Skip to content

Tocyn Trigolion Lleol yn Nhŷ Tredegar

A mother and daughter walk through the gardens with their dog
Rydym wrth ein bodd yn croesawu cŵn sy'n ymddwyn yn dda i'n parcdir a gerddi | © Aled Llywelyn/National Trust

Mae’r Tocyn Trigolion Lleol ar gael i drigolion Casnewydd sy’n byw gerllaw. Gyda’r tocyn, gallwch chi a’ch teulu ymweld â Thŷ Tredegar am ddim drwy gydol y flwyddyn, mor aml ag y mynnwch.

Beth yw’r Tocyn Trigolion Lleol?

Crëwyd y Tocyn Trigolion Lleol i’r rheini sy’n byw’n agos at Dŷ Tredegar a hoffai ymweld drwy gydol y flwyddyn. Nid oes rhaid i bobl sydd â Thocyn Trigolion Lleol dalu ffioedd mynediad i’r tŷ na’r gerddi.

Beth ydw i’n ei gael?

Ymweliadau am ddim â Thŷ Tredegar. Mae hyn yn cynnwys mynediad i ddigwyddiadau mawr fel y Pasg, gwyliau’r haf a’r Nadolig.

Gallai fod costau ychwanegol am weithgareddau ar ôl dod i mewn i’r safle, fel teithiau o’r tŷ neu lwybrau’r Pasg a’r Nadolig.

Pwy sy’n gymwys?

Mae’r Tocyn Trigolion Lleol ar gael i bobl sy’n byw o fewn y ffin gwyrdd ar y map Tocyn Trigolion Lleol.

Mae un Tocyn Trigolion Lleol ar gael i bob aelwyd, a fydd yn caniatáu i ddau oedolion a thri phlentyn (16 ac iau) ymweld â Thŷ Tredegar.

Teulu’n darganfod yr Ystafell Aur yn Nhŷ Tredegar, Casnewydd, Cymru
Teulu’n darganfod yr Ystafell Aur yn Nhŷ Tredegar, Casnewydd, Cymru | © National Trust Images/Aled Llywelyn

Faint mae’r Tocyn Trigolion Lleol yn ei gostio?

Mae’r Tocyn Trigolion Lleol yn rhoi mynediad am ddim i chi a’ch teulu i Dŷ Tredegar drwy gydol y flwyddyn. Mae yna gost weinyddol o £5 y tocyn.

Rydym yn annog trigolion lleol i gerdded neu feicio i Dŷ Tredegar, oherwydd mae’n rhaid talu i barcio yma.

Sut mae ymuno?

Gallwch ymuno drwy alw yn y dderbynfa ymwelwyr ger y maes parcio a siarad â thîm Tŷ Tredegar. Bydd angen i chi ddod â phrawf o’ch cyfeiriad (fel bil cyfleustod neu fil treth gyngor) o’r tri mis diwethaf, a phrawf adnabod dilys.

Mae’r dderbynfa ymwelwyr ar agor o 10.30am i 4pm saith diwrnod yr wythnos yn ystod y prif dymor. Edrychwch ar hafan Tŷ Tredegar am oriau agor llawn.

Alla i ddefnyddio’r Tocyn Trigolion Lleol yn lleoliadau eraill yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol?

Na, mae’r Tocyn Trigolion Lleol yn ddilys yn Nhŷ Tredegar yn unig.

Os ydych chi a’ch teulu am ymweld â safleoedd eraill yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, siaradwch â thîm y dderbynfa ymwelwyr am aelodaeth gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Two adult visitors looking at each other and laughing as they stand atop the Gatehouse at Charlecote Park, Warwickshire

Become a member

Join today and help protect nature, beauty and history – for everyone, for ever. Enjoy access to more than 500 places with National Trust membership.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

A view of the front of the red mansion house
Erthygl
Erthygl

Pethau i’w gwneud yn Nhŷ Tredegar 

Dysgwch fwy am y plasty arbennig hwn a’r Cymry balch a fu’n berchen arno am fwy na 500 mlynedd. Darllenwch ‘mlaen am ragor o wybodaeth am ddarganfod y tŷ hanesyddol hwn.

Visitors exploring the parkland at Tredegar House, Wales
Erthygl
Erthygl

Crwydrwch y parcdir yn Nhŷ Tredegar 

Dysgwch am y pethau gorau i’w gweld a’u gwneud ar eich ymweliad â’r parcdir yn Nhŷ Tredegar a darllenwch ein canllaw i sicrhau bod eich ymweliad yn un diogel a hwyliog.

Teulu’n cerdded tuag at y camera ar hyd llwybr gyda choed hydrefol y naill ochr
Erthygl
Erthygl

Ymweld â'r ardd yn Nhŷ Tredegar 

Crwydrwch amrywiaeth o erddi hanesyddol ar eich ymweliad â Thŷ Tredegar. Darllenwch fwy am y llecynnau gwyrdd unigryw hyn, a sut gall ymwelwyr eu mwynhau nhw heddiw.

Child walking their dog in autumn at Tredegar House, Newport, Wales
Erthygl
Erthygl

Dod â'ch ci i Dŷ Tredegar 

Mae gan Dŷ Tredegar sgôr o dair pawen. Mae digon o gyfleoedd i lamu, neidio a snwffian yn Nhŷ Tredegar. Dysgwch bopeth sydd angen i chi ei wybod am ymweld gyda’ch ci.