Skip to content
Prosiect

Adfer coetir yn Ysgyryd Fawr

Dau berson mewn dillad awyr agored lliwgar yn cerdded ar lethr ar hyd llwybr coetir wedi’u hamgylchynu gan goed a boncyffion sydd wedi’u cwympo
Cerddwch drwy goetir a atgyfodwyd yn Ysgyryd Fawr yn Sir Fynwy | © National Trust Images/John Millar

Mae amynedd yn hanfodol wrth reoli coetir, yn arbennig wrth ymgymryd â phrosiect uchelgeisiol i waredu conifferau o goetir hynafol. Darllenwch ymlaen i ddysgu sut mae ymagwedd hirdymor wedi helpu i drawsnewid y coetir yn Ysgyryd Fawr.

Edrych tua’r hirdymor

Bum mlynedd ar hugain yn ôl, dechreuodd y ceidwad, Stuart McDonnell waith adfer yn Ysgyryd Fawr ger y Fenni. Roedd y safle, sy’n tua 14 hectar (tua maint 14 cae rygbi), wedi’i orchuddio gan gonifferau. Dros y 10 mlynedd gyntaf, lleihawyd y gorchudd coniffer i ddim ond 25%.

Erbyn 2001 roedd rhan helaeth o’r gwaith wedi’i gwblhau. Dim ond amynedd oedd ei angen bellach, ac aros i’r coetir adfer yn naturiol wedi’r ymyriad. Ac yn siŵr i chi, gan fod hwn yn goetir hynafol, roedd ‘na ffynhonnell wych o hadau yn y pridd. Yn sgîl y gostyngiad yn nifer y conifferau a’r golau sydd bellach yn cyrraedd y llawr, ffynnodd bywyd newydd.

Beth oedd y camau nesaf?

Am y 15 mlynedd nesaf, gadawyd natur i ddilyn ei chwrs ei hun, ac aildyfodd y coetir. Ein hunig gyfraniad ni oedd i gynnal y llwybrau cyhoeddus, nid yn unig i roi mynediad i bobl, ond fel coridor ‘ymyl coetir’ pwysig i bili-palod, a wnaeth hefyd annog ffyniant planhigion coetir sy’n gysylltiedig â choetir hynafol.

Asesu cyflwr y safle heddiw

O edrych ar y safle heddiw, mae’n anodd dychmygu’r blanhigfa goniffer a oruchuddiai’r dirwedd o’r blaen. Mae bellach dan ei sang â choed bedw, ynn, cyll, ffawydd, gwern a helyg, i gyd ar yr un lefel yn cystadlu am olau, yn ogystal â’r conifferau sy’n weddill, sy’n agosáu at aeddfedrwydd.

Fel rhan o’r arolygon cyflwr RAWS (Adfer ar Safleoedd Coetir Hynafol), daeth Coed Cadw i’r casgliad fod y safle wedi datblygu o fod mewn cyflwr ‘gwael’ i ‘dda’, yn ymylu ar ‘dda iawn’. Mae hyn yn profi pa mor llwyddiannus mae’r prosiect wedi bod yn adfer y coetir hynafol yn Ysgyryd Fawr.

Looking at the site today it is hard to imagine the conifer plantation that once covered this landscape. It’s now a dense infill of birch, ash, hazel, beech, alder and willow, all at the same level, competing for light, as well as the remaining conifers that are getting ever closer to maturity.

As part of the condition surveys into RAWS (Restoration on Ancient Woodland Sites) the Woodland Trust concluded that the site had progressed from being in ‘poor’ condition to ‘good’, verging on ‘very good’. This proves how successful the project has been in restoring the ancient woodland at the Skirrid.

Person yn cerdded ar hyd llwybr yn Ysgyryd Fawr yn Sir Fynwy gyda waliau cerrig wedi’u gorchuddio â mwsogl i’r dde ohonynt a llwybr pren dan draed
Cerddwch drwy goetir a atgyfodwyd yn Ysgyryd Fawr, Sir Fynwy | © National Trust Images/John Millar

Cynllun 5 mlynedd

Er y llwyddiant, nid yw ein gwaith ar ben. Rydym nawr yn cynnal cynllun 5 mlynedd i reoli’r coetir newydd hwn yn rhagweithiol. Byddwn yn gweithio ar draws y coetir, fesul bloc, i deneuo’r adfywiad trwchus. Byddwn yn ffafrio coed sydd mewn cyflwr da ac yn creu bylchau yn y canopi i helpu i sefydlu haenau gwahanol yn y coetir.

Byddwn hefyd yn tocio’r blociau o gonifferau. Ni fyddwn yn clir-gwympo’r conifferau hyn sy’n weddill gan nad ydynt yn barod eto ac maen nhw’n dal i fod yn adnodd defnyddiol, ac yn ffynhonnell o incwm.

Yn y tymor hwy

Yn dilyn y rownd ddiweddaraf hon o waith, bydd gennym goetir mwy agored ac amrywiol unwaith eto a bydd y safle’n cael ei adael i adfer eto. Byddwn yn gweld mwy o fflora ar lefelau isel, fel y clychau’r gog sydd wedi dechrau ymddangos yn y gwanwyn, a byddwn yn monitro’r poblogaethau o bili-pala i weld pa effaith rydym yn ei chael ar eu niferoedd.

Mewn ugain mlynedd arall, dylai’r coetir edrych a theimlo fel pe na bai’r blanhigfa goniffer erioed wedi bodoli.

Cerddwyr ar lwybr ar Ben-y-fâl ym Mannau Brycheiniog, Powys.

Gwneud rhodd

Mae pawb angen natur, nawr yn fwy nag erioed. Rhowch heddiw ac fe allech helpu pobl a natur i ffynnu yn y lleoedd dan ein gofal.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Praidd bach o ddefaid yn pori ar fynydd Pen-y-fâl ym Mannau Brycheiniog, Powys, gyda chopa pigfain yn y pellter.
Erthygl
Erthygl

Ymwelwch â Pen-y-fâl 

Darganfyddwch y Mynyddoedd Duon, lle mae Pen-y-fâl yn codi’n uchel uwchlaw’r dirwedd. Gyda golygfeydd panoramig o’r cefn gwlad cyfagos, mae’r rhostir yn gartref i amrywiaeth o fywyd gwyllt.

Llethrau serth Ysgyryd Fawr gyda cherddwr yn y pellter yn cerdded ar hyd y llwybr troed
Erthygl
Erthygl

Hanes a chwedlau Ysgyryd Fawr 

Dysgwch am chwedlau a mythau Ysgyryd Fawr a’r cyffiniau, gan gynnwys sut cafodd y Mynydd Sanctaidd ei enw a sut ffurfiwyd y mynydd gan gawr.

Golygfa ar draws parcdir glaswelltog ar Stad Parc Cleidda, lle mae nifer o ddefaid duon yn pori. Gellir gweld y tŷ yn y cefndir, wedi’i guddio’n rhannol gan goed aeddfed.
Erthygl
Erthygl

Ymwelwch â Stad Cleidda 

Mae llwybrau cerdded yn cris-croesi’r ystâd ac yn ymestyn ar hyd glannau Afon Wysg, ac mae yma berffeithrwydd pensaernïol i’ch rhyfeddu hefyd yn Nhŷ Cleidda a Chastell Cleidda.