Skip to content

Diwrnodau allan i’r teulu ym Mhlas Newydd

Ymwelwyr yn cerdded ym Mhlas Newydd, Gogledd Cymru.
Teulu yn cerdded ym Mhlas Newydd | © National Trust Images/John Millar

Os ydych yn ymweld gyda phlant neu wyrion, mae digon i ddiddori'r teulu cyfan ym Mhlas Newydd. Archwiliwch yr ardd, ymlacio a chael tamaid i'w fwyta ar y lawnt, a mwynhau amser fel teulu yn yr Arboretwm.

Haf o Hwyl ym Mhlas Newydd

Archwiliwch yr ardd a darganfyddwch gerrig mân barddoniaeth, brasluniwch olygfeydd o Eryri a chamwch i’r llwyfan gydag Afon Menai yn gefndir i chi. Am y lle perffaith i ymlacio, eisteddwch ar y soffa gwair ar ôl cystadlu yn eich mabolgampau eich hun. Tu mewn i’r Tŷ, gwisgwch i fyny, troellwch, a dawnsiwch yn yr Ystafell Gerdd.

Ar ddiwrnodoau penodol, bydd perfformiadau byr gan ‘Magic Light productions’ wedi’i ysbrydoli gan Marcwis y Ddawns.

Mae gweithgareddau Haf o Hwyl am ddim (mae mynediad arferol yn berthnasol), felly gallwch chi roi cynnig ar bopeth a dod yn ôl dro ar ôl tro.

Mwynhewch nosweithiau haf gydag agoriad estynedig tan 8pm ar nos Fercher yn ystod gwyliau'r ysgol.

Noddir Haf o Hwyl gan Starling Bank.

Young visitor leaning on window sill and sketching in the House at Plas Newydd
Plant yn chwarae yn ardal chwarae Plas Newydd | © National Trust Images/Paul Harris

Diwrnod allan perffaith i'r teulu

Mae ardal chwarae naturiol Plas Newydd yng Nghoed y Llaethdy yn gyrchfan berffaith i deuluoedd sy’n awyddus i fwynhau’r awyr agored. Yma, gall plant brofi eu sgiliau ar amrywiaeth o rwystrau, gan ei wneud yn fan delfrydol ar gyfer ras gyfeillgar i weld pwy all gwblhau'r cwrs gyflymaf!

Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n archwilio'r tŷ coeden - dringwch i'r brig a mwynhau'r golygfeydd o'r lle uchel hwn. Mae'n lle gwych i blant adael i'w dychymyg esgyn wrth fwynhau'r olygfa. I'r rhai sydd â rhediad cystadleuol, mae ein cwrs golff ffrisbi yn aros. Dewch â ffrisbi gyda chi a heriwch eich teulu a'ch ffrindiau i'r gêm unigryw a chyffrous hon.

P’un a ydych chi yma i chwarae, ymlacio, neu’n mwynhau byd natur, mae’r ardal chwarae ym Mhlas Newydd yn cynnig rhywbeth arbennig i bawb.

Cynllunio eich ymweliad

Dyma wybodaeth ddefnyddiol a all eich helpu i gynllunio eich diwrnod allan nesaf ym Mhlas Newydd:

  • Ceir toiledau a chyfleusterau newid babanod yn yr Hen Laethdy ac wrth fynedfa’r Tŷ.
  • Caniateir cadeiriau gwthio ar lawr gwaelod y Tŷ. Ar adegau prysur, efallai y gofynnir ichi eu gadael wrth y fynedfa.
  • Mae bocsys bwyd a bwydlenni i blant ar gael yng nghaffi’r Hen Laethdy, yn cynnwys prydau poeth, brechdanau, hufen iâ a theisennau.

Bagiau synhwyraidd

Mae 2 bag synhwyraidd ac amddiffynwyr clust ar gael i'w benthyca i'w llofnodi i mewn ac allan yn Nerbynfa'r Ymwelwyr. Maent i helpu ymwelwyr ag awstistiaeth, anhwylder prosesu synhwyraidd, neu'r rhai sy'n meddwl byddent yn elwa ohonynt, yn ystod ymweliad â Phlas Newydd.

Pethau y dylech eu gwybod cyn dod draw yn ystod yr Haf

  • Codir prisiau mynediad arferol.
  • Mae’r daith yn addas i gadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio, ond efallai y byddwch yn dod ar draws mannau mwdlyd ar hyd y ffordd.
  • Caniateir cŵn ar dennyn byr yn y gerddi, ac eithrio’r Terasau.
Wyneb dwyreiniol Plas Newydd, Ynys Môn, Cymru, ar draws Afon Menai o Glan Faenol

Darganfyddwch fwy am Dŷ a Gardd Plas Newydd

Dysgwch sut i gyrraedd Tŷ a Gardd Plas Newydd, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

4 hot chocolates on a table in winter
Erthygl
Erthygl

Bwyta a siopa ym Mhlas Newydd 

Mae caffi’r a chiosg yn cynnig digon o gyfle i aros am ddiod a byrbryd, cinio ysgafn a chacennau ffres a’r siop hefo ddigonedd o anrhegion a danteithion i drio.

The house at Plas Newydd, Anglesey, on the banks of the Menai Strait with autumn trees in the foreground
Erthygl
Erthygl

Ymweld â’r tŷ ym Mhlas Newydd 

Crwydrwch trwy gartref teuluol Ardalydd Môn, gweld murlun enwog Rex Whistler a chymerwch eiliad i ymlacio tu mewn i’r Tŷ.

Y terasau y tu allan i'r Tŷ yn yr haf ym Mhlas Newydd, Ynys Môn
Erthygl
Erthygl

Ymweld â'r ardd ym Mhlas Newydd 

Chwiliwch am gorneli cudd gardd yn llawn o bleserau ym mhob tymor. Gyda dros 40 erw o ardd a 129 erw o goetir a pharcdir i grwydro trwyddyn nhw.