Skip to content

Ymweld â Chastell Penrhyn

Y gromen fawr uwch ben y Grisiau Crand yng Nghastell Penrhyn gyda ffenestr yn y to a’r gwaith plastr
Y gromen fawr uwch ben y Grisiau Crand yng Nghastell Penrhyn | © National Trust Images/John Millar

Dewch i weld rhai o’r ystafelloedd rhyfeddol sydd wedi eu haddurno mor gain ar eich ymweliad â Chastell Penrhyn. Agorwch y drws a chamu i mewn i’r ystafelloedd lle byddai teulu Pennant a’u gwesteion enwog yn gwledda a chwarae yng nghanol y fath olud.

Pethau i’w gweld tu mewn i’r castell yn y Penrhyn

Mi gewch eich rhyfeddu gan yr ystafelloedd anferth a moethus, y grisiau Gothig a’r gwaith celf sy’n cael ei arddangos. Clywch hanes y ffortiwn o siwgr a llechi ac ewch i lawr i’r ceginau Fictoraidd i weld sut le oedd gan y staff.

Y Llyfrgell

Does unlle gwell i ymlacio gyda llyfr da a thân i’ch cynhesu. Yma, gallai’r teulu chwarae gêm o filiards a mwynhau diod neu ddau. Roedd hefyd yn lle i fyfyrio’n dawel ac astudio.

Y Parlwr yng Nghastell Penrhyn, Gwynedd yn dangos y cadeiriau derw a’r soffa a ddyluniwyd gan Thomas Hopper a’r brocêd a llenni sidan llachar. Tiriogaeth y merched oedd yr ystafell hon.
Y Parlwr yng Nghastell Penrhyn, Gwynedd yn dangos y cadeiriau derw a’r soffa a ddyluniwyd gan Thomas Hopper | © National Trust Images/Andreas von Einsiedel

Y Parlwr

Gwelir lliwiau pinc trwy’r ystafell i gyd gan gynnwys y carped a’r dodrefn sydd wedi eu gorchuddio â sidan. Mae’n anodd dychmygu bod yr ystafell unwaith wedi ei defnyddio fel swyddfa, yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gan y cwmni cynhyrchu ceir, Daimler. Mae’r dodrefn yn gadarn a chain ac wedi parhau’n ddefnyddiol hyd heddiw.

Ystafell Eboni

Dyma lle byddai’r Foneddiges Penrhyn yn ysgrifennu ei llythyrau ac yn rhoi trefn ar y tŷ gyda’i staff domestig, mae’n agos at rannau’r gweision a’r morynion o’r Castell.

Ystafell India Isaf yng Nghastell Penrhyn, yn dangos y dodrefn derw gan gynnwys gwely, a phapur wal Tsieineaidd
Ystafell India Isaf yng Nghastell Penrhyn | © National Trust Images/Michael Caldwell

Mae amrywiaeth ddifyr o ddodrefn egsotig yma, gan gynnwys mahogani ar y cadeiriau isel a ddaeth o Sri Lanka. Mae’r papur wal hardd yn dyddio o’r 17eg ganrif ac er ei fod wedi pylu bellach, yn ei ddydd fe fyddai wedi rhoi ffrwydrad o liw i waliau’r ystafell.

Ystafell Wely Swyddogol

Cedwid y rhan fawr hon, gyda’i hystafell wisgo ei hun, ar gyfer gwesteion pwysig. Gyda’i gwely pedwar postyn godidog byddai hon wedi bod yn ystafell foethus iawn yn ei dydd, gyda chadeiriau cyfforddus ar gyfer mwynhau te yn y bore neu’r pnawn yn y llofft.

Drws nesaf mae yna dŷ bach cynnar sy’n fflysio. Byddai’r tŷ bach yn cael ei fflysio gyda dŵr glaw oedd wedi ei gasglu - dyfais amgylcheddol gyfeillgar iawn.

Ystafelloedd Gwely’r Tŵr

Cyfres o ystafelloedd yn cynnwys dwy ystafell wely, ystafell wisgo, lolfa, ystafell ymolchi a thoiled. Yr ystafelloedd hyn fyddai ystafelloedd gwely'r Arglwydd a’r Arglwyddes Penrhyn ond hefyd dyma lle byddai’r gwesteion yn aros pan fyddai’r teulu brenhinol yn ymweld.

Gwely llechen tunnell

Ar hyn o bryd mae Ystafelloedd Gwely’r Tŵr yn gartref i wely llechi sy’n pwyso tunnell, gan ddangos y defnyddiau amrywiol y gellid eu gwneud o’r garreg a gwely bras ‘addas i frenin’, gyda’r goron ymerodrol ar ei ben a gomisiynwyd ar gyfer ymweliad Tywysog Cymru yn 1894.

Golygfeydd eang

O’r ystafelloedd yma mae’r golygfeydd gorau o ystâd Penrhyn wrth iddi ddiflannu i fynyddoedd Eryri, ac ar ddyddiau clir, gwelir Chwarel y Penrhyn.

Dim ond ar deithiau swyddogol y mae Ystafelloedd Gwely’r Tŵr i’w gweld, yn ddibynnol ar y lle sydd ar gael. Bydd y Ganolfan Groeso yn gallu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar ddechrau eich ymweliad.

Ystafell India Isaf

Dyma’r ystafell olaf y bu Hugh Napier (Pedwerydd Arglwydd Penrhyn) yn byw ynddi wedi iddo gael ysgariad. Mae’r ystafell yn adlewyrchu’r ‘Dwyrain’, sef label oedd yn cael ei roi ar unrhyw beth oedd yn dod o rywle pell ac mae llawer o’r gwrthrychau yn yr ystafell hon yn dod o Tsieina neu Japan.

Teithiau o Dŵr

Dim ond ar deithiau swyddogol y mae rhai rhannau o Dŵr y Castell i’w gweld, yn ddibynnol ar y lle sydd ar gael. Bydd y Ganolfan Groeso yn gallu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar ddechrau eich ymweliad.

Ymwelwyr yn edrych ar fynyddoedd Eryri o ardd Castell Penrhyn wrth iddi fachlud

Darganfyddwch fwy yng Nghastell Penrhyn a'r Ardd

Dysgwch pryd mae Castell Penrhyn a'r Ardd ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Rhododendron pinc yn blodeuo o flaen Castell Penrhyn.
Erthygl
Erthygl

Ymweld â’r ardd yng Nghastell Penrhyn 

Mae gerddi Penrhyn yn eang ac yn wledd i’r synhwyrau. Cewch heddwch yn yr Ardd Furiog ffurfiol neu ewch trwy’r Ardd Gorsiog debyg i jyngl.

A close up of a scone covered in cream and jam
Erthygl
Erthygl

Bwyta a siopa yng Nghastell Penrhyn 

Dewch i Gaffi’r Castell am ginio blasus ac amrywiaeth o gacennau. Mae’r siop yn cynnig anrhegion lleol neu porwch yn y siop lyfrau ail-law am fargen.

Dau ymwelydd y tu mewn i injan stêm yn edrych ar yr injan yng Nghastell Penrhyn
Erthygl
Erthygl

Yn cyrraedd yn fuan: Penrhyn a’i Ddiwydiant 

Mae bloc y stablau wedi cau tra ein bod ni’n datblygu profiad newydd fydd yn cyrraedd yn hwyrach ymlaen yn 2024. Am ddiweddariadau a mwy o wybodaeth, ewch draw i’n gwefan.

Castell Penrhyn, Gogledd Cymru, yn yr hydref
Erthygl
Erthygl

Hanes Castell Penrhyn a'r Ardd 

Castell Penrhyn oedd cartref y teulu Pennant, ac fe’i adeiladwyd ar sail elw’r diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru a’r planhigfeydd siwgr yn Jamaica.