
Darganfyddwch fwy yng Nghastell a Gardd Powis
Dysgwch pryd mae Castell a Gardd Powis ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Os ydych chi’n dod â’ch ci i Gastell a Gardd Powis, mae’n bwysig gwybod pryd a ble y gallwch chi ymweld ymlaen llaw. Dysgwch am y lle y gallwch aros am rhywbeth i’w fwyta gyda’ch cyfaill ar bedair coes, a’r adegau tawelach o’r flwyddyn y mae’r ardd ar agor i gŵn sydd am ymweld.
Nodwch fod yr ystâd ehangach a’r parcdir yn eiddo i Ystadau Powis, nid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac o ganlyniad, maent yn breifat. Mae yna lwybr y caniateir i gerddwyr ei ddefnyddio ar y ffordd darmac. Ni chaniateir cŵn yn unman yn yr ardal hon, boed ydynt ar dennyn ai peidio, a gofynnwn i ymwelwyr barchu dymuniadau’r tirfeddiannwr. Os ydych yn ymweld gyda’ch ci, gyrrwch ymlaen i faes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol os gwelwch yn dda.
Rydym wedi bod yn gweithio’n galed i’w gwneud hi’n haws i chi wybod pa mor groesawgar fydd eich ymweliad i chi a’ch ci cyn i chi gyrraedd. I helpu gyda hyn, rydym wedi creu system sgorio pawennau newydd, a rhoi sgôr i’n holl leoliadau. Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth hon yn llyfryn aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mae gan Gastell a Gardd Powis sgôr o un bawen.
Mae croeso i gŵn yma, ond mae’r cyfleusterau’n gyfyngedig. Gallant ymestyn eu coesau yn y maes parcio a cherdded yn y mannau agored gerllaw, yn dibynnu ar y tymor. Darllenwch ‘mlaen i weld ble yn union gallwch chi fynd â’ch ci.
Mae cŵn wedi cael croeso yn yr ardd yn ystod misoedd y gaeaf ers peth amser. Nawr, am gyfnod prawf rhwng dydd Sadwrn 6 Mehefin a 31 Hydref 2026, rydym yn ymestyn y croeso hwn i dymor yr haf. Byddwn yn adolygu adborth gan ymwelwyr, staff a gwirfoddolwyr yn gyson.
Yn ystod y cyfnod hwn, mae croeso i gŵn ar dennyn byr na ellir ei ymestyn ar lwybrau yn y rhan fwyaf o’r ardaloedd awyr agored. Fodd bynnag, ni chânt fynediad i’r Lawnt Fawr, y Blaen Dwyreiniol, y Terasau Eidalaidd na’r ystâd ehangach sydd dan berchnogaeth breifat. Mae hyn yn ein helpu ni i amddiffyn nodweddion hanesyddol bregus yr ardd a diogelu planhigion o arwyddocâd arbennig, a chynnal lleoedd i deuluoedd gael picnic a mwynhau digwyddiadau a gweithgareddau.
Er mwyn cadwraeth y castell ac i’n helpu i amddiffyn ein casgliad, dim ond cŵn cymorth wedi’u cofrestru a ganiateir y tu mewn i'r castell ac Amgueddfa Clive.
Gan nad oes gennym ardal ar wahan i gŵn yn ein caffis, yn anffodus allwn ni ddim gwahodd cŵn dan do yn y mannau hyn. Fodd bynnag, mae croeso i gŵn yn y Siop Lyfrau Ail Law, yn ogystal â’r mannau eistedd awyr agored yng Nghaffi’r Iard a Siop Goffi’r Ardd, lle allwch ymlacio a mwynhau eich ymweliad gyda’ch gilydd.

Yn dilyn y cyfnod prawf, caiff cŵn fynediad i’r ardd fel yr arfer hyd at ddiwedd mis Chwefror 2027. Cyhoeddir yr hyn a fydd yn digwydd o fis Mawrth 2027 ymlaen ar ôl i’r cyfnod prawf ddod i ben ac ar ôl i ni adolygu’r holl adborth gan ymwelwyr, staff a gwirfoddolwyr.
Rydym wedi gweithio gyda’n partner Forthglade i lunio’r cod cŵn hwn, sy’n helpu i sicrhau y gall pawb fwynhau eu diwrnod:

Dysgwch pryd mae Castell a Gardd Powis ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Rydym wedi ffurfio partneriaeth â’r gwneuthurwr bwyd anifeiliaid anwes naturiol, Forthglade fel y gallwch chi a’ch ci gael mwy fyth allan o’r lleoedd arbennig sydd dan ein gofal.
O’r mynyddoedd a’r traeth, i erddi a pharcdiroedd, gallwch ganfod llwybr cerdded cŵn yng Nghymru y byddwch chi, a’ch cyfaill pedair coes, yn ei wir fwynhau. Dyma eich canllaw ar gyfer rhai o’r lleoliadau gorau yng Nghymru i ymweld â nhw gyda chŵn.

Ar ôl crwydro’r castell neu deithio trwy’r terasau, dadebrwch gydag un o’r danteithion blasus o Fwyty’r Cwrt, neu ewch ag anrheg adref o’r siop i’ch helpu i gofio diwrnod gwych.

Yn dyddio’n ôl 300 mlynedd, mae’r ardd o’r safon uchaf yn llawn o hanes. Welwch gymysgedd o derasau dramatig, borderi blodau , tocwaith anhygoel a golygfeydd rhyfeddol.

Castell Cymreig yw Powis a adeiladwyd gan dywysog Cymreig, Gruffudd ap Gwenwynwyn (tua 1252). Goroesodd ryfeloedd a’i rannu i ddod yn un o gestyll amlycaf Cymru.

Dewch i ymweld i ddysgu rhagor am y casgliadau byd-eang ym Mhowis, gan gynnwys cerfluniau, dodrefn a thecstilau o Ewrop, India a Dwyrain Asia.

Os ydych chi’n dod â’ch ci i’r llefydd rydym yn gofalu amdanynt, darllenwch y Cod Cŵn a dysgwch am y System Sgorio Pawennau i’ch helpu i gynllunio eich ymweliad. (Saesneg yn unig)

Wrth i’r aer oeri, daw’r ardd, y coetir a’r terasau yng Nghastell Powis yn fyw o liwiau’r hydref. Mwynhewch y dail yn crensian ac aroglau’r coed afalau ar y daith gerdded hawdd hon.

Dewch i archwilio haenau hanes yng ngardd Castell Powis ar y daith gerdded rwydd hon. Byddwch yn ymlwybro ar hyd terasau Eidalaidd, o gwmpas yr ardd ffurfiol a thrwy goetir y Gwyllt, cyn rhoi cwpaned braf o de yn wobr i chi eich hun.
