
Dewch i ddarganfod Cymru
Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.

Wedi’i leoli ar fryn uwchben pentref Llanarthne, Sir Gaerfyrddin, mae gan yr adeilad trionglog, Tŵr Paxton, olygfeydd ysblennydd o Ddyffryn Tywi. Cafodd y ffug-dŵr ei adeiladu 200 mlynedd yn ôl, fel cofeb i’r Llyngesydd yr Arglwydd Nelson. Mae’r tŵr hefyd yn atgof parhaus i bobl y dyffryn o amlygrwydd y sawl a’i comisiynodd, sef Syr William Paxton.
Adeiladwyd Tŵr Paxton yn 1811 fel tŷ gloddesta yn yr arddull Neo-Gothig ym Mharc Neuadd Middleton. Heddiw, mae llawer o ystâd Middleton yn gartref i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Tua 1789, cafodd ystâd Middleton ei phrynu gan William Paxton (c. 1744-1824), y bu i’w gyfoeth ddechrau cronni o ddechrau’r 1770au, pan roedd yn gweithio i’r East India Company, y cwmni stoc ar y cyd oedd yn rheoli masnach drefedigaethol a gweinyddiaeth Prydain ar draws De, De-ddwyrain a Dwyrain Asia. Daliodd Paxton swyddi proffidiol Meistr Profion ac yna Meistr y Bathdy yn sefydliad trefedigaethol Prydain yn Calcutta (Kolkata erbyn heddiw) yn Bengal, India. Yn ddiweddarach daeth yn asiant i’r East India Company a sefydlodd ei fusnes bancio ei hun.
Rhwng 1793 a 1795, comisiynodd Paxton y pensaer Samuel Pepys Cockerell (1754-1827) i ddylunio plasty yn Middleton, gan gynnwys tŷ gloddesta’r ‘Tŵr’. Gweithiodd Cockerell fel pensaer ar gyfer yr East India Company a bu iddo hefyd ddylunio nifer o blastai ar gyfer dynion o Brydain oedd wedi gwneud eu ffortiwn yn India, a adwaenid fel ‘nabobs’ (o’r Urdu nawāb, ‘llywodraethwr’).

Safodd Paxton etholiad yn llwyddiannus fel Aelod o’r Senedd dros Sir Gaerfyrddin yn 1802, er gwaethaf anfon bwyd a diod at y pleidleiswyr - i bob pwrpas, ceisio eu llwgrwobrwyo - oedd yn werth £15,690. Yn 1802 cafodd Paxton ei ethol yn Faer Caerfyrddin a chafodd ei urddo’n farchog yn 1803. Yn Etholiad Cyffredinol 1806, enillodd Syr William sedd Sir Gaerfyrddin yn ddiwrthwynebiad. Buddsoddodd yn yr ardal leol, gan ddatblygu Dinbych-y-pysgod fel cyrchfan ymdrochi a darparu cyflenwad dŵr drwy bibelli i Gaerfyrddin. Fodd bynnag, roedd boneddigion dylanwadol y sir yn parhau i ddrwgdybio ei gyfoeth newydd ac yn Etholiad Cyffredinol 1907 fe’i gorfodwyd i ildio ei sedd unwaith eto.
Er gwaethaf yr heriau hyn, parhaodd Paxton i ariannu gwella ffyrdd, camlesi a phorthladdoedd ar hyd a lled Sir Gaerfyrddin. Un o gymhellion Syr William ar gyfer adeiladu’r tŵr yn Neuadd Middleton o bosib oedd i atgoffa’r boblogaeth leol o’i gyfoeth a’i bwysigrwydd. Y rheswm swyddogol dros ei adeiladu oedd i anrhydeddu’r Llyngesydd yr Arglwydd Nelson (1758-1805), y bu i Paxton ei gwrdd fel Maer Caerfyrddin yn 1802. Drwy ei fuddugoliaethau ar y môr a’i farwolaeth arwrol ym mrwydr Trafalgar, roedd Nelson wedi dod yn eicon cenedlaethol, a thrwy gysegru’r tŵr iddo (drwy gyfrwng arysgrifau yn Saesneg, Cymraeg a Lladin, sydd bellach wedi’u colli) roedd Paxton yn hysbysebu ei genedlaetholdeb. Parhaodd yn ogystal i ehangu ei ystâd a phan gafodd ei gwerthu wedi ei farwolaeth yn 1824 roedd yn gyfanswm o 2650 acer, gan gynnwys 24 o ffermydd.

Bu i Hugh Campbell, Is-iarll Emlyn (1932-93, yn ddiweddarach 6ed Iarll Cawdor), brynu Tŵr Paxton er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei warchod, gan ei drosglwyddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 1965. Cafodd y tŵr ei adnewyddu gan yr Ymddiriedolaeth yn y 1970au ac mae’n parhau i fod yn llecyn poblogaidd er mwyn edmygu golygfeydd panoramig Dyffryn Tywi. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r Ymddiriedolaeth wedi ymgymryd ag adfer gweirglodd ar y safle. Cafodd hyn ei wneud drwy gasglu gwair gwyrdd (newydd ei dorri) o weirglodd oedd yn gyfoethog gyda bodau, oedd yn cael ei rheoli gan Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru (sydd hefyd ar yr hen ystâd Middleton), gan ei wasgaru ar y weirglodd nesaf at Dŵr Paxton a gadael i ddefaid sathru’r hadau ar y tir. Arweiniodd hyn at weirglodd oedd yn fwy cyfoethog o ran blodau, gyda mwy o fioamrywiaeth.

Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.
Darganfyddwch ddyffrynnoedd dramatig a phrydferth, coetiroedd hynafol a llwybrau glan afon, neu anturiwch ar fynyddoedd gwyllt Cymru ac ymweld â rhai o gopaon mwyaf eiconig y wlad.

Darganfyddwch blastai Cymreig mawreddog a’u casgliadau, o gartrefi teuluol i adeiladau a ddyluniwyd gan benseiri enwog. Darganfyddwch hanes a hanesion o’r oes a fu mewn lleoliadau trawiadol ledled Cymru.

Yr unig fwyngloddiau aur Rhufeinig a wyddwn amdano yn y DU, o dan ofalaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Darganfyddwch dirwedd Gymreig eiconig gydag erwau o barcdir, sy’n Warchodfa Natur Genedlaethol.
