Cefndir Llynnoedd Stagbwll
Mae Stad Stagbwll, sydd wedi’i lleoli o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, yn cynnwys tua 2,000 o aceri o dirweddau cyfoethog ac amrywiol - gan gynnwys llynnoedd dŵr croyw, coetiroedd, twyni tywod, clogwyni calchfaen a thraethau. Mae’r llynnoedd, a elwir hefyd yn Byllau Lili Bosherston, yn rhan o amgylchedd cadwraeth natur pwysig, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Mae'r ardal yn cynnwys nifer o gyrchfannau cadwraeth, gan gynnwys Ardal Cadwraeth Arbennig (SAC), Ardal Gwarchodaeth Arbennig (SPA), Gwarchodfa Natur Genedlaethol (NNR) a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Ym mis Ionawr 2024, enillodd y coetir y statws Coedwig Genedlaethol Cymru cyntaf erioed hefyd. Mae’r llynnoedd yn rhestredig fel Gradd I yn y Gofrestr o Dirweddau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru. Mae mynediad i Stagbwll yn rhad ac am ddim ac mae’n denu tua hanner miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae’n boblogaidd ymhlith cerddwyr, ymwelwyr traeth, dringwyr, pysgotwyr, rhedwyr, syrffwyr a phobl sy’n frwd dros natur. Mae ei agosatrwydd at bentrefi Stagbwll a Bosherston hefyd yn ei wneud yn nodwedd leol a drysorir.
Yn hanesyddol, dyluniwyd y stad fel tirwedd addurniadol fawreddog, yn cynnwys teithiau cerdded, pontydd, coredau a grotos urddasol, oll wedi’i gwella drwy blaniadau a gosodiadau meddylgar.
Heriau Amgylcheddol
Dros amser, mae llifwaddod wedi casglu ar ochr ddwyreiniol uchaf y llynnoedd, gan leihau dŵr agored ac annog planhigion ymledol fel chwyn pigog. Mae’r newid yn yr hinsawdd yn dwysáu’r problemau hyn — gyda lefelau dŵr is yn ystod yr haf yn cynyddu algâu gwyrddlas, a stormydd y gaeaf yn achosi llifogydd a chroniad gwaddod. Mae’r newidiadau hyn yn effeithio ar yr amgylchedd naturiol a mynediad i ymwelwyr.