Skip to content

Gwirfoddoli ym Mhlas Newydd

A female visitor smiling and looking to the right, with a volunteer behind pointing something out to her
Volunteer leading a nature tour. | © National Trust Images/John Millar

Awydd antur newydd? Mae ein gwirfoddolwyr yn gwneud cyfraniad enfawr i’r gwaith hanfodol rydym yn ei wneud yma yn y tŷ, yr ardd ac ar draws arfordir Ynys Môn.

Cyfleoedd presennol

Mae’r gefnogaeth a’r wybodaeth mae ein gwirfoddolwyr yn eu cynnig bob dydd yn hanfodol i’n gwaith. Mae'r gefnogaeth a'r wybodaeth mae ein gwirfoddolwyr yn ei gynnig bob dydd yn hanfodol i'n gwaith. Mae gennym ni amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli ar gael, felly os gennych flynyddoedd o brofiad efo chi, neu’n awyddus i drio rhywbeth newydd, byddem wrth ein bodd cyfarfod â chi.

Mae yna lawer o ffyrdd gallwch chi ymuno â'r achos a dod yn aelod gwerthfawr o'r tîm. O groesawu ymwelwyr i’r tŷ, ac adrodd ei straeon diddorol, i’n helpu ni i ofalu am yr eitemau hanesyddol rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw - mae yna rywbeth i bawb.

Gallwch gael fwy o wybodaeth am y rolau ar gael a gwneud cais yma neu anfon e-bostio plasnewydd@nationaltrust.org.uk

Gwirfoddolwr yn dangos y murlun Rex Whistler i ymwelwyr yn yr Ystafell Fwyta ym Mhlasty a Gerddi Plas Newydd, Ynys Môn, Cymru
Gwirfoddolwr yn dangos y murlun Rex Whistler i ymwelwyr ym Mhlas Newydd | © National Trust Images/John Millar

Sut brofiad ydi gwirfoddoli efo ni

Mae pob diwrnod yn antur newydd ac mae gwirfoddoli yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd, dysgu rhywbeth newydd a bod yn rhan o elusen gadwraeth fwyaf Ewrop. Rydym bob amser yn annog gwirfoddolwyr i gynnig syniadau newydd a'n helpu i sicrhau bod ein harlwy i ymwelwyr yn ddim llai na rhyfeddol.

Fel gwirfoddolwr, gallwch hefyd fwynhau'r buddion canlynol:

Mynediad am ddim i holl eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol;

  • Gostyngiadau yn ein siopau a'n hystafelloedd te;
  • Cylchlythyr eiddo misol i gael y newyddion diweddaraf;
  • Rota ar-lein hyblyg, fel gallwch ddewis eich dyddiau a ffitio gwirfoddoli i'ch siwtio chi;
  • Mynediad at wybodaeth a chyngor i'ch helpu i gael y gorau o'ch profiad gwirfoddoli;
  • Costau teithio rhwng eich cartref a Phlas Newydd (hyd at filltiroedd penodol).
Gwirfoddolwr yn siarad ag ymwelwyr ar ddiwrnod heulog yn yr ardd ym Mhlas Newydd, Ynys Môn, Gogledd Cymru
Gwirfoddolwr yn siarad ag ymwelwyr yn Nhŷ a Gardd Plas Newydd | © National Trust Images/James Dobson

Beth ydym ni'n ei ddisgwyl gennych chi

Mae ein gwirfoddolwyr yn cynnig croeso cynnes, gan sicrhau bod ymwelwyr yn cael profiad bendigedig. Maen nhw'n gwneud i'n hymwelwyr deimlo'n arbennig ac wedi'u hysbrydoli, felly maen nhw'n gadael yn teimlo'n dda ac yn awyddus i ddod yn ôl ac ymweld eto’n fuan.

Nid ydym yn chwilio am haneswyr nac arbenigwyr cymwys, dim ond pobl gyfeillgar, groesawgar sydd â diddordeb ym Mhlas Newydd ac sy’n awyddus i rannu ei straeon, fel y gall pawb ei fwynhau, am byth.

Sut i gysylltu

Gallwch ddarganfod mwy am wirfoddoli ym Mhlas Newydd yma a gwneud cais ar-lein yma neu e-bostiwch ni plasnewydd@nationaltrust.org.uk.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

A volunteer talks to two visitors, indicating something on the wall

Volunteer 

Our volunteers make our work to look after nature and history for future generations possible. Learn more about the volunteering opportunities available and hear a selection of their stories to find out what it's like to volunteer with us.

A volunteer talking to a visitor at Wightwick Manor and Gardens, West Midlands
Erthygl
Erthygl

Frequently asked questions on volunteering 

These frequently asked questions should give you all you need to know about who can volunteer, what it involves and how to apply.

Golygfa o Blas Newydd yn Ynys Môn, Gogledd Cymru
Erthygl
Erthygl

Ymweld â’r tŷ ym Mhlas Newydd 

Crwydrwch trwy gartref teuluol Ardalydd Môn, gweld murlun enwog Rex Whistler a chymerwch eiliad i ymlacio tu mewn i’r Tŷ.

Coeden blodau ceirios gyda'r Tŷ yn y cefndir
Erthygl
Erthygl

Ymweld â'r ardd ym Mhlas Newydd 

Chwiliwch am gorneli cudd gardd yn llawn o bleserau ym mhob tymor. Gyda dros 40 erw o ardd a 129 erw o goetir a pharcdir i grwydro trwyddyn nhw.