Skip to content

Arddangosfeydd ym Mhlas Newydd

Mae Synwyriwm yn brosiect celfyddydau ac iechyd cydweithredol a ddatblygwyd gan Amser i Siarad a Galeri Caernarfon gyda Phlas Newydd, gan ddefnyddio creadigrwydd i gefnogi iechyd meddwl ac annog cysylltiad ystyrlon.

‘Synwyriwm’; arddangosfa celfyddydau creadigol a llesiant ym Mhlas Newydd 

Wedi’i ddatblygu gan Amser i Siarad a Galeri Caernarfon, mewn cydweithrediad â Plas Newydd, prosiect cydweithredol y celfyddydau ac iechyd yw ‘Synwyriwm’. Mae’r prosiect yn dod â llesiant a chreadigrwydd ynghyd, gan ddefnyddio'r celfyddydau i gefnogi iechyd meddwl ac annog cysylltiad ystyrlon. Yn dilyn haf llwyddiannus yn y Galeri Caernarfon, bydd yr arddangosfa ar gael i'w gweld yn yr Ystafell Gerdd ym Mhlas Newydd o ddydd Sadwrn, 13 Medi tan ddydd Sul, 2 Tachwedd 2025. 

Beth i'w ddisgwyl 

Mae’r arddangosfa synhwyraidd hon yn dod â gwaith wedi’i gomisiynu gan bump artist sy’n siarad Cymraeg ynghyd, ochr yn ochr â darnau creadigol a ddatblygwyd yn ystod cyfres o weithdai â chleientiaid o Amser i Siarad. Mae Synwyriwm yn fan i fyfyrio, rhannu a dathlu’r rhan y gall creadigrwydd ei chwarae o ran cefnogi iechyd meddwl pobl. 

Nid oes unrhyw gost ychwanegol i weld yr arddangosfa, mae costau mynediad arferol i Blas Newydd yn daladwy. Nid oes angen archebu ymlaen llaw, fodd bynnag, os ydych yn bwriadu ymweld fel grŵp mawr, gofynnwn ichi gysylltu â plasnewydd@nationaltrust.org.uk ymlaen llaw i’n helpu ni i gynllunio eich ymweliad. 

Beth sydd angen ichi ei wybod: 

  • Dyddiadau: 13 Medi - 2 Tachwedd 2025 

  • Lleoliad: Yr Ystafell Gerdd, Tŷ Plas Newydd 

  • Oriau agor y tŷ: 10am-4pm bob dydd (mynediad olaf am 3:30pm) 

  • Yn gynwysedig gyda mynediad arferol 

Artwork from Synwyriwm exhibition
Gwaith celf gan Glyn Price | © Galeri Caernarfon

Arddangosfa Synwyriwm

Gwaith celf o arddangosfa Synwyriwm

1 of 4

Ariannwyd yr arddangosfa hon gan Gyngor Celfyddydau Cymru, grant Iechyd a Llesiant y Celfyddydau, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, Y Loteri Genedlaethol a Phlas Newydd.  

Cwrdd â’r cydweithredwyr 

Mae Amser i Siarad yn elusen iechyd meddwl sy’n cefnogi oedolion a phlant a phobl ifanc ledled Ynys Môn a Gwynedd. Wedi’u lleoli yng Nghaernarfon, maent yn darparu gwybodaeth a gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar iechyd meddwl a llesiant. 

Mae Galeri Caernarfon yn ganolfan celfyddydau cymunedol nid er elw sy’n cynnig theatr, sinema, unedau gwaith a gofodau arddangos. Mae eu gweledigaeth, “Creu Cyfoeth Cymunedol Cynaliadwy” (Creating Sustainable Community Wealth), yn cael ei hadlewyrchu yn y rhaglennu artistig amrywiol, gan gynnwys theatr, ffilm, arddangosfeydd, cerddoriaeth a gweithdai. 

Cwrdd â'r artistiaid 

Comisiynwyd pump o artistiaid sy’n siarad Cymraeg i gynhyrchu amrywiaeth o waith celf synhwyraidd a ysbrydolwyd gan dreftadaeth Plas Newydd. Yna siapiodd y darnau hyn gyfres o weithdai gyda chleientiaid Amser i Siarad, lle daeth creadigrwydd yn ffordd o archwilio ffurfiau celf newydd, sbarduno sgyrsiau a chefnogi llesiant. 

Daeth bob artist â dull unigryw: 

  • Arweiniodd Ticky Lowe weithdai gan ddefnyddio ffabrigau a chynwysyddion wedi’u huwchgylchu i archwilio’r syniad o roi bywyd newydd i wrthrychau sydd wedi mynd yn angof. 

  • Cyflwynodd Sarah Zybroska gyfranogwyr i adrodd straeon drwy ffilm a cherddoriaeth, gan annog hunan-fynegiant drwy sain a delwedd. 

  • Canolbwyntiodd Ffion Pritchard ar lyfrau plyg rhyngweithiol, gan ddefnyddio cyffyrddiad, gwead a symudiad i archwilio adrodd straeon yn synhwyraidd. 

  • Gwahoddodd Glyn Price y cyfranogwyr i gysylltu â natur drwy baentio a gweithgareddau synhwyraidd yn yr ardd ym Mhlas Newydd. 

  • Gweithiodd Ella Louise Jones yn yr awyr agored gydag eco-argraffu a lliwio naturiol, gan archwilio creadigrwydd drwy liw, arogl a natur. 

Bydd yr arddangosfa ‘Synwyriwm’ ym Mhlas Newydd tan 2 Tachwedd 2025. Mae’r Tŷ ar agor bob dydd o 10am tan 4pm.  

Golygfa o Blas Newydd yn Ynys Môn, Gogledd Cymru

Casgliadau Tŷ a Gardd Plas Newydd

Darganfyddwch yr eitemau a’r gwaith celf rydym yn gofalu amdanynt yn Nhŷ a Gardd Plas Newydd ar wefan Casgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.