Skip to content

Bwyta a siopa yn Llanerchaeron

Catering assistant with a tray of coffee and hot chocolate in the cafe at Llanerchaeron, Wales.
A café tray of hot drinks | © National Trust Images/Arnhel de Serra

Mae Conti’s Café yn swatio ar lannau afon Aeron – llecyn hyfryd i fwynhau diod, tamaid o fwyd neu eu hufen iâ enwog ar eich ymweliad. Gallwch hefyd brynu cynnyrch a dyfwyd yn yr ardd yn Llanerchaeron a phori’r siop lyfrau ail-law i ddod o hyd i’ch hoff lyfr nesaf.

Conti’s Café yn Llanerchaeron

Mae’r caffi’n cael ei redeg gan Conti’s Café, busnes teuluol o Lambed sy’n enwog am eu hufen iâ hyfryd – perffaith ar diwrnod heulog o haf.

Maen nhw’n gweini dewis o ddiodydd, brechdanau, byrbrydau, cacennau ac, wrth gwrs, hufen iâ enwog Conti’s. Mwynhewch goffi rhost hyfryd neu frechdan flasus ar eich ymweliad. Mae’r caffi ar agor o ddydd Mercher i ddydd Sul bob wythnos.

Ar eich ymweliad, siaradwch ag un o’r tîm i wirio’r wybodaeth ddiweddaraf am alergenau ar gyfer eich hoff bryd.

Ymwelwyr yn y caffi yn Llanerchaeron
Ymwelwyr yn y caffi yn Llanerchaeron, Ceredigion | © National Trust Images/Arnhel de Serra

Mae llawer o’r cynhyrchion yn lleol, sy’n golygu bod bwyd ffres a thymhorol ar gael gydol y flwyddyn. Mae opsiynau di-glwten ar gael hefyd. I ddysgu mwy am Conti’s, ewch i’w gwefan: http://www.contisicecream.com/

Dod â phicnic

Os byddai’n well gennych ddod â phicnic, mae gennym feinciau ym muarth yr ardd a ger yr adeilad ymwelwyr.

Llyfrau clawr papur ar silff yn y siop lyfrau ail-law yn Ystâd Shugborough, Swydd Stafford
Porwch drwy’r siop lyfrau ail-law yn Llanerchaeron | © National Trust Images/David Goacher

Cynnyrch o’r ardd a llyfrau ail-law Llanerchaeron

Yn nerbynfa’r ymwelwyr fe welwch lysiau tymhorol, ffrwythau a blodau ar werth, i gyd wedi’u tyfu yn amgylchedd gwarchodol yr ardd furiog. Mae tîm o staff a gwirfoddolwyr yn trin y planhigion, pigo’r ffrwythau a’r llysiau a’u paratoi i’w gwerthu. Rydym hefyd yn gwerthu amrywiaeth o blanhigion a pherlysiau lluosflwydd a epiliwyd ar yr ystâd.

Yma hefyd mae’r siop lyfrau ail-law. Mae’r holl elw’n aros yma yn Llanerchaeron.

Diolch

Diolch i’ch ceiniogau a’ch cefnogaeth chi y gallwn barhau i ofalu am natur, harddwch a hanes i bawb, am byth.

Ymwelwyr yn cerdded o flaen tŷ Llanerchaeron ar ddiwrnod heulog

Darganfyddwch fwy am Llanerchaeron

Dysgwch pryd mae Llanerchaeron ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Y fila a ddyluniwyd gan John Nash yn yr 1790au yn Llanerchaeron
Erthygl
Erthygl

Ymweld â fila John Nash yn Llanerchaeron 

Mae fila Sioraidd Llanerchaeron yn gwneud y gorau o brydferthwch Dyffryn Aeron, ac mae enghraifft brin o iard wasanaeth gyflawn yn cuddio yng nghefn y tŷ.

Clychau’r gog yn Llanerchaeron, Ceredigion
Erthygl
Erthygl

Crwydrwch yr ystâd yn Llanerchaeron 

Dewch am dro i weld amrywiaeth o fywyd gwyllt drwy gydol y flwyddyn yn Llanerchaeron, yn y parcdir, y goedwig, y dolydd ac wrth gwrs y buarth gweithredol.

Gardd y gwanwyn, Llanerchaeron
Erthygl
Erthygl

Ymweld â'r Ardd Furiog yn Llanerchaeron 

Mae’r gerddi muriog yn Llanerchaeron yng Ngheredigion wedi bod yn tyfu bwyd blasus ers dros 200 mlynedd. Gallwch brynu cynnyrch ffres ar eich ymweliad.

Cornel fila Llanerchaeron, adeilad rendrad hufen gyda tho llechi. Yn y blaendir mae dôl o laswellt hir gyda choed aeddfed y tu ôl i’r tŷ ac awyr lwyd uwchben.
Erthygl
Erthygl

Casgliadau Llanerchaeron 

Yn Llanerchaeron, porwch drwy gasgliad hen bethau eclectig Pamela Ward a thrysorfa Geler Jones o beiriannau amaethyddol a domestig o ddechrau’r 20fed ganrif.