyn:

  • Y gallu i alw eich ci atoch mewn unrhyw sefyllfa, ar yr alwad gyntaf.
  • Gallu gweld eich ci yn glir bob amser (nid yw gwybod ei fod wedi diflannu i mewn i’r llystyfiant neu dros y bryn yn ddigon). Yn ymarferol, mae hyn yn golygu ei gadw ar lwybr cerdded os yw’r llystyfiant o’ch cwmpas yn rhy drwchus i allu gweld eich ci.
  • Peidio â gadael iddo fynd at ymwelwyr eraill heb eu caniatâd.
  • Cael tennyn i’w ddefnyddio os byddwch yn dod ar draws da byw, bywyd gwyllt neu os gofynnir i chi ddefnyddio un.
Little dog sat with tongue out looking excited to try the tub of Scoop's Ice Cream for Dogs being held by a girl at Dunster Castle, Somerset
Cadw’n cŵl | © National Trust Images/James Dobson

Awgrymiadau da am ymweliad pleserus i gŵn yn Erddig

Gwyliwch am ein bywyd gwyllt

Mae’r parcdir yn gartref i ddau ffermwr sy’n denantiaid gydag amrywiaeth o anifeiliaid ac mae’r ystâd yn gartref i lawer o fywyd gwyllt. Mewn ardaloedd lle mae llawer o fywyd gwyllt, rydym yn gofyn i chi gadw eich ci ar dennyn fel eu bod yn teimlo’n ddiogel.

Gwyliwch am hysbysiadau lleol

Efallai y bydd cyfyngiadau mewn coetiroedd neu ar dir amaethyddol ar amserau sensitif yn y flwyddyn, er enghraifft yn ystod y tymor ŵyna.

Cadwch nhw’n gyfforddus

Gall cŵn orboethi yn ddifrifol os cânt eu gadael mewn ceir. Nid ydym yn argymell hyn yn Erddig.

Wedi anghofio rhywbeth hanfodol?

Mae gennym ychydig o fagiau baw cŵn dros ben bob amser yn ein swyddfa groesawu ymwelwyr, felly os byddwch wedi eu hanghofio, dewch draw a byddwn yn barod iawn i roi ychydig i chi i gadw ein parcdir yn lân a diogel i eraill eu mwynhau.

Angen rhywbeth i’w fwyta?

Dim ond cŵn cymorth gaiff ddod i mewn i'r adeiladau, gan gynnwys bwyty’r Daflod. Ar benwythnosau a gwyliau ysgol o hanner tymor Chwefror (os bydd y tywydd yn caniatáu), mae'r ardd de yn gweini diodydd poeth a byrbrydau i’ch cadw chi i fynd ar eich taith.

Mae cyfleusterau i brynu bwyd a diod i fynd o fwyty’r Daflod, felly os oes gennych ffrind all aros y tu allan yn yr ardd de gyda’ch ci tra byddwch chi’n ôl eich bwyd, gallwch eistedd y tu allan gyda’ch ci a mwynhau darn o gacen a phaned ar ôl eich taith.

Am osgoi’r tyrfaoedd?

Yn gyffredinol yr amser prysuraf o’r dydd yma yw rhwng 11am a 2pm – fe welwch chi nifer gynyddol o ymwelwyr hefyd yn ystod gwyliau’r ysgol ac ar ddyddiau pan fydd gennym ddigwyddiadau. Yn gyffredinol mae'r teithiau trwy’r ystâd yn llai prysur, felly os ydych yn hoffi ymlwybro’n hamddenol, pam na wnewch chi archwilio’r llwybrau yma, neu ddefnyddio ein meysydd parcio eraill ym Melin Puleston a Sonlli.

Y plasty o’r 18fed ganrif, ar draws y llyn yn Erddig, Cymru

Darganfyddwch fwy yn Erddig

Dysgwch pryd mae Erddig ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Ein partneriaid

Forthglade

Rydym wedi ffurfio partneriaeth â’r gwneuthurwr bwyd anifeiliaid anwes naturiol, Forthglade fel y gallwch chi a’ch ci gael mwy fyth allan o’r lleoedd arbennig sydd dan ein gofal.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

1,200 erw o barcdir yn Erddig
Erthygl
Erthygl

Crwydro parcdir Erddig 

Dysgwch beth yw’r prif bethau i’w gweld a’u gwneud wrth ymweld â’r parcdir. O afonydd troellog a nodwedd ddŵr o’r 18fed ganrif i’r llethr dramatig yn arwain at Glawdd Wat.

Scarves and a handbag hung on coat pegs
Erthygl
Erthygl

Bwyta a siopa yn Erddig 

Edrychwch ar y mannau i fwyta a siopa yn Erddig. Mae’r rhan fwyaf yn ein hadeiladau hanesyddol ac mae pob pryniant yn ein helpu i ofalu am Erddig i genedlaethau’r dyfodol ei fwynhau.

Yr ardd parterre o’r 18fed ganrif yn Erddig yng Nghymru ar ddiwrnod heulog ym mis Mai, gyda gwelyau blodau ffurfiol yn y blaendir.
Erthygl
Erthygl

Hanes Erddig 

Dysgwch am yr Uchel Sirydd a fu’n byw tu hwnt i’w fodd pan adeiladodd Erddig, y cyfreithiwr cyfoethog o Lundain a fu’n ei ymestyn a’i ailaddurno a 240 mlynedd o deulu Yorke.