Skip to content
Prosiect

Prosiect Ailfframio

CHWAREL Y PENRHYN gan Henry Hawkins (1822-80) o’r Penrhyn.  (Derbyniwyd yn lle treth gan Drysorlys EM a’i dyrannu i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 1951)
Chwarel y Penrhyn, Henry Hawkins,1832 | © National Trust Images/John Hammond

Mae Ailfframio yn brosiect newydd cyffrous sy’n edrych ar hanes ac effaith Chwarel y Penrhyn.

Beth ydych chi'n feddwl?

Cafodd y llun hwn o Chwarel y Penrhyn ei gomisiynu gan George Dawkins-Pennant a’i beintio gan Henry Hawkins yn 1832 ac mae wedi bod yn rhan o gasgliad y castell ers hynny. Eleni, tra’n adfer y ffrâm gwreiddiol, rydym yn awyddus i ail-edrych ar y paentiad a chasglu eich ymateb chi i’r llun. Tybed beth a welwch chi ynddo?

Cliciwch yma i roi eich sylwadau.

Beth sydd ar ei ffordd?

Caiff y prosiect yma ei gydlynu gan Nici Beech a’i arwain gan y gymuned leol. Yn dilyn cyfnod o ymholi a thrafod gyda'r gymuned a'r artist Rebecca Hardy-Griffith, bydd cyfres o weithdai creadigol gydag artistiaid lleol eraill yn creu deunydd ar gyfer arddangosfa newydd. Bydd yr arddangosfa yn cyrraedd Neuadd Fawr y castell erbyn haf 2024 ond cadwch lygad ar y dudalen hon gan y bydd yn cael ei ddiweddaru pan fydd fwy o wybodaeth ar gael.