Nadolig ym Mhlas Newydd

Neidio i
Mwynhewch Ddisgo tawel y Nadolig ym Mhlas Newydd a'r ysbryd yr ŵyl. Rhowch eich esgidiau dawnsio ymlaen a mwynhewch ffefrynnau'r teulu Nadolig gan ein bod yn cynnal parti yn yr Ystafell Gerdd. Yn ddelfrydol ar gyfer pob oed a gallu, mae croeso i bawb ac anogir gwisgoedd parti!
Gwisgwch eich esgidiau dawnsio y Nadolig hwn ac ymgollwch yn hwyl yr ŵyl ym Mhlas Newydd. Dewch â’r teulu cyfan ynghyd a mwynhewch ddisgo tawel, wedi’i ysbrydoli gan barti Noswyl Nadolig a gynhaliwyd gan y 5ed Ardalydd, Henry Cyril Paget, yn ystod ei gyfnod yma.
Cewch weld coeden Nadolig ysblennydd, gyda seren ar ei brig, yn ymestyn am yr oriel wrth i chi fynd i mewn i’r Neuadd Gothig. Yn eich siwmperi Nadolig, hetiau neu fymryn o sbarcl efallai, byddwch yn barod i ymuno â ni i ganu a dawnsio yn yr Ystafell Gerdd.
Tynnwch hunlun ger y dorch Nadolig 7 troedfedd ar Iard yr Ystafell Haul. Dewch i weld sawl seren aur allwch chi eu cyfrif wedi’u gwasgaru ar hyd y gwelyau blodau gerllaw. Yfwch siocled poeth i'ch cynhesu cyn mwynhau taith gerdded aeafol o amgylch yr ardd. Cymerwch amser i ymlacio a mwynhau’r golygfeydd ar draws y Fenai.
Cofiwch, peidiwch â chyrraedd yn hwyr er mwyn bod yn ffasiynol! Cyrhaeddwch 10 munud cyn amser dechrau eich digwyddiad. Rhoddir clustffonau fel y gallwch fynd i mewn i ddechrau dawnsio ar eich union! Dim esgidiau â sodlau os gwelwch yn dda er mwyn ein helpu i ofalu am y llawr yn yr Ystafell Gerdd - byddem wrth ein bodd yn mwynhau llawer mwy o ddawnsio yn y dyfodol hefyd!
Cofiwch ddod â chadarnhad o’ch tocynnau gyda chi, naill ai wedi’i argraffu neu’n electronig.
Gwybodaeth hanfodol
Bydd Nadolig ym Mhlas Newydd 2026 yn rhedeg ar benwythnosau yn unig rhwng 28 Tachwedd a 20 Rhagfyr, gyda dyddiadau ychwanegol ar 21, 22, 23, 24 Rhafyr a hefyd bob dydd o 27 tan 31 Rhagfyr. Rhaid archebu tocynnau ymlaen llaw i warantu eich ymweliad. Dyrennir tocynnau yn ôl amseroedd cychwyn cyfnodol a derbynnir tocynnau digidol neu wedi'i brintio.
Bydd prisiau tocynnau ar gael unwaith mae'r linc yn fyw ac mae costau mynediad arferol yn berthnasol hefyd.
Rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni rhiant neu warcheidwad. Mae plant dan 5 yn cael mynediad am ddim, ond mae angen tocyn mynediad o hyd. Gellir archebu hyd at ddau docyn i ofalwr ochr yn ochr â thocyn talu ar gyfer y digwyddiad hwn.
Cyrraeddwch 10 munud cyn amser cychwyn y digwyddiad. Mae pob sesiwn disgo tawel yn para tua awr. Darperir clustffonau ac maent yn addas ar gyfer pob oedran.
Cynhelir y digwyddiad yn gyfan gwbl dan do. Anogir gwisgoedd parti, cofiwch wisgo'ch esgidiau dawnsio (i amddiffyn eich traed a'r llawr).
Amseroedd agor dros gyfnod y Nadolig
- Gardd, Caffi a Siop: 10:00-16:00.
- Ystafell Gerdd: Ar agor ar gyfer disgo tawel yn unig 11-15:00
- Tŷ ar gau
- Ar gau 25 a 26 Rhagfyr.

Mynediad gwybodaeth
Llwybrau
Mae llwybr heb risiau i gyrraedd y Tŷ.
Seddi
Mae seddi cyfyngedig y tu mewn i'r Tŷ.
Cŵn a chŵn tywys
Mae croeso mawr i gŵn tywys a chŵn cymorth cofrestredig yn y digwyddiad hwn. Ni cheir mynediad i unrhyw gŵn eraill.
Cwestiynau hygyrchedd penodol
Os oes gennych unrhyw gwestiynau penodol yn ymwneud â hygyrchedd neu beth i’w ddisgwyl adeg y Nadolig ym Mhlas Newydd, rydym yn hapus iawn i helpu. Gallwch anfon e-bost atom yn plasnewydd@nationaltrust.org.uk
Bwyd a diod Nadoligaidd
Os oes awydd bwyd arnoch, camwch i Gaffi'r Hen Laethdy lle cewch wledd o ddanteithion Nadoligaidd. Cewch fwynhau dewis eang o opsiynau, o De Prynhawn Nadolig i rôl Nadolig hyfryd, yn cynnwys dewisiadau figan a llysieuol. Tretiwch eich hun i un o’r ffefrynnau tymhorol, fel mins-pei, siocled poeth a gwin cynnes.
- Mae’r Caffi ar agor 10:00–4.
- Ar gau 25 and 26 Rhagfyr.
Siopa Nadolig
Chwilio am ysbrydoliaeth ar gyfer anrhegion Nadolig? Dewch heibio ein siop ym Mhlas Newydd, sydd â detholiad hyfryd o anrhegion ac addurniadau, nwyddau cartref, anrhegion hyfryd a bwydydd Nadolig.
Ar ben hynny, mae pob ceiniog sy’n cael ei gwario yn ein siop yn aros ym Mhlas Newydd yn ein helpu ni i barhau i ofalu am y lle arbennig hwn i bawb, am byth – diolch am roi pefri ar ein Nadolig hefyd.
- Mae'r Siop ar agor 10:00-4 .
- Ar gau 25 a 26 Rhagfyr.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
Y Nadolig yng Nghymru
P’un a ydych yn chwilio am gestyll sy’n llawn addurniadau addurnedig, lleoedd i gwrdd â Siôn Corn, diwrnod allan mewn marchnad Nadolig neu fwynhau taith gerdded gaeafol ffres, mae gennym ddigonedd o lefydd yng Nghymru i wneud atgofion Nadoligaidd.

Bwyta a siopa ym Mhlas Newydd
Mae caffi’r a chiosg yn cynnig digon o gyfle i aros am ddiod a byrbryd, cinio ysgafn a chacennau ffres a’r siop hefo ddigonedd o anrhegion a danteithion i drio.

Ymweld â'r ardd ym Mhlas Newydd
Chwiliwch am gorneli cudd gardd yn llawn o bleserau ym mhob tymor. Gyda dros 40 erw o ardd a 129 erw o goetir a pharcdir i grwydro trwyddyn nhw.
