Skip to content

Canolfan awyr agored ym Mwthyn Ogwen

Golygfa o Fwthyn Ogwen, y Carneddau a’r Glyderau, Gwynedd a Chwm Idwal yn y cefndir. Mae’r bwthyn yn adeilad du a gwyn mawr a saif ar lan nant mewn cwm creigiog.
Bwthyn Ogwen, Gwynedd | © National Trust Images/Chris Lacey

Canolfan i wardeiniaid ac awyr agored yw Bwthyn Ogwen a sefydlwyd i’w redeg mewn partneriaeth â’r Outward Bound Trust yn 2015

Porth i ogledd Eryri

Saif Bwthyn Ogwen mewn lleoliad arbennig o ran ei olygfeydd ar briffordd yr A5. Mae’n edrych dros Lyn Ogwen ac o’i gwmpas mae ochrau serth Pen yr Ole Wen a chysgod garw Tryfan. Caiff ei amgylchynu gan ddwy gadwyn o fynyddoedd, y Carneddau anferth i’r gogledd orllewin a chopaon dramatig y Glyderau i’r de ddwyrain.

Lle da i gychwyn

Saif yn agos at fan cychwyn amrywiaeth eang o lwybrau cerdded a dringo yn yr ardal o’i gwmpas. Yr un mwyaf poblogaidd ohonynt yw’r llwybr i Warchodfa Natur Genedlaethol gyntaf Cymru, Cwm Idwal trawiadol, llyn rhewlifol â chefndir mynyddig.

Bwthyn Ogwen â Phen yr Ole Wen yn y cefndir
Bwthyn Ogwen â Phen yr Ole Wen y tu ôl iddo | © National Trust Images/Arnhel de Serra

Cerdded i Gwm Idwal

Mae’r daith gerdded at y llyn yn un gymharol hawdd (tua 100m o ddringo) gan alluogi miloedd o bobl i ymgolli yn y mynyddoedd heb orfod mentro’n rhy uchel.

Profiadau yn yr awyr agored

O ystyried yr harddwch o’i gwmpas nid yw’n fawr o syndod bod Bwthyn Ogwen wedi ei gysylltu â mynydda ers amser maith. Heddiw, rydym yn gweithio mewn partneriaeth a’r Outward Bound Trust i gynnig profiad cofiadwy yn yr awyr agored i bobl ifanc o bob rhan o’r wlad.

Sylwer

Nid oes maes parcio gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar y safle, ond mae nifer gyfyngedig o leoedd talu ac arddangos gan Barc Cenedlaethol Eryri gerllaw. Yn ystod y cyfnodau brig fel gwyliau banc a phenwythnosau mae’r rhain yn llenwi’n gyflym iawn. Mae gwasanaethau bws tymhorol ar gael.

Bwthyn Ogwen â Phen yr Ole Wen yn y cefndir

Darganfyddwch fwy am Fwthyn Ogwen

Dysgwch sut i gyrraedd Bwthyn Ogwen, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Dau o bobl allan yn cerdded yn yr eira gyda chi yn croesi camfa rhwng Tryfan a’r Glyder Fach gyda Nant Ffrancon yn y cefndir yn y Carneddau a’r Glyderau, Gwynedd.
Erthygl
Erthygl

Cerdded a dringo ar Dryfan 

Beth sy’n gwneud Tryfan mor arbennig? Dysgwch am hanes y copa garw a’r heriau y mae’n eu rhoi i ddringwyr a mynyddwyr sy’n ceisio ei goncro.

Pedwar cerddwr yn dringo bryn creigiog ger Pen yr Ole Wen, y Carneddau a’r Glyderau, Gwynedd. Mae llawer o gerrig anferth ar y bryn ac mae copa i’w weld yn y cefndir.
Erthygl
Erthygl

Hanes a chwedlau Cwm Idwal 

Dysgwch am orffennol Cwm Idwal, y ffordd y darganfu Darwin sut y crëwyd Cwm Idwal a chwedl tywysog o’r 12fed ganrif a’i fab oedd yn dal y tir