Skip to content

Gwirfoddoli yn De Gŵyr

Artist tywod yn cyfarwyddo dau wirfoddolwr tra’n gweithio ar y traeth yn Rhosili, Arfordir De Gŵyr
Gwirfoddolwyr ar y traeth yn Rhosili, Arfordir De Gŵyr | © National Trust Images/James Dobson

Rydym bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr i’n helpu i wneud ein gwaith yn De Gŵyr, o ymgysylltu ag ymwelwyr i un o’n prosiectau cadwraeth niferus. Dysgwch am ein cyfleoedd gwirfoddoli a sut y gallwch gymryd rhan.

Diolch am ddangos diddordeb mewn gwirfoddoli

Nid oes unrhyw gyfleoedd gwirfoddoli ar gael ar hyn o bryd. Galwch 'nôl am gyfleoedd newydd yn y dyfodol, neu cymerwch olwg ar ein gwefan wirfoddoli bwrpasol am ffyrdd o wirfoddoli mewn llefydd eraill rydym yn gofalu amdanynt.

Ar y penwythnos 

Chwilio am rywbeth i’w wneud ar ddydd Sadwrn? Ar eich pen eich hun neu gyda’r teulu cyfan, ymunwch â grŵp gwirfoddoli’r penwythnos sy’n cwrdd ar ddydd Sadwrn cyntaf y mis. Gallwch ddarganfod golygfeydd cudd De Gŵyr tra’n gwneud amrywiaeth o waith cadwraeth ymarferol. 

Yn ystod yr wythnos 

Ar ddyddiau Mawrth, Mercher ac Iau mae gennym wirfoddolwyr yn gweithio gyda’r ceidwad ar amrywiaeth o dasgau cadwraeth ymarferol, o lanhau’r traeth i godi waliau cerrig, o ffensio i reoli cynefinoedd. Mae sgiliau newydd i’w dysgu, pobl i’w cyfarfod a llefydd i’w darganfod. 

Gwirfoddoli corfforaethol  

A yw eich cwmni’n eich annog i wirfoddoli am ddiwrnod – at ddibenion adeiladu tîm neu i gyfrannu at brosiect ymgysylltu cymunedol? Mae llawer o bethau y gallech eu gwneud yn De Gŵyr, fel clirio’r traeth lleol neu greu cynefinoedd ar gyfer pob math o fywyd gwyllt. 

Digwyddiadau dydd 

Dewch i helpu yn ein digwyddiadau a’n diwrnodau gweithgareddau. Oes gennych chi stori i’w rhannu neu ddiddordeb mewn pwnc arbenigol? Dewch i ysbrydoli eraill gyda’ch angerdd dros yr awyr agored. 

Helpwch ni i arolygu bywyd gwyllt 

Gyda’r holl waith rydym yn ei wneud, mae’n bwysig cadarnhau pa mor effeithiol yw ein gwaith rheoli. Mae angen help arnom i arolygu ein cynefinoedd, planhigion ac anifeiliaid. Mae’n anhygoel beth welwch chi drwy edrych ychydig yn agosach. 

 

 

Pedwar gwirfoddolwr yn trwsio darn o wal gerrig ar ochr bryn yng Nghymru
Gwirfoddolwyr yn trwsio wal gerrig | © National Trust Images/John Millar

Pam ymuno â ni?

Mae llawer o resymau dros ymuno â ni; gallai gwirfoddoli fod y penderfyniad gorau a wnaethoch erioed.   

  • Dod yn rhan o dîm cyfeillgar ac ymroddedig
  • Cwrdd â phobl o bob cefndir a gwneud ffrindiau newydd  
  • Defnyddio eich sgiliau presennol a dysgu rhai newydd   
  • Gwella eich CV a datblygu eich gyrfa 
  • Mwynhau’r awyr iach
  • Dysgu am hanes y lle arbennig hwn

Am gael rhagor o wybodaeth? 

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â ni, neu os hoffech ddysgu mwy am unrhyw rai o’n cyfleoedd gwirfoddoli, e-bostiwch visit.rhosili@nationaltrust.org.uk neu ffoniwch ni ar 01792 390636. 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cwestiynau cyffredin am wirfoddoli 

Dylai’r cwestiynau cyffredin hyn roi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am bwy all wirfoddoli, beth fyddwch chi’n ei wneud a sut i wneud cais. (Saesneg yn unig)

Visitors are greeted by a volunteer in the garden at Stourhead, Wiltshire

Ein gwaith yn Rhosili 

Dysgwch sut mae arferion ffermio hynafol wedi helpu bywyd gwyllt y Gŵyr.

Gwartheg Shetland ar y Warren ym Mae Rhosili

Hanes Rhosili ac Arfordir De Gŵyr 

Tirwedd hynafol yw Rhosili ac arfordir De Gŵyr. Mae’r rhan fwyaf o ymwelwyr yn dod i fwynhau’r traeth a’r golygfeydd ysgubol, ond o dan ein traed mae tir hynafol, hanesyddol a thrysorau i’w darganfod.

Ymwelwyr yn cerdded ar hyd llwybr ym Mhenrhyn Gŵyr wrth ymyl wal gerrig gyda defaid yn y pellter. Mae’n ddiwrnod niwlog ac mae’r bryniau yn y pellter wedi’u gorchuddio gan niwl.

Ymweld â Rhosili ac Arfordir De Gŵyr 

Ardal arbennig ar gyfer cerdded yr arfordir, gwneud campau dŵr a gwylio bywyd gwyllt. Gyda 3 milltir o dywod, mae digon o le i’r teulu cyfan chwarae yn y tywod neu hedfan barcud.

Enfys dros Rhosili