Skip to content

Ymweld â'r ardd ym Mhlas Newydd

Y terasau y tu allan i'r Tŷ yn yr haf ym Mhlas Newydd, Ynys Môn
Dechrau haf ym Mhlas Newydd, Ynys Môn | © National Trust Images/James Dobson

Mae’r dirwedd restredig Gradd-1 ym Mhlas Newydd yn cynnwys 40 erw o ardd a 129 erw o goetir a pharcdir.

Uchafbwyntiau’r haf ym Mhlas Newydd

Mwynhewch olygfeydd yr haf ym Mhlas Newydd, efo rhosod yn blodeuo ar y Borderi Oer, yng nghwmni'r nepeta, blodau mae'r gwenyn yn ei garu. Mae'r Terasau a'r Borderi sy'n amgylchynu'r Tŷ yn llawn lliw.

Ar y Borderi Poeth, mae'r alstroemerias wedi dechrau blodeuo a byddant yn parhau drwy'r haf. Mae'r euron Mai a'r salfias yn amsugno'r gwres, efo'r dahlias yn blodeuo. Yn amgylchynu'r Tŷ, mae'r mynawyd y bugail a'r salfia yn fagnetau ar gyfer y gwenyn.

Gwnech y mwyaf o nosweithiau’r haf yn yr ardd ym Mhlas Newydd gydag agoriad estynedig tan 8pm pob nos Fercher yn ystod gwyliau’r ysgol rhwng 23 Gorffennaf a 27 Awst 2025.

Yr ardd ym Mhlas Newydd, Ynys Môn, Cymru, yn llawn blodau yn yr haf gyda’r tŷ yn y cefndir.
Y tŷ o’r ardd ym Mhlas Newydd. | © National Trust Images/John Millar

Terasau

Mae gan yr ardol yma o'r teras ficrohinsawdd cysgodol ac heulog, felly cynulliwyd i blannu blodau a phlanhigion a ysbrydolwyd gan ranbarthau Môr y Canoldir ledled y byd, megis De Affrica a Califfornia. Plannwyd y ffiniau ar ddechrau mis Mehefin - mae llygad y dydd Affricanaidd a phabi Califfornia eisoes yn blodeuo, gyda salfia, gwiail pysgota angylion ac agapanthus i ddod.

Gardd Rhododendron

Yn yr 1930au, plannwyd sbesimenau oedd newydd eu cyflwyno i Brydain gan chwilotwyr planhigion yn yr Ardd Rhododendron sydd dipyn o’r neilltu ac yn heddychlon. Cafodd ei ehangu gan y 7fed Ardalydd yn yr 1940au gan blannu rhododendron a gafodd yn anrheg priodas gan yr Arglwydd Aberconwy o Fodnant.

Yn ogystal â’r sbesimenau aeddfed hyn fe welwch fagnolias ysblennydd. Maent yn blodeuo’n gynnar gan ddod â fflachiadau hyfryd o liw i’r ardd ar ôl y gaeaf.

Visitors sit down to eat on the lush lawn at Plas Newydd, Anglesey
Visitors sit down to eat on the lush lawn at Plas Newydd, Angles | © National Trust Images/Paul Harris

Mwynhewch yr olygfa

Ewch am dro o gwmpas gardd Plas Newydd a darganfod byd o blanhigion a choed gyda mannau o’r neilltu lle cewch ymlacio ac ymgolli yn y golygfeydd.  Mae dwy guddfan ar hyd y llwybrau ar lan Afon Menai lle cewch wylio’r gwahanol adar, yn y coetir neu ar lan y dŵr. 

Gofynnwch i’r tîm croesawu am ragor o wybodaeth am lwybrau cerdded yn yr ardal. Cofiwch ddod â’ch binociwlars.

Wyneb dwyreiniol Plas Newydd, Ynys Môn, Cymru, ar draws Afon Menai o Glan Faenol

Darganfyddwch fwy am Dŷ a Gardd Plas Newydd

Dysgwch sut i gyrraedd Tŷ a Gardd Plas Newydd, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Ymweld â Phlas Newydd efo'ch ci 

Mae gan Blas Newydd sgôr o ddwy bawen. Bydd cynffonnau’n ysgwyd yn llawn cyffro wrth i ni groesawu eich ci i’r ardd a’r tiroedd. Bydd wrth ei fodd yn crwydro’r Ardd Rhododendron, Cwm Camelia, Ardd Goed a Choed yr Eglwys.

Llun agos o gi yn anadlu’n drwm ac yn cael ei anwesu gan ei berchnogion, a dynnwyd yn yr ardd yn Hanbury Hall and Gardens, Swydd Gaerwrangon

Bwyta a siopa ym Mhlas Newydd 

Mae caffi’r a chiosg yn cynnig digon o gyfle i aros am ddiod a byrbryd, cinio ysgafn a chacennau ffres a’r siop hefo ddigonedd o anrhegion a danteithion i drio.

4 hot chocolates on a table in winter

Gwiwerod coch Plas Newydd 

A ydych chi erioed wedi gweld gwiwer goch yn y gwyllt? Mae gan Blas Newydd ar Ynys Môn dros gant. Dewch am dro i weld y creaduriaid rhyfeddol yma yn eu cynefin naturiol.

Wiwer goch ar gangen yn bwyta rhywbeth â rhedyn gwyrdd tu ôl iddi, ar Ynys Brownsea, Poole, Dorset

Ymweld â’r tŷ ym Mhlas Newydd 

Crwydrwch trwy gartref teuluol Ardalydd Môn, gweld murlun enwog Rex Whistler a chymerwch eiliad i ymlacio tu mewn i’r Tŷ.

The house at Plas Newydd, Anglesey, on the banks of the Menai Strait with autumn trees in the foreground