Ymweld â’r ardd yng Nghastell Penrhyn

Yr un fath â’r castell ei hun, mae gerddi Penrhyn yn eang ac yn cynnig rhywbeth i bawb. Gofalwch ddod â’ch awydd am antur a disgwyliwch yr annisgwyl.
Uchafbwyntiau'r Gwanwyn yn yr ardd
Y Gwanwyn hwn yma yng Nghastell Penrhyn a'r Ardd, gwelwch yr lliwiau llachar yn yr Ardd ac o gwmpas yr eiddo fel mae'r tywydd yn troi'r gornel am yr orau. O lliwiau llachar melyn o'r cenin pedr fel rydych yn cerdded fyny'r ystad, i'r blodeuo yn yr Ardd Furiog, mae'r Ardd ym Mhenryn werth ei weld amser yma'r flwyddyn.
Hwyrach ymlaen yn yr tymor gwelwch yr clychau'r gog a'r brillau sydd arddangos cyn Anturiaethau'r Pasg gychwyn o gwmpas yr ystad rhwng 5 a 27 Ebrill. Fel rydych yn cyrraedd brig y castell, gwnewch siwr i edmygu'r olygfa arbennig tuag at Eryri ar ddiwrnod clir.
Yr Ardd Orsiog
Mae planhigion rheonllys anferthol yn tra-arglwyddiaethu ar yr Ardd Gorsiog sy’n debyg i jyngl. Ymgollwch ymhlith y dail yn ystod y gwanwyn a’r haf neu ewch i’r man uchel ger y cut â tho gwellt i gael golygfa eang.
Yr Ardd Furiog
Cewch heddwch a thawelwch yn y tocwaith manwl, y llinellau geometrig, y pyllau cymesur a’r gwaith plannu manwl gywir yn yr Ardd Furiog. Yma gellir gwerthfawrogi gweledigaeth Walter Speed yn y 19eg ganrif o greu un o dair gardd orau Prydain ar y pryd.
Picnic â golygfa yn y Penrhyn
Gyda golygfeydd dros Fae Conwy ac Eryri, mae lawntiau syml Penrhyn yn lle delfrydol i gael picnic. Gall y rhai heini yn eich plith redeg, rowlio a gwneud olwyn trol fel fynnon nhw.
Gardd â golygfa
O’r ‘Lawnt Fasarn’ yng nghefn y castell gallwch fwynhau golygfeydd clir i lawr arfordir Gogledd Cymru i Landudno, y Gogarth ac Ynys Seiriol.
Mae wyneb blaen y castell a’r gerddi yn wynebu Eryri ac mae ganddynt olygfeydd eang o gopa Carnedd Llewelyn ar ddiwrnod clir.
Gosodwyd y castell ei hun mewn man strategol i gael golwg glir o Chwarel y Penrhyn ym Methesda.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Ymweld â Chastell Penrhyn
Mae tu allan y castell yn cuddio tu mewn a addurnwyd yn oludog a chartref yr oedd gan y teulu Pennant feddwl mawr ohono. Dysgwch am rai o’r ystafelloedd rhyfeddol.

Crwydrwch yr ystâd yng Nghastell Penrhyn
Pam nad ewch chi am dro oddi ar y llwybrau cyfarwydd ac ymweld â’r guddfan i lawr ger Afon Ogwen. Bydd teuluoedd yn mwynhau’r ardal chwarae naturiol hefyd. Cofiwch ddod â’ch welis.

Yn cyrraedd yn fuan: Penrhyn a’i Ddiwydiant
Mae bloc y stablau wedi cau tra ein bod ni’n datblygu profiad newydd fydd yn cyrraedd yn hwyrach ymlaen yn 2024. Am ddiweddariadau a mwy o wybodaeth, ewch draw i’n gwefan.

Bwyta a siopa yng Nghastell Penrhyn
Dewch i Gaffi’r Castell am ginio blasus ac amrywiaeth o gacennau. Mae’r siop yn cynnig anrhegion lleol neu porwch yn y siop lyfrau ail-law am fargen.