Darganfyddwch fwy am Llanerchaeron
Dysgwch pryd mae Llanerchaeron ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Am dros dair canrif bu ystâd Llanerchaeron yn gartref i ddeg cenhedlaeth o’r un teulu. Cyfrannodd bob cenhedlaeth at yr ystâd fel y gwelwch chi hi heddiw, gyda fila, ystafelloedd gweision, stablau, adeiladau fferm a gardd furiog, i gyd yn edrych dros dirwedd hardd a chynhyrchiol. Palwch drwy hanes y bobl a fu’n byw yma a dysgwch sut y gwaeth y pensaer John Nash droi’r tŷ yn fila.
Prynwyd Llanerchaeron ym 1634 gan Llewellyn Parry, a allai olrhain ei achau yr holl ffordd i Dywysogion Cymru. Ar yr adeg hon roedd yr ystâd yn cynnwys ffermdy bach â 500 erw o dir a gardd ffurfiol fechan – y gyntaf yng Nghymru o bosib.
Parhaodd yr ystâd i dyfu dros y ganrif nesaf, gyda mwy o dir yn cael ei brynu, diolch i briodas fanteisiol â’r teulu Lewis o’r ystâd gyfagos yng Nghiliau Aeron.
Priododd y Cyrnol William Lewes ag etifeddes leol, Corbetta Williama Powell o blasty Nanteos, ym 1786. Daeth Corbetta â statws cymdeithasol uwch i’r teulu Lewis, ond hefyd waddol mawr a dalodd am y gwaith adnewyddu i’r ffermdy a oedd yma.
Cyflogwyd John Nash fel pensaer a dechreuodd y gwaith ar y tŷ yn y 1790au. Fe’i trawsnewidiwyd, drwy weledigaeth Nash, o ffermdy bychan i’r fila moethus a welwn ni yma heddiw.
Pan gafodd ei gomisiynu i ddylunio tŷ newydd yn Llanerchaeron yn 1783, pensaer anhysbys o Lundain oedd John Nash. Yn ddiweddarach sefydlodd ei enw da fel pensaer Rhaglywiaeth o fri. Fe oedd yn gyfrifol am ddylunio’r pafiliwn Brenhinol yn Brighton a Palas Buckingham.
Etifeddwyd yr ystâd gan John Lewis, mab William a Corbetta, ar farwolaeth ei dad ym 1828. Priododd John Lewis â Mary Ashby Mettam ym 1841. Yn drist, bu farw yn nyddiau cynnar y briodas ym 1855 gan adael Mary ar ei phen ei hun yn Llanerchaeron heb unrhyw blant.
Gwnaeth John ei chwaer a’i ferch yn etifeddion i’w ewyllys, yn hytrach na’i nai, a oedd yn benderfyniad rhyfeddol yn y cyfnod hwn. Roedd ei ewyllys hefyd yn datgan y câi Mary aros yn Llanerchaeron am weddill ei hoes, ond gan nad oedd yn berchen ar y safle, ni allai wneud unrhyw newidiadau i’r ystâd.
Yn ystod y cyfnod hwn roedd safonau byw yn newid a datblygiadau technolegol yn cael eu cyflwyno mewn cartrefi, ond o dan reolaeth Mary, arhosodd Llanerchaeron yn ei hunfan. Cafodd rheolaeth Mary gryn glod; gofalodd am y bobl o’i chwmpas, gan gynnwys y staff, y tenantiaid a’r cymdogion, mewn ffordd famol ond blaengar hefyd.
- Tenantiaid Llanerchaeron, 1913
Rheolodd Mary yr ystâd tan ei marwolaeth ym 1917, a hithau’n 104 oed. Buodd fyw’n hŷn na’r rhan fwyaf o etifeddion yr ewyllys gwreiddiol, ac yn y pen draw aeth yr ystâd i’r Capten Thomas Powell Lewes, gor-nai’r Uwchgapten John Lewis.
Gwnaeth y Capten T P Lewes rai addasiadau bach cyn symud i Lanerchaeron ym 1919. Y rhain oedd y newidiadau sylweddol cyntaf ers dros 120 o flynyddoedd. Gosododd y capten lefydd tân newydd mewn rhai ystafelloedd, ffitiodd gypyrddau yn yr ystafelloedd gwely, ac adeiladwyd yr ystafell ymolchi gyntaf yn Llanerchaeron.
Manteisiodd y Capten Lewes ar olwyn ddŵr yr ystâd drwy ychwanegu system drydanol yn y tŷ. Roedd yr olwyn ddŵr yn gwefru dau fatri mawr a fyddai’n cael eu cludo i’r tŷ i bweru goleuadau a socedi trydan. Yn ffodus, ni chyffyrddwyd â ffabrig adeilad Nash.
Dioddefodd llawer o dai hanesyddol galedi economaidd yn ystod y cyfnod hwn. Goroesodd Llanerchaeron – gwerthodd y teulu Lewes rai erwau o’r fferm a’r tiroedd i gynnal yr ystâd. Ar farwolaeth y Capten T P Lewes ym 1940, etifeddwyd Llanerchaeron gan ei unig fab, Mr John Powell Ponsonby Lewes.
Buodd Mr Ponsonby Lewes yn byw yma, gan reoli’r ystâd yn llwyddiannus, tan ei farwolaeth ym 1989 ac yntau’n 89 oed. Gadawodd Mr Ponsonby Lewes weddill yr ystâd – 760 erw, ynghyd â’r fila a’r fferm – i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Dysgwch pryd mae Llanerchaeron ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Yn Llanerchaeron, porwch drwy gasgliad hen bethau eclectig Pamela Ward a thrysorfa Geler Jones o beiriannau amaethyddol a domestig o ddechrau’r 20fed ganrif.
Mae fila Sioraidd Llanerchaeron yn gwneud y gorau o brydferthwch Dyffryn Aeron, ac mae enghraifft brin o iard wasanaeth gyflawn yn cuddio yng nghefn y tŷ.
Dewch am dro i weld amrywiaeth o fywyd gwyllt drwy gydol y flwyddyn yn Llanerchaeron, yn y parcdir, y goedwig, y dolydd ac wrth gwrs y buarth gweithredol.
Mae’r gerddi muriog yn Llanerchaeron yng Ngheredigion wedi bod yn tyfu bwyd blasus ers dros 200 mlynedd. Gallwch brynu cynnyrch ffres ar eich ymweliad.