Skip to content

Ymweld â’r Cymin gyda'ch ci

A dog in woodland at Tyntesfield, Somerset
Mynd â chŵn am dro ar Y Cymin | © National Trust Images/Peter Hall

Cymerwch gam yn ôl mewn hanes wrth i chi droedio yn ôl traed yr Arglwydd Nelson a'r Arglwyddes Hamilton o amgylch tiroedd Y Cymin. Gyda naw erw o dir preserus i’w darganfod, mae digon o le i chi a’ch ci ei archwilio, gyda golygfeydd godidog dros Drefynwy a Dyffryn Gwy. Mae'r Cymin yn gartref i fywyd gwyllt rhyfeddol, o foch daear ac ystlumod i faeddod gwyllt a morgrug coch y coed. Gofynnwn i gŵn aros ar dennyn byr wrth ymweld er mwyn eu hamddiffyn.

Ein System Pawen

Rydyn ni wedi bod yn gweithio ar ei gwneud hi’n haws i chi ddarganfod pa mor gyfeillgar i gŵn fydd eich ymweliad cyn i chi a’ch ffrind pedair coes gyrraedd. I helpu gyda hyn, rydym wedi creu system raddio newydd ac wedi rhoi sgôr i'r holl leoedd yn ein gofal. Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth hon yn llawlyfr aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Lle â chyfradd un pawen yw’r Cymin.

Mae croeso i gŵn yma, ond mae'r cyfleusterau'n gyfyngedig. Fe fyddan nhw'n gallu ymestyn eu coesau yn y maes parcio a cherdded yn y mannau agored cyfagos, yn dibynnu ar y tymor.

Cod Cŵn

Rydym wedi gweithio gyda’n partner Forthglade i lunio’r cod cŵn hwn, sy’n helpu i sicrhau y gall pawb fwynhau eu diwrnod:

  • Tynhewch y tennyn: gallwch helpu i leihau’r siawns y bydd eich ci yn tarfu ar adar sy’n nythu ar y ddaear ac anifeiliaid fferm drwy ei gadw ar dennyn byr. Mae’n hanfodol defnyddio tennyn byr o gwmpas defaid. Ond os bydd gwartheg yn dod atoch chi, y peth gorau i’w wneud yw gadael eich ci oddi ar y tennyn, a’i alw’n ôl atoch chi pan mae’n ddiogel i wneud hynny.
  • Codi’r baw: glanhewch ar ôl eich ci bob tro. Os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i fin gerllaw, ewch â’r bagiau baw adref gyda chi.
  • Troediwch yn ofalus: cadwch olwg ar arwyddion a hysbysiadau lleol ble bynnag fyddwch chi’n cerdded. Byddant yn rhoi gwybod i chi os yw cŵn wedi’u gwahardd o draeth, er enghraifft, neu os yw llwybr wedi’i wyro, neu os ydych chi mewn ardal lle gall cŵn redeg yn rhydd.
  • Cadw’ch llygad ar y bêl: cofiwch nad yw pawb yn caru cŵn, ac mae rhai pobl yn eu hofni. Felly gwnewch yn siŵr nad yw eich ci yn rhedeg i fyny at bobl eraill, yn enwedig plant.

Cadwch eich ci dan reolaeth 

Mae ein diffiniad o reolaeth agos neu effeithiol fel a ganlyn:

  • Y gallu i alw eich ci atoch mewn unrhyw sefyllfa, ar yr alwad gyntaf.
  • Gallu gweld eich ci yn glir bob amser (nid yw gwybod ei fod wedi diflannu i mewn i’r llystyfiant neu dros y bryn yn ddigon). Yn ymarferol, mae hyn yn golygu ei gadw ar lwybr cerdded os yw’r llystyfiant o’ch cwmpas yn rhy drwchus i allu gweld eich ci.
  • Peidio â gadael iddo fynd at ymwelwyr eraill heb eu caniatâd.
  • Cael tennyn i’w ddefnyddio os byddwch yn dod ar draws da byw, bywyd gwyllt neu os gofynnir i chi ddefnyddio un.
Grŵp bach o ymwelwyr yn sefyll o flaen y tŷ gwledda gwyn, deulawr, cylchol, castellaidd Sioraidd yn y Cymin, Sir Fynwy, wrth iddi fachlud.

Darganfyddwch fwy yn y Cymin

Dysgwch pryd mae'r Cymin ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Ein partneriaid

Forthglade

Rydym wedi ffurfio partneriaeth â’r gwneuthurwr bwyd anifeiliaid anwes naturiol, Forthglade fel y gallwch chi a’ch ci gael mwy fyth allan o’r lleoedd arbennig sydd dan ein gofal.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill a allai fod o ddiddordeb i chi

Visitors on a walk with their dog in Heddon Valley, Devon
Erthygl
Erthygl

Ymweld â lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda’ch ci 

Os ydych chi’n dod â’ch ci i’r llefydd rydym yn gofalu amdanynt, darllenwch y Cod Cŵn a dysgwch am y System Sgorio Pawennau i’ch helpu i gynllunio eich ymweliad. (Saesneg yn unig)

Grŵp bach o ymwelwyr yn sefyll o flaen y tŷ gwledda gwyn, deulawr, cylchol, castellaidd Sioraidd yn y Cymin, Sir Fynwy, wrth iddi fachlud.
Erthygl
Erthygl

Ymwelwch â’r Cymin 

Darganfyddwch fyd o olygfeydd godidog a choetiroedd heddychlon, wedi'u cyfuno â thiroedd hamdden prydferth i'w mwynhau gyda phicnic neu daith gerdded ling-di-long.

Ystlum lleiaf cyffredin
Erthygl
Erthygl

Darganfyddwch fywyd gwyllt y Cymin 

Dysgwch am y bywyd gwyllt amrywiol y gallwch ei weld yn y Cymin. O foch daear i ystlumod a morgrugyn prinnaf Prydain.

Plant a chi yn Llyn Bosherston, Stagbwll, Sir Benfro

Llefydd sy’n croesawu cŵn yng Nghymru 

O’r mynyddoedd a’r traeth, i erddi a pharcdiroedd, gallwch ganfod llwybr cerdded cŵn yng Nghymru y byddwch chi, a’ch cyfaill pedair coes, yn ei wir fwynhau. Dyma eich canllaw ar gyfer rhai o’r lleoliadau gorau yng Nghymru i ymweld â nhw gyda chŵn.

Tŷ gwyn o dan goed yr hydref gyda goleuni hydrefol yn goleuo’r olygfa gyda bryniau tu draw
Llwybr
Llwybr

Llwybr Darganfod y Cymin 

Mwynhewch olygfeydd godidog dros Gymru a Lloegr, yn ogystal â dau adeilad Sioraidd, wrth i chi gerdded yn ôl traed yr Arglwydd Nelson a’r Fonesig Hamilton ar y daith gerdded hawdd hon.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 1 (km: 1.6)