Skip to content

Gwirfoddoli yn Erddig

Gwraig yn gwisgo lanyard yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gwenu a phwyntio at rywbeth wrth esbonio nodweddion ystafell i ymwelydd.
Mae tywyswyr taith yn dod ag ystafelloedd Erddig yn fyw i ymwelwyr | © National Trust Images/Arnhel de Serra

Mae amrywiaeth fawr o swyddi gwirfoddol yn Erddig, o groesawu ymwelwyr a gweithio yn ein gardd furiog 13.5 erw, i arwain pobl trwy’r tŷ. Waeth beth yw eich profiad, sgiliau a chymhelliant blaenorol - bydd rhywbeth yn Erddig i chi.

Ffyrdd i wirfoddoli yn Erddig

Daw ein gwirfoddolwyr o bob cefndir. Mae’r rhai ieuengaf yn 11 oed a’r un hynaf dros 100 – felly’n sicr nid yw oedran yn rhwystr i chi ymuno.

Gyda dros 350 o wirfoddolwyr, mae’r tîm yn Erddig yn grŵp mawr, cyfeillgar sy’n aros i’ch croesawu. Mae gennym gyfleoedd ym mhob math o waith. Gallech:

  • helpu tîm yr ardd i ofalu am yr ardd sydd wedi ennill gwobrau

  • gefnogi tîm y tŷ i agor ystafelloedd i ymwelwyr

  • groesawu ymwelwyr a’u helpu i ddod o hyd i’w ffordd

  • dorchi llewys gyda’r tîm wardeiniaid, yn gofalu am y parcdir ehangach

  • gefnogi gweithgareddau chwaraeon a llesiant, fel arweinydd taith gerdded neu yn y clwb garddio

  • helpu fel cynorthwyydd siop, gweinyddwr, neu arweinydd taith.

Pam ymuno â ni?

Mae llawer o resymau dros ymuno â ni; gallai gwirfoddoli fod y penderfyniad gorau a wnaethoch erioed.

  • Dod yn rhan o dîm cyfeillgar ac ymroddedig
  • Cwrdd â phobl o bob cefndir a gwneud ffrindiau newydd
  • Defnyddio eich sgiliau presennol a dysgu rhai newydd
  • Gwella eich CV a datblygu eich gyrfa
  • Mwynhau’r awyr iach
  • Dysgu am hanes y lle arbennig hwn

Cysylltwch am wirfoddoli yn Erddig

Os hoffech gael gwybod rhagor, anfonwch e-bost at erddig@nationaltrust.org.uk neu edrychwch ar ein cyfleoedd diweddaraf ar y ddolen isod.

Byddwn yn cysylltu i’ch gwahodd i sesiwn ragarweiniol, lle byddwn yn esbonio rhagor am y rolau sydd ar gael ac yn eich cofrestru fel gwirfoddolwr. Yna fe fyddwn yn rhoi’r holl gefnogaeth a hyfforddiant sydd arnoch eu hangen i gychwyn arni i chi.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

A volunteer talking to a visitor at Wightwick Manor and Gardens, West Midlands
Erthygl
Erthygl

Frequently asked questions on volunteering 

These frequently asked questions should give you all you need to know about who can volunteer, what it involves and how to apply.

Llun du a gwyn o weision a morynion yn eu gwisg, yn sefyll ar risiau blaen y tŷ mawr. Teulu o rieni a phlant yn edrych arnyn nhw o ffenestr ar y llawr cyntaf.
Erthygl
Erthygl

Ymweld â'r tŷ yn Erddig 

Wedi ei achub rhag dadfeilio, mae Erddig yn fath prin ac unigryw o’r plastai sydd wedi goroesi yn orlawn o drysorau. O bortreadau gweision a morynion i ddodrefn cain, dysgwch beth yw’r prif bethau i’w gweld a’u gwneud wrth ymweld â’r tŷ.

Mam yn dal ei phlentyn ac yn pwyntio at arddangosiad o luniau ar waliau cyntedd yn y tŷ yn Erddig, Clwyd.
Erthygl
Erthygl

Y casgliad yn Erddig 

Yn Erddig y mae’r ail gasgliad mwyaf o eitemau sydd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae angen gofalu am 30,000 o eitemau, sy’n dipyn o her i’n tîm o warchodwyr a gwirfoddolwyr. Mae Erddig hefyd yn amgueddfa ardystiedig.