Skip to content

Nadolig yn Nhŷ Tredegar

Tredegar House 17th Century front
Y Nadolig yn Nhŷ Tredegar, Casnewydd | © James Beck

Eleni yn Nhŷ Tredegar, bydd hud y Nadolig yn fyw i bawb ei fwynhau.

Nadolig yn nhŷ tredegar

Dadorchuddiwch 500 mlynedd o hanes y Nadolig hwn yn Nhŷ Tredegar, gyda goleuadau godidog, awyrgylch hudolus a thros 80 o goed wedi’u haddurno. Cewch cich tywys drwy genedlaethaur gorffennol, archwilio sut oedd y teulu Morgan yn dathlu'r Nadolig, gan ddysgu sut y treuliasant yr wyl, o wieddoedd y Tuduriaid i draddodiadau Fictoraidd, hyd at y 1950au pan odd ysgol Joseff Sant yma. 

I ddechrau tymor y Nadolig, dewch i weld goleuadau disglair yr ardd ac addurniadau cain y plasty o 4 Rhagfyr ymlaen. Pa le gwell na Thŷ Tredegar i godi hwyl yr ŵyl.

Amseroedd agor y tŷ

  • 4 Rhagfyr, 4pm - 7:30pm (mynediad olaf 7pm)

  • 5 - 8 Rhagfyr, 11am - 3:30pm (mynediad olaf 2:45pm)

  • Ar Agor yn Hwyr 12 - 23 Rhagfyr, 12pm - 7:30pm (mynediad olaf 7pm)

  • 'Da bo ’Dolig’ 27 - 31 Rhagfyr, 11am - 3:30pm (mynediad olaf 2:45pm)

  • Ar gau 24, 25 a 26 Rhagfyr

  • Ewch i’r hafan am ragor o fanylion.

Cliciwch isod i weld manylion ein digwyddiadau Nadolig.

Visitor reading Christmas wishes at Tredegar House, Newport, Wales
Visitor reading Christmas wishes at Tredegar House, Newport, Wales | © ©National Trust Images/Aled Llywelyn

Ymweliad gan Siôn Corn a Scrooge

Bydd dau gymeriad gwahanol iawn yn ymweld â Thŷ Tredegar y Nadolig hwn. Ar 13-14 Rhagfyr a 20-23 Rhagfyr, bydd Siôn Corn yn crwydro o amgylch y tiroedd gan rannu hwyl yr ŵyl cyn y diwrnod mawr, tra bydd Scrooge yn y tŷ yn ceisio dianc rhag y dathliadau. Codir prisiau mynediad arferol a bydd ymddangosiadau ar ddyddiau dethol yn unig (o 1pm-7pm). Sicrhewch eich bod yn edrych yn ofalus ar yr amserlen cyn ymweld, rhag cael eich siomi. Dewch draw am brofiad Nadoligaidd llawn hwyl ac ychydig o ddireidi hudolus y Nadolig.

Agoriadau nadolig hwyr

12 - 23 Ragfyr, byddwn ar agor tan 8pm, felly bydd cyfle i bawb fwynhau Nadolig hudolus yn Nhŷ Tredegar. Bydd y Bragdy hefyd ar agor tan 8pm ar y dyddiau agor gyda’r hwyr, felly dewch i fwynhau’r Nadolig dan olau’r lleuad.

Llwybrau’r Gaeaf 

Gwisgwch yn gynnes a dewch am dro drwy diroedd rhewllyd Tredegar. Gofalwch rhag llithro, mwynhewch y gerddi ffurfiol, ac ymgollwch eich hun yn nathliadau Nadolig y gorffennol, a fwynhawyd gan y teulu Morgan drwy’r canrifoedd.  

Yn y parcdir, mae’r llyn yn rhewi ar yr adeg hon o’r flwyddyn yn aml, ac ar ddiwrnod rhewllyd mae’r llwybrau’n disgleirio gan droi’r ardd a’r parc yn fyd o hud gaeafol i chi ei ddarganfod. 

Coeden Nadolig
Nadolig Nhy Tredegar | © Aled Llewellyn
Golygfa o wedd ogledd-orllewinol Tŷ Tredegar, Casnewydd, o’r tu allan i’w gatiau haearn gyr du ac aur addurniadol.

Darganfyddwch fwy yn Nhŷ Tredegar

Dysgwch pryd mae Tŷ Tredegar  ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Y Nadolig yng Nghymru 

P’un a ydych yn chwilio am gestyll sy’n llawn addurniadau addurnedig, lleoedd i gwrdd â Siôn Corn, diwrnod allan mewn marchnad Nadolig neu fwynhau taith gerdded gaeafol ffres, mae gennym ddigonedd o lefydd yng Nghymru i wneud atgofion Nadoligaidd.

Two children and Father Christmas smiling and looking at a Christmas Tree decorated with red baubles and fairy lights in Tredegar House, Newport, Wales

Pethau i’w gwneud yn Nhŷ Tredegar 

Dysgwch fwy am y plasty arbennig hwn a’r Cymry balch a fu’n berchen arno am fwy na 500 mlynedd. Darllenwch ‘mlaen am ragor o wybodaeth am ddarganfod y tŷ hanesyddol hwn.

A view of the front of the red mansion house

Bwyta yn Nhŷ Tredegar 

Galwch draw i gaffi’r Bragdy am ddiod a bwyd poeth. Wedi’i leoli mewn adeilad hanesyddol, mae pob ceiniog a gaiff ei gwario yma yn ein helpu i ofalu am Dŷ Tredegar ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Afternoon tea with fruit scones, clotted cream and jam in the restaurant at Sissinghurst Castle Garden, Kent

Ymweld â'r ardd yn Nhŷ Tredegar 

Crwydrwch amrywiaeth o erddi hanesyddol ar eich ymweliad â Thŷ Tredegar. Darllenwch fwy am y llecynnau gwyrdd unigryw hyn, a sut gall ymwelwyr eu mwynhau nhw heddiw.

Rhieni a babanod yn yr ardd