Skip to content

Arfordiroedd a thraethau Pen Llŷn

Golygfa dros draeth Porthor, Gwynedd, Gogledd Cymru
Golygfa dros draeth Porthor, Gwynedd, Gogledd Cymru | © National Trust Images/ National Trust

Ymwelwch â 30 milltir o brydferthwch pur yn estyn i Fôr Iwerddon. O ddyfroedd tawel Llanbedrog i brofiadau diwylliannol ym Mhorth y Swnt a ‘thywod chwibanog’ hudolus Porthor, darganfyddwch bethau i’w gweld a’u gwneud ym Mhen Llŷn.

Arfordiroedd a thraethau i’w darganfod ym Mhen Llŷn

Traeth Llanbedrog
Yn boblogaidd gydag ymwelwyr ers oes Fictoria, mae Llanbedrog yn draeth euraidd sydd â dyfroedd tawel a golygfeydd hyfryd dros Fae Ceredigion. Yn berffaith ar gyfer diwrnod allan i’r teulu, mae ‘na ddŵr bas i badlo a rhwydwaith o lwybrau drwy ardaloedd o goetir a rhostir sy’n amgylchynu’r traeth. Awydd antur? Dringwch drwy rostir Mynydd Tir y Cwmwd am olygfa i’w chofio o Ben Llŷn a Bae Ceredigion.Trefnwch eich ymweliad â thraeth Llanbedrog
Porth y Swnt
Wedi’i lleoli ar ymylon Cymru ym mhentref pysgota perffaith Aberdaron, mae canolfan ymwelwyr Porth y Swnt yn borth ar gyfer darganfod Pen Llŷn. Mae’r dehongliad arloesol hwn yn cynnig cyflwyniad i hanes a diwylliant Pen Llŷn drwy sain, fideo, cerfluniau a gwaith celf. Mae ‘na lwybrau beicio gerllaw, ac mae llwybr yr arfordir yn eich tywys i gildraeth pysgota bach Porth Meudwy.Trefnwch eich ymweliad i Borth y Swnt
Porthdinllaen
O’r gaer Oes yr Haearn ar y pentir i draethau euraidd a dyfroedd cysgodol, mae hwn yn lle rhyfeddol i fwynhau diwrnod ar yr arfordir. Cadwch olwg am fywyd gwyllt – mae gwenoliaid y glennydd yn nythu yn y clogwyni a llwyth o forloi llwyd wedi ymgartrefu yma. Tra’ch bod chi ar y traeth, mwynhewch ddiod fach o Dafarn Tŷ Coch.Trefnwch eich ymweliad â Phorthdinllaen
Porthor
Mae golygfeydd trawiadol ar hyd y darn garw hwn o arfordir yng ngogledd Pen Llŷn. Yn enwog am ei ‘Dywod Chwibanog’ enwog, mae’r traeth anghysbell yn lle hyfryd i ymlacio. Mae morloi’n ymwelwyr cyffredin yma ac fe allech fod yn ddigon lwcus i weld dolffin hefyd.Trefnwch eich ymweliad â Thraeth Porthor
Teulu yn crwydro traeth Llanbedrog ar ddiwrnod heulog ym Mhen Llŷn
Teulu yn crwydro traeth Llanbedrog | © National Trust Images/James Dobson

Traethau i gŵn ym Mhen Llŷn

Mae croeso i gŵn da ar draethau Pen Llŷn, oni bai bod angen cadw cŵn i ffwrdd am resymau sy’n ymwneud â chadwraeth natur. Gall hyn fod yn ddibynnol ar yr adeg o’r flwyddyn, felly ewch i wefan y traeth neu’r arfordir i gadarnhau a allwch ddod â’ch ci cyn eich ymweliad.

Cŵn ac anifeiliaid fferm

Wrth ymweld, talwch sylw i unrhyw arwyddion lleol am gerdded cŵn – er enghraifft, a oes angen i’ch ci fod ar dennyn. Dylai cŵn gael eu cadw ar dennyn o gwmpas anifeiliaid, ond os oes gwartheg neu anifeiliaid mawr eraill yn cwrso eich ci, y peth gorau i’w wneud yw gadael y tennyn i fynd tan eich bod wedi gadael yr ardal.

Golygfa tuag at Borthdinllaen, pentref pysgota bach gydag ychydig o fythynnod gwyngalchog dan glogwyn glaswelltog ym Mhenrhyn Llŷn, Cymru. Mae ychydig o longau pysgota yn y dŵr a phobl yn cerdded ar y clogwyn uwchben y pentref.
Porthdinllaen, pentref pysgota ym Mhenrhyn Llŷn | © National Trust Images/Joe Cornish

Dilynwch y cod cefn gwlad

Helpwch i gadw arfordiroedd a thraethau Pen Llŷn yn ddiogel a dymunol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Parchwch bobl eraill

  • Byddwch yn ystyrlon o’r gymuned leol a phobl eraill sy’n mwynhau ac yn gweithio yn yr awyr agored
  • Parciwch yn ofalus gan sicrhau bod gatiau a dreifiau’n cael eu cadw’n glir
  • Gadewch gatiau ac eiddo fel yr oedden nhw pan gyrhaeddoch chi
  • Dilynwch lwybrau sydd wedi’u marcio ac arwyddion lleol
  • Byddwch yn gyfeillgar, dwedwch shwmae

Diogelu’r amgylchedd naturiol

  • Peidiwch â gadael dim ar eich ôl – ewch â’ch sbwriel adref
  • Byddwch yn ofalus gyda barbeciws a thanau – defnyddiwch nhw mewn ardaloedd pwrpasol yn unig
  • Cadwch gŵn dan reolaeth
  • Baw ci – yn y bag, yn y bin – mae unrhyw fin cyhoeddus yn iawn
Golygfa o Gastell Powis, uwchben ei derasau, Powys, Cymru, yn yr hydref.

Dewch i ddarganfod Cymru

Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Golygfan y Canmlwyddiant, Dinas Oleu, Cymru

Arfordiroedd a thraethau yng Nghymru 

Darganfyddwch 157 milltir o arfordir Cymru sy’n cael ei ddiogelu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, o draethau euraidd eang i glogwyni geirwon

Tŷ a gardd ym Mhlas yn Rhiw ar ddiwrnod braf gyda’r bae yn y cefndir
Erthygl
Erthygl

Lleoliadau Llŷn 

Dysgwch fwy am yr ecoamgueddfa ym Mhen Llŷn. Yn gweithredu mewn partneriaeth â saith o sefydliadau treftadaeth Pen Llŷn, ei nod yw rhoi hwb i dwristiaeth ddiwylliannol.

Ymwelydd yn cario sach gefn ac yn cerdded ar hyd llwybr troed yn Divis a’r Mynydd Du gyda waliau carreg i’r naill ochr, y cefn gwlad i’w weld yn y cefndir.
Erthygl
Erthygl

Dilynwch y cod cefn gwlad 

Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Plant a chi yn Llyn Bosherston, Stagbwll, Sir Benfro

Llefydd sy’n croesawu cŵn yng Nghymru 

O’r mynyddoedd a’r traeth, i erddi a pharcdiroedd, gallwch ganfod llwybr cerdded cŵn yng Nghymru y byddwch chi, a’ch cyfaill pedair coes, yn ei wir fwynhau. Dyma eich canllaw ar gyfer rhai o’r lleoliadau gorau yng Nghymru i ymweld â nhw gyda chŵn.

View of a river running through a valley of mountains

Cefn gwlad a choetir yng Nghymru 

Darganfyddwch ddyffrynnoedd dramatig a phrydferth, coetiroedd hynafol a llwybrau glan afon, neu anturiwch ar fynyddoedd gwyllt Cymru ac ymweld â rhai o gopaon mwyaf eiconig y wlad.

Golygfa o Neuadd Erddig o’r ardd

Gerddi a pharciau yng Nghymru 

Ymwelwch â chasgliad arbennig o erddi a pharciau yng Nghymru. O erddi muriog i ystadau cefn gwlad a gerddi coed, mae digon i’w ddarganfod.