
Darganfyddwch fwy yn Nhŷ Tredegar
Dysgwch pryd mae Tŷ Tredegar ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Ry’n ni bob amser wedi caru cŵn yn Nhŷ Tredegar, o Peeps, daeargi'r Ynys Hir Arglwydd Tredegar, i holl anifeiliaid anwes y tîm. Mae croeso cynnes bob amser i chi a’ch ci ac rydym yn gweithio'n galed i ddod o hyd i ffyrdd gwahanol o groesawu cŵn ym mhob rhan o'r safle.
Rydym wedi bod yn gweithio’n galed i’w gwneud hi’n haws i chi wybod pa mor groesawgar fydd eich ymweliad i chi a’ch ci cyn i chi gyrraedd. I helpu gyda hyn, rydym wedi creu system sgorio pawennau newydd, a rhoi sgôr i’n holl leoliadau. Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth hon yn llyfryn aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mae gan Dŷ Tredegar sgôr o dair pawen.
Mae tair pawen yn dynodi’r llefydd gorau i fynd â’ch ci. Byddwch yn gallu mynd â’ch ci i’r rhan fwyaf o ardaloedd, gan gynnwys dan do am baned o de a thrît. Bydd yna arwyddion yn dangos ardaloedd arbennig i gŵn, a phrofiadau gwych ar gael i gŵn. Darllenwch ‘mlaen i weld ble yn union gallwch chi fynd â’ch ci.
Pobman, bron. Yr unig le lle na all cŵn fynd yw’r tŷ ei hun, ac eithrio cŵn cymorth.
Dyma restr o'r holl lefydd y gallwch chi a'ch ci eu crwydro gyda'ch gilydd yn Nhŷ Tredegar.
Mae ein parcdir yn berffaith i gŵn. Gyda 90 erw i'w crwydro, dyma'r lle delfrydol i’ch ci ymestyn ei goesau a chwrso pêl.
Gyda'ch ci ar dennyn, ewch am dro drwy'r gerddi ffurfiol. Mae lawntiau Gardd y Gedrwydden yn arbennig o boblogaidd gan gŵn, sy'n hoff iawn o dorheulo yma.
Mae gennym fyrddau i gŵn yn ein hystafell de, ac mae croeso i chi snwffian o gwmpas ein siop lyfrau gyda’ch ci ar dennyn.
Ry’n ni’n caru cŵn, ond cofiwch nad yw hynny’n wir am bawb. Dilynwch ein cod cŵn a’n helpu i barhau i groesawu cŵn drwy ystyried anghenion ein holl ymwelwyr.
Rydym wedi gweithio gyda’n partner Forthglade i lunio’r cod cŵn hwn, sy’n helpu i sicrhau y gall pawb fwynhau eu diwrnod:
Mae ein diffiniad o reolaeth agos neu effeithiol fel a ganlyn:
Yn ddiweddar rydym wedi dechrau cyhoeddi trwyddedau gorfodol newydd i gerddwyr cŵn. Rydym wedi bod yn cynllunio hyn ers cryn amser ac mae’n ein galluogi ni i gyd i weithio gyda’n gilydd yn gyson a diogel.
Mae’r trwyddedau am ddim am y tro, ond rhaid cytuno a chydymffurfio â’r telerau ac amodau.
Os ydych chi’n cerdded cŵn yn broffesiynol yn y parc yn Nhŷ Tredegar, neu’n bwriadu gwneud hynny yn y dyfodol, cysylltwch â ni drwy e-bostio tredegar@nationaltrust.org.uk.
Mae croeso i gŵn cymorth yn ein tŷ, y gerddi, y caffi a’r siop lyfrau. Am wybodaeth fanylach am fynediad a chyfleusterau, ewch i’n hafan.
Dysgwch pryd mae Tŷ Tredegar ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Rydym wedi ffurfio partneriaeth â’r gwneuthurwr bwyd anifeiliaid anwes naturiol, Forthglade fel y gallwch chi a’ch ci gael mwy fyth allan o’r lleoedd arbennig sydd dan ein gofal.
Galwch draw i gaffi’r Bragdy am ddiod a bwyd poeth. Wedi’i leoli mewn adeilad hanesyddol, mae pob ceiniog a gaiff ei gwario yma yn ein helpu i ofalu am Dŷ Tredegar ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Dysgwch am y pethau gorau i’w gweld a’u gwneud ar eich ymweliad â’r parcdir yn Nhŷ Tredegar a darllenwch ein canllaw i sicrhau bod eich ymweliad yn un diogel a hwyliog.
Crwydrwch amrywiaeth o erddi hanesyddol ar eich ymweliad â Thŷ Tredegar. Darllenwch fwy am y llecynnau gwyrdd unigryw hyn, a sut gall ymwelwyr eu mwynhau nhw heddiw.
Dysgwch fwy am y plasty arbennig hwn a’r Cymry balch a fu’n berchen arno am fwy na 500 mlynedd. Darllenwch ‘mlaen am ragor o wybodaeth am ddarganfod y tŷ hanesyddol hwn.
Os ydych chi’n dod â’ch ci i’r llefydd rydym yn gofalu amdanynt, darllenwch y Cod Cŵn a dysgwch am y System Sgorio Pawennau i’ch helpu i gynllunio eich ymweliad. (Saesneg yn unig)
O’r mynyddoedd a’r traeth, i erddi a pharcdiroedd, gallwch ganfod llwybr cerdded cŵn yng Nghymru y byddwch chi, a’ch cyfaill pedair coes, yn ei wir fwynhau. Dyma eich canllaw ar gyfer rhai o’r lleoliadau gorau yng Nghymru i ymweld â nhw gyda chŵn.
Darganfyddwch natur a bywyd gwyllt ar lwybr glan llyn ystâd Tŷ Tredegar. Gwyliwch adar yn nythu ar y llyn a rhyfeddwch at yr olaf o’r Rhodfeydd Derw yn y parc. Yn addas i’r teulu i gyd.