
Darganfyddwch fwy yng Nghastell Penrhyn a'r Ardd
Dysgwch pryd mae Castell Penrhyn a'r Ardd ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mae rhywbeth i bawb yng Nghastell Penrhyn. Os ydych chi’n darganfod ein hystafelloedd moethus arbennig neu yn dilyn ein hanturiaethau tymhorol, ein tiroedd yw eich lle chwarae, felly ewch i archwilio!
Dyma’r wybodaeth y bydd arnoch ei hangen yn gryno i’ch helpu i gynllunio eich diwrnod yng Nghastell Penrhyn:
Ymunwch gyda ni dros hanner tymor mis Mai wrth i ni ddathlu Wythnos Genedlaethol Garddio Plant (24 Mai - 1 Mehefin) yng Nghastell Penrhyn a’r Ardd. Byddwn efo taflen sbotio ar eich cyfer i fynd efo chi ar eich antur o gwmpas yr ardd.
Mae’r Ardd Furiog yn llawn lliw a bywyd gwyllt, cymerwch foment i weld y torch mawr yn yr ardd, sydd wedi’i addurno gan staff a gwirfoddolwyr. Mae yna gylfe i blannu blodyn haul eich hunain hefyd!
Gallwch archebu lle ar daith gerdded synhwyrol (sensory) gyda'r Prif Arddwr ar 26 a 27 Mai, 1.30-2.30pm. Mae'r nifer o lefydd ar y daith yn gyfyngedig. Mae’n rhaid i riant neu warcheidwad fynd gyda’u plant ar y daith. Cliciwch ar y ddolen i archebu lle: Buy Taith synhwyrol efo ein Prif Arddwr / Sensory walk with our Head Gardener Tickets online - National Trust
Ar 28 a 30 Mai am 2pm bydd cyfle i ddysgu am ac i ddarganfod bywyd gwyllt o amgylch ein pyllau yn yr Ardd Furiog fel rhan o'n 'Sgyrsiau ger y Pyllau.'
Ar 27 a 28 Mai rhwng 11am a 3pm bydd cyfle i gymryd rhan mewn crefftau byd natur, ac yn gyfle i greu broga eich hunain, chwilod neu'n helpu i lenwi ein murlun naturiol.
A phob dydd o'r wythnos bydd yna gyfle i blannu Blodyn yr Haul a llawer mwy!
Heibio’r byrddau picnic wrth fynedfa iard y stablau, gallwch ddarganfod ein parc chwarae yn Rook Wood. Ewch i fyny drwy’r goedwig i fwynhau’r parc lle gallwch ddringo, swingio neu fynd ar y si-so.
Mae ein parc chwarae naturiol yng Nghwt Ogwen yn mynd a chi i lawr tuag at yr Afon Ogwen. Cewch hyd i fwa pren yn y prif faes parcio lle gallwch ddilyn y llwybr i lawr. Darganfyddwch ein cwt sy’n le perffaith i chwarae tŷ bach twt, neu i eistedd yn ddistaw a mwynhau sŵn a golygfa byd natur. Ar gyfer yr anturiaethwyr bach, mae’r parch chwarae antur i fyny’r llwybr, rhowch dro arni a gweld pwy all orffen y llwybr cyflymach.
Dysgwch pryd mae Castell Penrhyn a'r Ardd ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Pam nad ewch chi am dro oddi ar y llwybrau cyfarwydd ac ymweld â’r guddfan i lawr ger Afon Ogwen. Bydd teuluoedd yn mwynhau’r ardal chwarae naturiol hefyd. Cofiwch ddod â’ch welis.
Mae tu allan y castell yn cuddio tu mewn a addurnwyd yn oludog a chartref yr oedd gan y teulu Pennant feddwl mawr ohono. Dysgwch am rai o’r ystafelloedd rhyfeddol.
Mwynhewch daith gylchol o gwmpas rhannau llai cyfarwydd o dir y castell wrth i chi ddarganfod amrywiaeth eang o fywyd gwyllt a natur sy’n cartrefu yma.