Skip to content

Y casgliad yn Erddig

Mam yn dal ei phlentyn ac yn pwyntio at arddangosiad o luniau ar waliau cyntedd yn y tŷ yn Erddig, Clwyd.
Ymwelwyr yn edrych ar arddangosiad yn y tŷ yn Erddig | © National Trust Images/Arnhel de Serra

Yn Erddig y mae’r ail gasgliad mwyaf o eitemau sydd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae angen gofalu am 30,000 o eitemau, sy’n dipyn o her i’n tîm o warchodwyr a gwirfoddolwyr. Mae Erddig hefyd yn amgueddfa ardystiedig.

Agwedd guradurol

Cafodd y 30,000 eitem yn Erddig eu trosglwyddo i’n gofal nôl yn 1973. Mae’r eitemau’n amrywio o ddrychau godidog i gardiau Nadolig a wnaed gan aelodau’r teulu. Ynghyd â’r eitemau hyn trosglwyddwyd y tŷ ei hun, a oedd yn dechrau mynd â’i ben iddo, a hefyd y gerddi diffaith a’r ystâd 1,200 erw. Cymerodd Philip Yorke II sawl blwyddyn i deimlo’n fodlon â’r trefniant hwn.

Roedd rhan o’r cytundeb yn 1973 yn nodi fod rhaid cadw pob eitem yn y casgliad. Roedd hyn yn dipyn o her gan fod cenedlaethau o’r teulu Yorke wedi bod wrthi’n ddiwyd yn casglu a chadw pob math o bethau a oedd yn rhan o hanes y teulu. Ond dyna sy’n gwneud ymweliad ag Erddig yn brofiad mor arbennig. Mae cymaint o bethau yn llenwi’r tŷ, ac nid yw popeth yn cael ei arddangos chwaith!

Casgliad unigryw o bortreadau

Wrth grwydro o amgylch ystafelloedd y gweision a’r morynion yn Erddig fe welwch waliau sy’n llawn lluniau a ffotograffau o’r bobl a fu’n gweithio i deulu’r Yorke, Mae’r casgliad yn clodfori eu ffyddlondeb, eu gwasanaeth hir a’u gwaith caled.

Comisiynwyd y portreadau gan y teulu Yorke. Cychwynnwyd y traddodiad yn 1791 gan Philip I a gomisiynodd 6 phortread gan John Walters o Ddinbych. Ymhlith eraill, mae’r ffotograffau yn coffáu:

Jane Ebrell, morwyn ac ysgubwraig pryfed cop, 87 mlwydd oed;
Jack Henshaw, ciper, 59 mlwydd oed;
Jack Nicholas, gweithiwr cegin, 71 mlwydd oed;
Edward Prince, saer, 73 mlwydd oed.

Gwely dwbl gyda chanopi wedi ei orchuddio â ffabrig addurnedig gyda dodrefn o’i gwmpas tu mewn i’r Ystafell Wely Swyddogol yn Erddig, Clwyd, sydd â phapur wal gwyrdd â phatrwm blodeuog.
Ystafell Wely Swyddogol yn Erddig | © National Trust Images/Andreas von Einsiedel

Lluniau ar-lein

Ers Ebrill 2013, mae llu o wirfoddolwyr wedi wrthi’n brysur yn gwella cofnodion digidol Erddig. Maen nhw wedi bod yn gweithio’n galed ar brosiect arbennig i greu rhestr eiddo ddigidol a elwir yn System Rheoli Casgliadau (CMS).

Mae tîm prosiect CMS wedi agor droriau, cropian dan fyrddau, sbecian mewn blychau ac wedi agor parseli cyfrin; maen nhw wedi gweithio o flaen ymwelwyr ac yn y cefndir hefyd er mwyn tynnu lluniau a chofnodi pob eitem yn Erddig.

Mae geiriau a ffotograffau tîm prosiect CMS i’w gweld ar wefan casgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ar hyn o bryd gall ymwelwyr weld 18,380 o’r eitemau hyn ar-lein, sy’n cynorthwyo casglwyr, selogion a hobïwyr i’w nodi a’u hymchwilio.

Mae’n gyfle i amlygu y math o waith cadwraeth nad yw ymwelwyr yn ei weld fel arfer, fel creu’r rhestr o eitemau’r Siop Deganau yn gynharach eleni. Wna i fyth anghofio dadlapio’r anifeiliaid Arch Noa. Mae gwirfoddolwyr CMS yn dweud ei bod hi fel Nadolig yma - yn llawn syrpreisys drwy’r amser - ac maen nhw wedi mwynhau rhannu eu straeon gyda’r ymwelwyr."

Heather Vernon, Stiward Tŷ Erddig

Gwely dwbl gyda chanopi wedi ei orchuddio â ffabrig addurnedig gyda dodrefn o’i gwmpas tu mewn i’r Ystafell Wely Swyddogol yn Erddig, Clwyd, sydd â phapur wal gwyrdd â phatrwm blodeuog.

Casgliadau Erddig

Darganfyddwch y gwrthrychau a’r gwaith celf rydym yn gofalu amdanynt yn Erddig ar wefan Casgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Yr ardd parterre o’r 18fed ganrif yn Erddig yng Nghymru ar ddiwrnod heulog ym mis Mai, gyda gwelyau blodau ffurfiol yn y blaendir.
Erthygl
Erthygl

Hanes Erddig 

Dysgwch am yr Uchel Sirydd a fu’n byw tu hwnt i’w fodd pan adeiladodd Erddig, y cyfreithiwr cyfoethog o Lundain a fu’n ei ymestyn a’i ailaddurno a 240 mlynedd o deulu Yorke.

Llun du a gwyn o weision a morynion yn eu gwisg, yn sefyll ar risiau blaen y tŷ mawr. Teulu o rieni a phlant yn edrych arnyn nhw o ffenestr ar y llawr cyntaf.
Erthygl
Erthygl

Ymweld â'r tŷ yn Erddig 

Wedi ei achub rhag dadfeilio, mae Erddig yn fath prin ac unigryw o’r plastai sydd wedi goroesi yn orlawn o drysorau. O bortreadau gweision a morynion i ddodrefn cain, dysgwch beth yw’r prif bethau i’w gweld a’u gwneud wrth ymweld â’r tŷ.

Blodau coed ceirios ar ddiwedd y daith gerdded coed yw yn yr ardd yn Erddig
Erthygl
Erthygl

Ymweld â'r ardd Erddig 

O gennin Pedr yn y gwanwyn i 180 o wahanol fathau o afalau yn yr hydref, dysgwch am yr ardd furiog hon o’r 18fed ganrif ai gweithgareddau tymhorol a’r uchafbwyntiau.

Scarves and a handbag hung on coat pegs
Erthygl
Erthygl

Bwyta a siopa yn Erddig 

Edrychwch ar y mannau i fwyta a siopa yn Erddig. Mae’r rhan fwyaf yn ein hadeiladau hanesyddol ac mae pob pryniant yn ein helpu i ofalu am Erddig i genedlaethau’r dyfodol ei fwynhau.