Darganfyddwch fwy am Dŷ a Gardd Plas Newydd
Dysgwch sut i gyrraedd Tŷ a Gardd Plas Newydd, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mwynhewch damaid i’w fwyta a dewis anrheg hefyd. Os byddwch awydd aros am ychydig i gael diod boeth neu ginio ysgafn, mae gennym rywbeth addas i bob archwaeth yma yn Nhŷ a Gardd Plas Newydd, Ynys Môn. Mae gennym hefyd ddigonedd o anrhegion a danteithion i’ch atgoffa am eich ymweliad.
Mae Caffi’r Hen Laethdy wedi agor gyda golwg newydd ac mae’n barod i groesawu ymwelwyr.
Yn agos at y Ganolfan Ymwelwyr, mae Caffi’r Hen Laethdy yn lle perffaith i fwynhau paned o de neu goffi. Mae’n gweini amrywiaeth eang o brydau cinio a phrydau ysgafnach, yn ogystal â chacennau, y cyfan wedi eu coginio ar y safle.
Mae Caffi’r Hen Laethdy hefyd yn addas i gŵn, felly ni fydd raid i chi eistedd allan yn yr oerfel neu’r glaw gyda’ch ci. Ond rydym yn gofyn i chi gadw’r holl gŵn ar dennyn byr a dan reolaeth. Mae bowlenni cŵn ar gael y tu allan yn ardal y cowt i’r ci gael tamaid sydyn.
Gyda rhai meinciau yn edrych tuag Afon Menai a mynyddoedd Eryri, mae’n lle gwych i gael diod boeth neu i’r plant fwynhau byrbryd.
Mae’r rhan fwyaf o’n bwyd a diod yn cael ei baratoi ar y safle yn ein cegin gan ddefnyddio amrywiaeth eang o gynhwysion. O ganlyniad, ni allwn warantu bod ein cynhyrchion bwyd a diod yn hollol rydd o alergenau.
Os oes gennych alergedd neu anoddefgarwch ac yr hoffech weld gwybodaeth am gynhwysion bwyd a diod, gofynnwch i’r staff a fydd yn hapus i helpu.
Wedi ymweld o’r blaen? Weithiau rydym yn newid ein ryseitiau i wella ansawdd a blas, gan gynnwys y cynhwysion. Ar eich ymweliad, siaradwch ag aelod o’n tîm i wirio’r wybodaeth ddiweddaraf am alergenau ar gyfer eich hoff bryd.
Mae’r Hen Laethdy yn lle gwych i ddod o hyd i ddewis helaeth o ddanteithion wedi eu cynhyrchu’n lleol ac anrhegion unigryw i deulu a ffrindiau - neu i chi eich hun.
Cofiwch am ein dewis o ddodrefn gardd, planhigion ac eitemau addurnol i’r ardd.
Dewiswch un o’r danteithion blasus a wnaed yn lleol, fel ein bara brith gwych, a wnaed yma ar Ynys Môn. Mae gennym ddewis gwych o siytni a jamiau hefyd.
Cewch ddewis da o lyfrau newydd sbon ar werth i danio dychymyg pob oed. O lyfrau lluniau i lyfrau ‘pop up’, arweinlyfrau i lyfrau coginio, mae gennym anrhegion i ysbrydoli pawb.
Edrychwch ar y wefan i gael yr amseroedd agor ar hyn o bryd.
Diolch i’ch ceiniogau a’ch cefnogaeth chi y gallwn barhau i ofalu am natur, harddwch a hanes i bawb, am byth.
Dysgwch sut i gyrraedd Tŷ a Gardd Plas Newydd, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Dewch draw i Blas Newydd gyda'r teulu i ddathlu'r gwanwyn ac i ddarganfod gweithgareddau llawn hwyl.
Mae gan Blas Newydd sgôr o ddwy bawen. Bydd cynffonnau’n ysgwyd yn llawn cyffro wrth i ni groesawu eich ci i’r ardd a’r tiroedd. Bydd wrth ei fodd yn crwydro’r Ardd Rhododendron, Cwm Camelia, Ardd Goed a Choed yr Eglwys.
A ydych chi erioed wedi gweld gwiwer goch yn y gwyllt? Mae gan Blas Newydd ar Ynys Môn dros gant. Dewch am dro i weld y creaduriaid rhyfeddol yma yn eu cynefin naturiol.
Crwydrwch trwy gartref teuluol Ardalydd Môn, gweld murlun enwog Rex Whistler a chymerwch eiliad i ymlacio tu mewn i’r Tŷ.
Chwiliwch am gorneli cudd gardd yn llawn o bleserau ym mhob tymor. Gyda dros 40 erw o ardd a 129 erw o goetir a pharcdir i grwydro trwyddyn nhw.