Skip to content

Arfordiroedd a thraethau Sir Benfro

Yr olygfa dros Freshwater West a Fferm Gupton, Sir Benfro
Fferm Gupton yn Freshwater West | © National Trust Images/Owen Howells

Darganfyddwch draethau eang, cefn gwlad hardd sy’n gyfoeth o fywyd gwyllt ac arfordir garw ar ymweliad â Sir Benfro. O nofio yn Ne Aber Llydan neu ymweld â’r adar ar Ynys Sgomer i ddarganfod caerau Oes yr Haearn yn Solfach, dysgwch fwy am bethau i’w gweld a’u gwneud ar rai o arfordiroedd a thraethau gorau Cymru.

Arfordiroedd a thraethau Sir Benfro

Stagbwll
Ewch i gaiacio neu arfordira o Gei Stagbwll, neu treuliwch y diwrnod ar un o’n traethau teuluol trawiadol, De Aber Llydan neu’r byd-enwog Fae Barafundle. Mae digon o lwybrau cerdded i’w concro hefyd, gyda llynnoedd Bosherton a’r coetir cyfagos i’w darganfod. Galwch yn y dderbynfa yng Nghanolfan Stagbwll i gael rhagor o wybodaeth am ein llwybrau.Trefnwch eich ymweliad â Stagbwll
Freshwater West a Fferm Gupton
Traeth llydan a thywodlyd trawiadol gyda thwyni mawr, a lle poblogaidd i syrffwyr profiadol. Mae digon o dywod i adeiladu cestyll tywod campus, hedfan barcud neu fynd am dro ar hyd y darn gwyllt hwn o arfordir. Mae system o dwyni tywod naturiol a gwlyptir eang, Cors Castellmartin, yn gefn i Freshwater West, gydag amrywiaeth o gynefinoedd ar gyfer adar sy’n nythu ar y ddaear. Felly cofiwch eich binocwlars.Trefnwch eich ymweliad â Freshwater West
Traeth a Chors Marloes
Mae Penrhyn Marloes ar ymyl orllewinol Sir Benfro yn gyfuniad lliwgar o arfordir a chefn gwlad. Mae’n baradwys i bawb sy’n caru’r traeth a gwylwyr adar fel ei gilydd, ac mae hefyd yn lle gwych i ddarganfod hanes a daeareg. Mae Traeth Marloes yn ddarn diogel, tywodlyd o draeth sy’n addas ar gyfer nofwyr, a thua’r tir mawr fe welwch Gors Marloes, gwlyptir pwysig ar gyfer adar sy’n bridio, adar mudol ac adar sy’n treulio’r gaeaf yma.Trefnwch eich ymweliad â Thraeth a Chors Marloes
Martin’s Haven
Martin’s Haven yw harbwr y penrhyn a chanolfan Parth Cadwraeth Morol Sgomer, y cyntaf o’i fath yng Nghymru. Neidiwch ar fwrdd llong i Ynysoedd Sgomer a Sgogwm a darganfod poblogaethau rhyngwladol-bwysig o adar môr sy’n bridio, gan gynnwys palod, gweilch y penwaig, gwylogod ac adar drycin Manaw.Trefnwch eich ymweliad â Martin’s Haven
Teulu’n padlo yn y môr yn Nhraeth Marloes, Sir Benfro
Teulu’n padlo yn y môr yn Nhraeth Marloes, Sir Benfro | © National Trust Images/Chris Lacey
Stad Southwood
Darganfyddwch dirwedd oesol o ddyffrynnoedd coediog, caeau blodeuog a chlogwyni geirwon. Mae’n lle prydferth i fynd am dro, ac mae ffiniau traddodiadol y caeau’n gwneud i chi deimlo eich bod yn camu i’r gorffennol. Mwynhewch y golygfeydd gwych o’r môr a chadwch olwg am doreth o fywyd gwyllt ar eich anturiaethau.Trefnwch eich ymweliad â Stad Southwood
Arfordir Solfach
Darganfyddwch gaerau Oes yr Haearn, odynau calch a hen felinau yn swatio ar hyd arfordir Sir Benfro. Yn ardal wych i balu drwy hanes, o Harbwr Solfach gallwch ddarganfod y pentref neu fynd am dro i’r Gribin, sy’n cynnig golygfeydd godidog. Mae’r garreg sy’n dal i gael ei defnyddio i drwsio eglwys gadeiriol Tyddewi i’w chanfod ar waelod cwm prydferth, cysgodol Caerbwdi, sy’n estyn yr holl ffordd i’r môr.Trefnwch eich ymweliad ag Arfordir Solfach
Penrhyn Dewi
Wedi’i henwi ar ôl nawddsant Cymru, Tyddewi yw dinas leiaf gwledydd Prydain. Mae’r groes ganoloesol sy’n nodi ei chanol yn un o nifer ar hyd llwybr pererindota hanesyddol i’r gadeirlan. Mae’r penrhyn yn cynnig llwybrau cerdded arfordirol hardd gyda blodau gwyllt ac adar yn lliwio’r lleoliad. Darganfyddwch Gomin Tyddewi lle gwelwch amrywiaeth o blanhigion rhostir, neu ewch i Benmaen Dewi i wylio adar.Trefnwch eich ymweliad â Phenrhyn Dewi
Abereiddi i Abermawr
Mae’r darn gwyllt o arfordir rhwng Abereiddi ac Abermawr i gyd am ddiwydiant a darganfod yr arfordir dramatig. Gwyliwch forloi sy’n bridio o ben y clogwyni ym mis Medi, neu rhyfeddwch at lesni perffaith y Morlyn Glas wrth i chi ddarganfod yr arfordir garw hwn a’i olygfeydd.Trefnwch eich ymweliad ag Abereiddi
Pen Strwmbl i Aberteifi
Dyma’r darn mwyaf garw ac anghysbell o arfordir Sir Benfro. O gopa Garn Fawr ger Pen Strwmbl i glogwyni Pen yr Afr yn y gogledd, cewch ryfeddu at olygfeydd gogoneddus o’r môr o’r clogwyni enfawr. Bydd y llwybrau arfordirol yma yn siŵr o’ch syfrdanu.Pen Strwmbl i Aberteifi
Yr olygfa dros Fae San Ffraid, yn edrych tua’r Dwyrain o harbwr Porth Clais gyda chlogwyni dramatig a nythfa o adar môr, Sir Benfro, Cymru
Yr olygfa dros Fae San Ffraid, Sir Benfro | © National Trust Images / Joe Cornish

Traethau i gŵn yn Sir Benfro

Mae croeso i gŵn da ar draethau Sir Benfro, oni bai bod angen cadw cŵn i ffwrdd am resymau sy’n ymwneud â chadwraeth natur. Gall hyn fod yn ddibynnol ar yr adeg o’r flwyddyn, felly ewch i wefan y traeth neu’r arfordir i gadarnhau a allwch ddod â’ch ci cyn eich ymweliad.

Cŵn ac anifeiliaid fferm

Wrth ymweld, talwch sylw i unrhyw arwyddion lleol am gerdded cŵn – er enghraifft, a oes angen i’ch ci fod ar dennyn. Dylai cŵn gael eu cadw ar dennyn o gwmpas anifeiliaid, ond os oes gwartheg neu anifeiliaid mawr eraill yn cwrso eich ci, y peth gorau i’w wneud yw gadael y tennyn i fynd tan eich bod wedi gadael yr ardal.

Dilynwch y cod cefn gwlad

Helpwch i gadw arfordiroedd a thraethau Sir Benfro’n ddiogel a dymunol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Parchwch bobl eraill

  • Byddwch yn ystyrlon o’r gymuned leol a phobl eraill sy’n mwynhau ac yn gweithio yn yr awyr agored
  • Parciwch yn ofalus gan sicrhau bod gatiau a dreifiau’n cael eu cadw’n glir
  • Gadewch gatiau ac eiddo fel yr oedden nhw pan gyrhaeddoch chi
  • Dilynwch lwybrau sydd wedi’u marcio ac arwyddion lleol
  • Byddwch yn gyfeillgar, dwedwch shwmae

Diogelu’r amgylchedd naturiol

  • Peidiwch â gadael dim ar eich ôl – ewch â’ch sbwriel adref
  • Byddwch yn ofalus gyda barbeciws a thanau – defnyddiwch nhw mewn ardaloedd pwrpasol yn unig
  • Cadwch gŵn dan reolaeth
  • Baw ci – yn y bag, yn y bin – mae unrhyw fin cyhoeddus yn iawn
Golygfa o Gastell Powis, uwchben ei derasau, Powys, Cymru, yn yr hydref.

Dewch i ddarganfod Cymru

Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Yr olygfa o Fae’r Tri Chlogwyn o gyffiniau Penmaen gyda rhostir yn y blaendir, ar Benrhyn Gŵyr, De Cymru
Erthygl
Erthygl

Coasts and beaches in Gower 

Learn more about what to see and do on a visit to Gower in South Wales, from swimming and sandcastle building in Rhosili Bay to hiking around Penmaen Burrows and Nicholaston.

Golygfa dros draeth Porthor, Gwynedd, Gogledd Cymru
Erthygl
Erthygl

Coasts and beaches in Llŷn 

Learn more about what to see and do on the Llŷn Peninsula in North Wales, from rock-pooling at Porthor to exploring culture and history at Porth y Swnt.

Llo bach morlo llwyd ar draeth cerigos yn Treginnis, Sir Benfro
Erthygl
Erthygl

Nature and wildlife to spot in Wales 

Have a nature adventure in Wales and discover all kinds of wildlife, from the famous otters of Bosherston Lakes in Pembrokeshire, to the red squirrels of Plas Newydd in North Wales.

Golygfa eang o Draeth Marloes, Sir Benfro. Mae nifer o bobl ar y tywod euraidd, ac ar ymyl y traeth mae clogwyni geirwon yn codi.
Erthygl
Erthygl

Visiting Marloes Sands and Mere 

Get closer to nature with birdwatching on the Mere and savour the seaside sights at Marloes’ beautiful beach. Or go further afield and explore the islands off the Peninsula.

Clustog Fair yn blodeuo ar ben clogwyn wrth iddi fachlud yn Pentire
Erthygl
Erthygl

Visiting St David’s Peninsula 

Discover the flora and fauna of St David’s Peninsula. Look out for coastal plants and spot kestrels and gannets soaring overhead, or stonechats perched on gorse bushes.

Dyn ar feic mynydd yn reidio drwy goetiroedd godidog gwyrdd
Gweithgaredd
Gweithgaredd

Outdoor activities at Stackpole 

At Stackpole, it’s all about letting the outdoors move you. Everyone needs nature, and Stackpole has it in spades. Find out where to stay at Stackpole.

Rhes odynau calch cerrig wrth ochr Arfordir Solva, Penfro, Cymru
Erthygl
Erthygl

History of the Solva Coast 

The Solva coastline contains hidden history just waiting to be discovered. Discover Iron Age forts, lime kilns and old mills during your visit.

Golygfa o bentir creigiog Pen Anglas, Sir Benfro, Cymru. Mae creigiau wedi’u gorchuddio â chen yn y blaendir, tra bod y pentir yn y pellter gyda'r môr i’w weld rhyngddynt.
Erthygl
Erthygl

Discover the geology of Strumble Head to Cardigan 

Shaped by nature over millions of years the landscape from Strumble Head to Cardigan is rocky and remote.