Skip to content

Gwaith cadwraeth yn Llanerchaeron

Blodau’r ddôl ar lan y nant yn Llanerchaeron yng Ngheredigion, Cymru
Blodau’r ddôl ar lan y nant yn Llanerchaeron | © National Trust Images / Ian Shaw

Er nad yw Llanerchaeron wedi newid rhyw lawer ers dros 200 mlynedd, mae gwaith cadwraeth wedi bod yn cael ei wneud i adfer y tiroedd hamdden i’w gwir ogoniant ac adfywio’r dolydd a’r glaswelltir.

Adfer y tiroedd hamdden yn Llanerchaeron

Mae’r tiroedd hamdden yn Llanerchaeron, a fu unwaith yn dirwedd agored ac amrywiol, wedi mynd rhwng y cŵn a’r brain – maent bellach yn cael eu dominyddu gan rhododendron ponticum. Mae hyn yn gwrthgyferbynnu’n llwyr â’r weledigaeth wreiddiol – roeddent i fod yn gefnlen bwysig i fila John Nash, gyda phlannu gofalus yn gwneud i’r tŷ ddiflannu i’r dirwedd.

Mae prosiect ar waith i adfer yr ardal hon i’w gogoniant Sioraidd fel y gallwch ymweld a mwynhau’r tiroedd hamdden fel ymwelwyr y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bydd llawer o’r ponticum yn cael ei dorri i greu gofod agored a golygfeydd, a chaiff amrywiaeth ehangach o blanhigion ei chyflwyno, ynghyd â mwy o ddiddordeb tymhorol.

Prosiect Save Our Magnificent Meadows

Roedd gweirgloddiau parcdir eiconig Llanerchaeron yn un o naw safle yng Ngheredigion i fanteisio ar y prosiect Save Our Magnificent Meadows. Dechreuodd y prosiect yn 2014 gyda’r nod o wella ffawd 6,000 hectar o ddolydd a glaswelltiroedd ledled y DU. Mae dolydd a glaswelltiroedd sy’n gyfoeth o rywogaethau yn rhan annatod o dreftadaeth naturiol a diwylliannol y DU ond maen nhw wedi dioddef dirywiad sylweddol – dim ond 2% o’r dolydd a fodolai yn y 1930au sy’n dal i fod gyda ni heddiw.

Ar safleoedd y prosiect yng Ngheredigion, roedd y ffocws ar bori’r cynefinoedd mewn ffordd benodol er mwyn gwneud y glaswelltiroedd cystal ag y gallant fod i fywyd gwyllt, yn ogystal â thorri eithin a rhedyn a lledaenu hadau blodau gwyllt. Yn Nôl yr Afon yn Llanerchaeron gwelwyd gwelliant bron ar unwaith yn 2015, ac erbyn 2017 roedd y ddôl yn fwrlwm o fywyd ac yn fôr o liw.

Ymwelwyr yn cerdded o flaen tŷ Llanerchaeron ar ddiwrnod heulog

Darganfyddwch fwy am Llanerchaeron

Dysgwch pryd mae Llanerchaeron ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Golygfa o furiau allanol melyn y tŷ yn Llanerchaeron
Erthygl
Erthygl

Hanes Llanerchaeron 

Am dros dair canrif bu Llanerchaeron yng Ngheredigion yn gartref i ddeg cenhedlaeth o’r teulu Lewis/Lewes. Dysgwch sut y cyfrannodd pob cenhedlaeth at yr ystâd fel y gwelwch chi hi heddiw.

Clychau’r gog yn Llanerchaeron, Ceredigion
Erthygl
Erthygl

Crwydrwch yr ystâd yn Llanerchaeron 

Dewch am dro i weld amrywiaeth o fywyd gwyllt drwy gydol y flwyddyn yn Llanerchaeron, yn y parcdir, y goedwig, y dolydd ac wrth gwrs y buarth gweithredol.

Rangers and HSBC volunteers planting Sphagnum moss at High Peak Estate, Derbyshire
Erthygl
Erthygl

Working towards a green recovery 

With support from the Government’s Green Recovery Challenge Fund, we're looking for ways to protect our environment and combat climate change. Find out more about the work we're doing.

Clear evidence how the erosion of the cliffs due to climate change threatens the archeological site of the hillfort at Dinas Dinlle, Gwynedd
Erthygl
Erthygl

How we're tackling climate change 

Climate change is the single biggest threat to the places we care for. Take a look at our environmental pledges as we adapt, reduce carbon emissions and address the damage already done.