Skip to content

Ymweld â Mynydd Mawr a Braich y Pwll

Golygfeydd o Lŷn ac Eryri o Fynydd Mawr
Golygfeydd o Fynydd Mawr | © National Trust images/Annapurna Mellor

Cewch eich syfrdanu gan olygfeydd arfordirol godidog i bob cyfeiriad. O’r fan hon, man mwyaf gorllewinol gogledd Cymru, fe gewch olygfeydd trawiadol o Fôr Iwerddon a chyfle i ystyried grym y llanw wrth iddo ruo drwy Swnt peryglus Ynys Enlli. 

Lle i enaid gael llonydd  

Profwch lonyddwch a thawelwch llwyr ym mhen eithaf Pen Llŷn. Un o nodweddion amlycaf y llecyn arbennig hwn yw’r diffyg sŵn pobl. Ymlaciwch a dadflinwch yn sŵn byd natur, y môr, yr adar a’r gwynt. 

A chough feeding near Lizard Point
Bran coesgoch | © National Trust Images / Terrance Thirlaway

Gwylio adar 

O'r pen eithaf hwn o'r penrhyn, gallwch fwynhau arddangosfeydd awyr gwych.  

Ein brain coesgoch nodedig, arwyddlun Llŷn, yw un o’r rhesymau pam fod y lle arbennig hwn yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Penodol. Gwyliwch nhw'n gwibio a phlymio'n hyderus, gwrandewch am eu galwad nodedig, a chael eich swyno gan eu pig a'u coesau cochion. 

Mae’r aderyn drycin Manaw i’w weld yn croesi Swnt Enlli, gan wneud y daith i’r ynys lle mae nythfa fridio gref o dros 20,000 o barau. 

Mae adar ysglyfaethus fel yr hebog tramor yn crwydro'r ardal hon i hela am fwyd. Yn enwog am ei gyflymder, dyma aelod cyflymaf ym myd yr anifeiliaid.  

Rhywogaethau prin 

Er nad yw'n ddarganfyddiad hawdd, mae Mynydd Mawr a'r cyffiniau yn gartref i'r cen eurwallt prin. I wlad fach, mae gan Gymru’r amrywiaeth fwyaf o rywogaethau cen yn y byd, ond mae amgylcheddau gwahanol dan fygythiad gan weithgareddau megis ffermio dwys.  

Pentir Braich y Pwll yw'r unig le ar dir mawr Prydain lle cofnodwyd i’r blodyn cor-rosyn ruddfannog dyfu. Caiff ei gydnabod gan ei liw melyn llachar a'i smotiau tywyll. Yn blodeuo rhwng Mehefin ac Awst, a dim ond unwaith yn ei oes, mae’n colli ei betalau mewn ychydig oriau o agor. 

Deareg  

Wrth i chi gerdded o amgylch yr ardal ddigyffwrdd hon, peidiwch methu'r ffurfianau dearegol mae'r clogwynni helaeth ar hyd y ffordd yn gynnig.   

Mae Mynydd Mawr a'r pentiroedd cyfagos yn cynnwys elfennau Gwna Mélange - cynhyrchion digwyddiadau trychinebus tanfor enfawr, megis symudiad platiau tectonig. Mae'r elfennau'n ffurfio rhan o'r grŵp Monian, sef creigiau Cyn-Gambriaidd sy'n cynnwys lafâu clustog, calchfaen, iasbis, cerrig llaid coch a cwarts .

Ynys Enlli o Fynydd Mawr
Ynys Enlli | © National Trust Images / Annapurna Mellor

Pererindod 

Ers canrifoedd, mae pobl wedi bod ar bererindod i ynys sanctaidd Enlli, a Mynydd Mawr fyddai’r man aros olaf pererinion y canoloesoedd cyn y groesfan beryglus dros y Swnt. 

Dywedwyd bod tair pererindod i Enlli yn cyfateb i un bererindod i Rufain. Credir bod 20,000 o seintiau wedi'u claddu ar yr ynys. 

Uwchben y clogwyni ym Maen Melyn mae gweddillion eglwys y Santes Fair, lle byddai’r pererinion yn gorffwys ac yn galw ar y Forwyn Fair i’w hamddiffyn rhag yr elfennau ar eu taith i Enlli.  

Islaw adfeilion yr eglwys mae ffynnon y Santes Fair, pwll dŵr croyw a orchuddir gan y môr ar lanw uchel. Yn ôl y chwedl, petaech yn cario llond ceg o'r dŵr yn ôl i fyny'r llwybr peryglus ac i gopa Maen Melyn mi fydd eich dymuniad, beth bynnag bo hwnnw yn cael ei ganiátau.   

Adeilad Gwylwyr y Glannau, Mynydd Mawr
Adeilad Gwylwyr y Glannau, Mynydd Mawr | © National Trust images/Annapurna Mellor

Gwylwyr y Glannau

Gyda golygfeydd eang i bob cyfeiriad, nid yw'n syndod bod Mynydd Mawr wedi’i ddewis gan awdurdodau Fictoraidd fel lleoliad ar gyfer man gwylio Gwylwyr y Glannau.  

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fe'i huwchraddiwyd i gynnwys gwarchoty’r fyddin, gosod llwyfannau gynnau ac offer radar, a chwaraeodd ran yn hysbysu'r Llu Awyr Brenhinol am gyrchoedd awyr y Luftwaffe. Mae seiliau concrid yr adeiladau hyn i'w gweld wrth droed y bryn ger y llwybr arfordirol.  

Caeodd cwt gwylwyr y glannau ei ddrysau yn 1990, ar ôl 80 mlynedd o wasanaeth. 

Two visitors exploring the garden in spring at Quarry Bank, Cheshire

Ymuno

Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cloddiau a chaeau bach yn arwain at Fynydd Rhiw ym Mhen Llŷn, Gwynedd, Cymru
Erthygl
Erthygl

Hanes Pen Llŷn 

Teithiwch yn ôl drwy amser a dysgu mwy am y bobl a’r llefydd sydd wedi siapio Pen Llŷn.

Ynys Enlli o Fynydd Mawr
Llwybr
Llwybr

Cylchdaith Mynydd Mawr a Braich y Pwll 

Cerddwch ben pellaf y penrhyn, a mwynhau golygfeydd anhygoel o Ynys Enlli a Llŷn.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 2 (km: 3.2)
Golygfa dros giât mochyn gyda grisiau yn mynd i lawr trwy laswellt at y lan, gyda’r môr tu hwnt a’r haul yn isel yn yr awyr
Llwybr
Llwybr

Taith arfordirol Porth Meudwy 

Taith arfordirol gylchol ar Benrhyn Llŷn o Aberdaron ar hyd y pentir i harbwr pysgota bychan Porth Meudwy.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 3 (km: 4.8)