
Darganfyddwch fwy yng Nghastell a Gardd Powis
Dysgwch pryd mae Castell a Gardd Powis ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mae Castell a Gardd Powis, sef eiddo byd-enwog sydd yn nwylo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn gartref bellach i bedair mainc dderw, a gyfrannwyd yn hael trwy waddol Ann Markwick, cyn-wirfoddolwr brwd ac un a oedd yn gwirioni ar y gerddi.
Mae’r meinciau hyn, a osodwyd yn ystyriol yn ardal wyllt yr ardd, yn cynnig lle tawel braf i ymwelwyr ymlacio, mwynhau’r golygfeydd godidog a chysylltu â natur – teyrnged addas i gariad gydol oes Ann at yr awyr agored a’i hymroddiad i Gastell a Gardd Powis.
Mae’r meinciau’n cynnwys un fainc â lle i dri a thair mainc â lle i ddau, ac mae pob un wedi’i chreu o dderw durol i ategu harddwch naturiol y gerddi. A hwythau’n swatio ymhlith y coed, gydag eirlysiau Galanthus elwesii hardd o’u hamgylch (sef rhywogaeth brinnach a mwy o ran maint, a oedd wrth fodd Ann), mae’r ychwanegiadau hyn yn cynnig rhywle tawel i fyfyrio a ‘lle i enaid gael llonydd’.
Dechreuodd cysylltiad Ann â Chastell Powis ym 1997 pan ddechreuodd wirfoddoli yn swyddfa’r castell, gan gynorthwyo Maddy a helpu i reoli’r materion ariannol cyn dyfodiad yr oes ddigidol. Yn 2001, cafodd ei phenodi’n aelod o Bwyllgor Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ar sail ei hangerdd a’i hymroddiad; bu’n gwasanaethu ar y pwyllgor hwnnw am ddau dymor, a daeth ei chyfnod yn y swydd i ben yn 2007. Roedd Ann wastad yn awyddus i ymestyn ei sgiliau, felly penderfynodd hyfforddi yn y maes cadwraeth llyfrau dan gyfarwyddyd Swyddog Cadwraeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gan ddefnyddio’i sgiliau tra fanwl i warchod cyfrolau hanesyddol hyd nes i’r pandemig COVID-19 ddod â’i gwaith i ben yn 2020.
Mae gwaddol anhygoel Ann yng Nghastell Powis yn brawf o’i hymrwymiad i warchod hanes, harddwch a llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Yn ogystal â dathlu ei chysylltiad personol hi â’r ardd, bydd ei rhodd ystyriol yn cyfoethogi profiad llu o ymwelwyr.
Rhannodd John, gŵr Ann, eiriau o’r galon ynglŷn â’i gwaddol parhaus. Meddai: “Roedd cariad Ann at Gastell Powis a’r gerddi yn ddiwyro a gwych o beth yw ei gweld yn cael ei choffáu mewn ffordd mor ystyrlon. Bydd y meinciau a’r eirlysiau’n cynnig rhywle lle gall ymwelwyr oedi a gwerthfawrogi harddwch yr ardal a oedd mor agos at ei chalon. Hoffwn ddiolch i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac i dîm Castell a Gardd Powis am sicrhau y bydd gwaddol Ann yn parhau, gan gynnig llawenydd a llonyddwch i eraill am flynyddoedd i ddod.”
Yn ôl Shane Logan, Rheolwr Cyffredinol Castell a Gardd Powis: “Rydym wrth ein bodd bod Ann, ein gwirfoddolwr a’n cydweithiwr annwyl, wedi gadael y meinciau hyfryd hyn yn ei Hewyllys – meinciau y gall ein hymwelwyr eu defnyddio mewn lleoliad mor unigryw a gwych. Mae’r coetir yn llecyn hyfryd o dawel ac yn lle perffaith i ategu llesiant meddyliol. Yn ddi-os, byddaf yn siŵr o fynd yno i eistedd a mwynhau tawelwch braf y coetir, gan feddwl yr un pryd am Ann a’r effaith a gafodd ar bob un ohonom.”
Mae’r meinciau’n enghraifft berffaith o’r modd y gall Rhoddion mewn Ewyllysiau wneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran gwarchod a chyfoethogi mannau annwyl sydd dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Fodd bynnag, ei hymroddiad diflino dros ddau ddegawd yw’r rhodd wirioneddol barhaus a roddodd Ann i Gastell Powis a’i ymwelwyr.
Dysgwch pryd mae Castell a Gardd Powis ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Yn dyddio’n ôl 300 mlynedd, mae’r ardd o’r safon uchaf yn llawn o hanes. Welwch gymysgedd o derasau dramatig, borderi blodau , tocwaith anhygoel a golygfeydd rhyfeddol.
Mae gan Gastell a Gardd Powis sgôr o un bawen. Dysgwch ragor am ddod â’ch ci i Gastell a Gardd Powis. Gallwch aros yn y Cwrt i weld y castell a chael diod a thamaid i’w fwyta hefo’ch ci wrth eich ochr. Dysgwch yr ardd 1 Tachwedd - 28 Chwefror.