Llogi cytiau traeth Llanbedrog

Mae traeth Llanbedrog wedi bod yn lleoliad poblogaidd gydag ymwelwyr yn heidio yma er 1890, pan adeiladwyd tramffordd yn cysylltu'r pentref â Phwllheli. Mae'r dramffordd eisoes wedi mynd, ond mae'r traddodiad o gytiau traeth, sy'n gysylltiedig â'r twristiaid Fictoraidd cynnar hynny yn parhau.
Sut mae archebu cwt traeth ar gyfer 2024?
Mae'r ffenestr ymgeisio ar gyfer cytiau traeth yn 2024 rwan ar gau ac mae'r cytiau traeth wedi'u dyrannu'n llawn. Bydd pob cais aflwyddiannus yn cael ei ychwanegu at y rhestr aros yn awtomatig.
Pryd fydd y cytiau traeth yn barod?
Ni allwn gadarnhau'r union ddyddiadau ar gyfer dyddiadau cychwyn a gorffen y drwydded ar hyn o bryd ond rydym yn rhagweld y bydd y cytiau traeth ar gael rhwng y Pasg a'r wythnos gyntaf ym mis Medi 2024. Byddwn yn cadarnhau'r dyddiadau gydag ymgeiswyr llwyddiannus erbyn 28 Chwefror 2024.
Faint mae'n ei gostio i archebu cwt traeth ar gyfer y tymor?
Y gost ar gyfer cytiau'r traeth yn 2024 fydd £450 am y tymor. Oherwydd y costau sy'n gysylltiedig â chynnal a chadw, symud y cytiau traeth a darparu trwyddedau, ni ellir ad-dalu'r ffi.
You might also be interested in

Ymwelwch â traeth Llanbedrog
Ewch i Lanbedrog, darn hir o arfordir tywodlyd â chytiau traeth lliwgar sy’n ddelfrydol i deuluoedd. Cyrchfan boblogaidd ger Pwllheli ar Benrhyn Llŷn.

Taith gerdded Llanbedrog
Bydd y daith hon trwy goetir i fyny i Fynydd Tir-y-Cwmwd yn cynnig golygfeydd rhyfeddol o’r penrhyn a Bae Ceredigion.

Arfordiroedd a thraethau Pen Llŷn
Dysgwch fwy am bethau i’w gweld a’u gwneud ym Mhen Llŷn yng Ngogledd Cymru, o chwilota ym mhyllau glan môr Porthor i ddarganfod diwylliant a hanes ym Mhorth y Swnt.