
Darganfyddwch fwy am Dŷ a Gardd Plas Newydd
Dysgwch sut i gyrraedd Tŷ a Gardd Plas Newydd, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Gyda golygfeydd ar draws Afon Menai at fynyddoedd Eryri, mae’n hawdd gweld pam bod tŷ wedi sefyll yn y fan hon ers dechrau’r 16eg ganrif. Heddiw, gallwch ddarganfod celfyddyd, hanes milwrol a’r dyluniadau mewnol a wnaeth droi Plas Newydd i'r Tŷ sy'n gwelwch chi'n rŵan. Edrychwch ar furlun Whistler yn yr Ystafell Fwyta, neu’r goes bren gymalog gyntaf, a ddyluniwyd gan yr Ardalydd Môn 1af.
Mae’r tŷ ei hun wedi newid dros y blynyddoedd, o’r tŷ Tuduraidd gwreiddiol, i’r newidiadau a wnaed gan y pensaer ffasiynol James Wyatt yn 1793-9 a’r gwaith moderneiddio yn ystod yr 1930au pan benderfynodd teulu’r 6ed Ardalydd wneud Plas Newydd yn brif gartref iddynt.
Yn 2019 dechreusom weithio i uwchraddio’r pibellau a’r gwifrau trwy’r adeilad cyfan. Daeth pandemig Covid 19 a’n gorfodi i roi’r gorau iddi ac mae’r gwaith adeiladu wedi’i ohirio am y tro.
Mae ‘Y cyfan a oedd ar ôl’ yn archwilio’r stori’r 5ed Marcwis a Gwerthiannau Mawr Môn yn 1904.
Pan ddaeth Henry Cyril Paget (1875-1905) yn 5ed Marcwis Ynys Môn yn 1898, amgylchynai ei hun â dillad, gwisgoedd a gemwaith drud, ond roedd y byd a greodd yn anghynaliadwy. Bu'n rhaid iddo werthu ei holl eiddo i dalu ei ddyledion yn un o’r gwerthiannau mwyaf ym Mhrydain.
Gyda gosodiadau creadigol yn cynnwys modelau papur a weiran o’i sodlau lledr printiedig, mae ‘Y cyfan oedd ar ôl’ yn ein gwahodd i archwilio effaith y digwyddiad rhyfeddol hwn ar y Tŷ ac ar y gymuned leol, ac i ystyried yr hyn rydym yn ei werthfawrogi.
Yn yr Amgueddfa Filwrol, sydd mewn nifer o'r hen "swyddfeydd domestig", mae arddangosfa o eitemau a lluniau'r Ardalydd 1af a'i ran ym Mrwydr Waterloo. Cafodd yr arddangosfa hon ei churadu gan y diweddar 7fed Ardalydd ac yma y gwelwch goes enwog yr Ardalydd 1af.
Ym Mhlas Newydd mae un o’r murluniau mwyaf ac enwocaf yn y Deyrnas Unedig, wedi ei beintio gan yr artist Rex Whistler.
Ar un adeg, y Salŵn oedd prif lolfa’r tŷ ac mae’r golygfeydd o’r ffenestr fae fawr yn wych. Yn y Salŵn fe welwch dirluniau gwledig sy'n dyddio yn ôl i 1789 ac a beintiwyd gan yr artist o Fflandrys, Balthasar Paul Ommeganck.
Mae’r stydi yn ystafell gartrefol a chysurus ac fe'i cadwyd fel yr oedd pan fu farw'r 7fed Ardalydd yn 2013. Mae’r ystafell ddifyr yn llawn personoliaeth ac mae’n rhoi cipolwg i ni ar waith yr Ardalydd fel hanesydd milwrol o fri a noddwr y celfyddydau yn yr ardal. Mae aroglau mwg ei sigârs yn dal i’w glywed ar dudalennau’r llyfrau a’r dogfennau y bu’n pori trwyddynt.
Mae portread gan Whistler o’r 7fed Ardalydd pan oedd yn ifanc i’w weld yn y stydi hefyd. Gwelir portreadau eraill o’r teulu i fyny’r grisiau; un o’r 6ed Ardalydd ac un arall o’r Arglwyddes Caroline.
Er bod y nenfwd yn ymddangos fel pe bai wedi’i wneud o garreg, plastr wedi’i beintio i edrych fel marmor ydyw ac o bren y gwnaed y colofnau. Addurnwyd y waliau â sawl darlun, yn cynnwys portread hyd llawn Van Dyck o Katherine Manners, Duges Buckingham.
Yr Ystafell Gerdd yw un o’r ystafelloedd mwyaf yn y tŷ, ac yno y gwelir rhai o'r portreadau mwyaf gan gynnwys un o'r Ardalydd 1af sydd i’w weld uwchben y lle tân.
Dysgwch sut i gyrraedd Tŷ a Gardd Plas Newydd, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Roedd Rex Whistler yn artist ifanc talentog a gomisiynwyd i baentio murlun mawr yn yr Ystafell Fwyta ym Mhlas Newydd a ddaeth yn ffrind i’r teulu.
Chwiliwch am gorneli cudd gardd yn llawn o bleserau ym mhob tymor. Gyda dros 40 erw o ardd a 129 erw o goetir a pharcdir i grwydro trwyddyn nhw.
Mae caffi’r a chiosg yn cynnig digon o gyfle i aros am ddiod a byrbryd, cinio ysgafn a chacennau ffres a’r siop hefo ddigonedd o anrhegion a danteithion i drio.
Mae Plas Newydd wedi gweld newidiadau mawr dros y blynyddoedd. Fe gafodd ei drawsnewid o fod yn ‘dŷ parti’ Fictoraidd i fod yn gartref teuluol cyfforddus.