
Darganfyddwch fwy yn Erddig
Dysgwch pryd mae Erddig ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Roedd Erddig ar fin dadfeilio yn ystod y saithdegau cynnar. Yn hen blasty oedd yn araf chwalu, roedd y tŷ yn suddo, y to yn gollwng a grymoedd dinistriol natur yn dechrau cael gafael arno. Heddiw, diolch i brosiect adfer pedair blynedd, gallwch weld cartref teuluol yn llawn o gasgliad o bortreadau o weision a morynion a cherddi, dodrefn ac addurniadau cain.
Mae’n ofynnol i ymwelwyr adael eitemau mawr fel bagiau cefn, bagiau llaw mawr, bagiau cario a bagiau ysgwydd swmpus yn y loceri sydd wrth y fynedfa i’r tŷ. Mae ein loceri wedi’u lleoli yn y stablau, gydag arwyddion clir. Mae’r polisi hwn yn atal difrod damweiniol a sicrhau diogelwch ein casgliad.
Mae llwybr y tŷ’n cynnwys Neuadd y Gweision i lawr y grisiau, a rhai ystafelloedd i fyny’r grisiau. Oherwydd gwaith cadwraeth a chynnal a chadw pwysig, bydd y llwybr a’r ystafelloedd sydd ar agor yn amrywio drwy gydol y flwyddyn.
Adeiladwyd y tŷ yn 1683-7 gan y saer maen o Swydd Gaer, Thomas Webb i Joshua Edisbury, Uchel Sirydd Sir Ddinbych, y gwnaeth ei uchelgais wrth adeiladu ei wneud yn fethdalwr pan fynnodd Elihu Yale gael ei fenthyciadau’n ôl.
Yn 1721-4 ychwanegwyd dwy adain ddeulawr i’r gogledd a’r de, gan greu ‘rooms of parade’ i John Meller, Meistr yn y Siawnsri. Heb wraig na phlant, edrychodd Meller tuag at fab ei chwaer, Simon Yorke, i oruchwylio’r gwaith o orffen a chludo’r dodrefn newydd gwerthfawr i Erddig.
I lawr grisiau mae casgliad mawr o bortreadau o weision a morynion ac ystafelloedd wedi eu cadw’n ofalus yn darlunio bywyd i lawr y grisiau yn gynnar yn yr 20fed ganrif, ac i fyny’r grisiau mae trysorfa o ddodrefn, tecstilau a phapurau wal ceinion.
Edrychwch yn fwy gofalus ar y portreadau o’r gweision a’r morynion, yn beintiadau olew a ffotograffau, ac fe welwch gasgliad unigryw o gerddi i bob un ohonynt.
Mae’r ystafelloedd neo-glasurol yn cynnwys enghreifftiau da o bapur wal Tsieineaidd o’r 18fed ganrif a chapel gyda gosodiadau o ddiwedd y 18fed ganrif. Cofiwch am Ystafell Wely Swyddogol wych Erddig sy’n cynnwys gwely bregus wedi ei frodio mewn sidan Tsieineaidd, a brynwyd gan John Meller yn 1720 gyda gwaith geso wedi ei gerfio a’i oreuro gan John Belchier.
Mae hanesion a hanes rhyfeddol Neuadd Erddig yn dod yn fyw drwy brofiad ymwelwyr cwbl newydd.
Camwch i’r gorffennol wrth i oleuni, cerddoriaeth a sain ddod â’i hanesion yn fyw. Mewn tair ystafell, ceir arddangosfa dros dro o oleuadau a seinweddau sy’n datgelu rhywfaint o hanes cudd Erddig.
Crwydrwch drwy’r plasty o ddiwedd yr 17eg ganrif i ganfod y salŵn, y llyfrgell a’r oriel mewn goleuni cwbl wahanol.
Yn y salŵn, gwyliwch y siandelïer yn goleuo a chlywch gerddoriaeth biano’n cael ei chwarae - rhywbeth a glywyd yn aml yn y tŷ o ddechrau’r 19eg ganrif i ail chwarter yr 20ain ganrif, gyda chariad at gerddoriaeth yn rhedeg drwy genedlaethau o’r teulu Yorke.
Mae’r gerddoriaeth yn awgrymu’r cenedlaethau o bobl a oedd gartref yn Erddig, tra bo’r goleuadau’n cynrychioli treigl amser dros y cenedlaethau, ac o ddydd i nos wrth i’r siandelïers oleuo.
Yn y llyfrgell gerllaw, datgelir rhai o hanesion Erddig nad ydynt mor adnabyddus. Amlygir amryw ferched sydd wedi byw yn Erddig, yn ogystal â’u perthynas â llyfrau, darllen a cherddoriaeth. Yn eu plith y mae Anne Jemima Yorke (1754-1770), Victoria Yorke (1823-95), Margaret Yorke (1778-1848) a’i merch Anne Yorke (1810-1853).
Roedd Anne Jemima, merch Dorothy a Simon Yorke I, a chwaer Philip Yorke I, yn chwarae’r harpsicord, ac mae casgliad Erddig yn cynnwys ei hunig lyfr cerddoriaeth sydd wedi goroesi, sef ‘English Operas’. Mae ei nodiadau hi, a rhai ei hathrawes, ar y sgorau’n dangos y modd yr oedd wedi troi’r caneuon o’r sioeau hyn yn ddarnau unawd ar gyfer yr harpsicord. Roedd Anne Jemima wedi llofnodi a dyddio dalen frig ei halbwm, a rhywfaint o lyfrau eraill a oedd yn perthyn iddi, a gellir gweld ei llofnod wedi’i daflunio ar wal y llyfrgell.
Rhywbeth arall y gellir ei weld yn y llyfrgell yw tafluniad ynghylch Clwb Llyfrau Merched Wrecsam. Yng nghasgliad Erddig, ceir pedwar llyfr, sydd wedi’u dyddio yn ystod y cyfnod 1823-27, a chanddynt glud-ddalen â’r enw ‘Wrexham Ladies Book Club’ arnynt, ynghyd â rhestr o enwau’r aelodau, a llofnodion naill ai ‘Mrs Yorke’ neu ‘Miss Yorke’ (Margaret Yorke a’i merch Anne Yorke). Mae’r label yn egluro bod y merched yn anfon y llyfrau at yr aelod nesaf ar y rhestr. Caniatawyd pedwar diwrnod ar gyfer anfon llyfr, ar ôl hynny, codwyd dirwy o 6c yr wythnos. Ar ôl i bob aelod ddarllen y llyfr, byddid yn ei anfon at y trysorydd.
Yn yr oriel, mae synau ergydiol clychau, gongiau, clychseiniau a cherddoriaeth yn cyd-fynd â’r trysorau sydd wedi’u hamlygu â goleuadau, sy’n cynnwys gwaith gan yr artist Elizabeth Ratcliffe, a oedd hefyd yn forwyn. Mae cabinet coch trawiadol John Meller, sydd, yn anffodus, wedi colli rhywfaint o’i liw o ganlyniad i 300 mlynedd o’i ddifrodi gan olau, wedi’i oleuo â bylbiau coch i roi syniad o’r lliw gwreiddiol.
Bydd y gosodwaith yn ei le tan wanwyn 2026.
Gyda diolch i Ceri James am ddyluniad yr arddangosfa. Golau Cymru Ltd am ddarparu a gosod yr offer goleuo. Lamp and Pencil Ltd ar gyfer dylunio a gosod effeithiau arbennig. Academyddion o Brifysgol Southampton a Choleg Cerdd Brenhinol y Gogledd am archwilio hanes cerddoriaeth a sain Erddig drwy’r prosiect Sounding Erddig, a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.
Dysgwch pryd mae Erddig ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Darllenwch i weld pam bod cadw Erddig yn y tywyllwch yn un o’r ffyrdd pwysicaf i ddiogelu’r ystafelloedd a’r dodrefn.
Mae gan Erddig un o'r casgliadau mwyaf o eitemau o fewn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyfan. Mae angen gofalu am 30,000 o eitemau, sy’n dipyn o her i’n tîm o warchodwyr a gwirfoddolwyr. Mae Erddig hefyd yn amgueddfa ardystiedig.
O gennin Pedr yn y gwanwyn i 180 o wahanol fathau o afalau yn yr hydref, dysgwch am yr ardd furiog hon o’r 18fed ganrif ai gweithgareddau tymhorol a’r uchafbwyntiau.
Dysgwch am yr Uchel Sirydd a fu’n byw tu hwnt i’w fodd pan adeiladodd Erddig, y cyfreithiwr cyfoethog o Lundain a fu’n ei ymestyn a’i ailaddurno a 240 mlynedd o deulu Yorke.