Skip to content

Pethau i’w gwybod cyn cyrraedd Castell Penrhyn a’r Ardd

Looking down at visitors in the ornate Grand Hall at Penrhyn Castle
Edrych ar Neuadd Fawr Castell Penrhyn, Gogledd Cymru | © National Trust Images/John Millar

Ar y dudalen hon fe welwch wybodaeth gyffredinol i’ch helpu i gynllunio’ch ymweliad. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ychwanegol, peidiwch ag oedi i gysylltu â ni.

Mynediad i’r castell

Yn ystod y prif dymor, rhwng 1 Mawrth a 3 Tachwedd, mae’r castell ar agor bob dydd rhwng 10 a 4. Mae mynediad olaf i’r castell am 3 o’r gloch.

Wrth gyrraedd y safle, ewch i’r Canolfan Croesawu Ymwelwyr yn y prif faes parcio i sganio eich cardiau aelodaeth neu i brynu tocynnau. Mae taith o 10 munud ar droed o’r fan yma tuag at fynediad y castell.

Hygyrchedd

O’r Canolfan Croesawu Ymwelwyr, gall ein tîm croeso fod o gymorth i chi ganfod lle parcio addas. Ar y safle, mae gennym sgwter symudedd, cadeiriau olwyn â llaw a gwasanaeth bygi golff gallwch ddefnyddio wrth ymweld.

Mae llwybr cylchol o amgylch y tir yn hygyrch ac yn dangos llawer o’r golygfeydd.

Mae ramp tuag at brif fynedfa’r castell, ond mae ardaloedd coblog tuag at gefn y castell. Os yn well ar eich cyfer chi, gofynnwch i aelod o staff allai fod o gymorth i chi wrth osgoi’r ardaloedd yma.

Mae gennym ddolenni sain wrth ein tiliau yn ogystal â rhai cludadwy y gellir eu defnyddio.

Wrth fynedfa’r castell, mae offer ar gael i’ch helpu wrth lywio eich ymweliad, gan gynnwys amddiffynwyr clust, fflach lamp, ysbienddrych a chwyddwydr. Sylwch fod y rhain at ddibenion mynediad yn bennaf.

Yn y Ganolfan Groeso, mae gennym becynnau synhwyrol gallwch fenthyg wrth ymweld sy’n cynnwys, amddiffynwyr clust, llyfrau lliwio, teganau ‘fidget’ ac offer synhwyraidd eraill.

Mae ardaloedd distaw ar ein tiroedd hefyd, gan gynnwyd yr Ardd Furiog a Gardd y Capel, gall ein staff uwch oleuo'r rhain i chi wrth i chi gyrraedd.

Rydym yn anelu at allu croesawu pawb yng Nghastell Penrhyn, felly peidiwch ag oedi os ydych chi eisiau cysylltu â ni cyn cyrraedd, neu wrth ofyn am unrhyw gymorth wrth ymweld.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Y gromen fawr uwch ben y Grisiau Crand yng Nghastell Penrhyn gyda ffenestr yn y to a’r gwaith plastr
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Chastell Penrhyn 

Mae tu allan y castell yn cuddio tu mewn a addurnwyd yn oludog a chartref yr oedd gan y teulu Pennant feddwl mawr ohono. Dysgwch am rai o’r ystafelloedd rhyfeddol.

A father and daughter playing with nature art in a wooden playhouse at the play area at Penrhyn Castle and Garden
Erthygl
Erthygl

Diwrnodau allan i’r teulu yng Nghastell Penrhyn 

Parcdir Castell Penrhyn yw eich parc chwarae chi. Trefnwch eich ymweliad teuluol nesaf chi.

Rhododendron pinc yn blodeuo o flaen Castell Penrhyn.
Erthygl
Erthygl

Ymweld â’r ardd yng Nghastell Penrhyn 

Mae gerddi Penrhyn yn eang ac yn wledd i’r synhwyrau. Cewch heddwch yn yr Ardd Furiog ffurfiol neu ewch trwy’r Ardd Gorsiog debyg i jyngl.