Skip to content

Nadolig yn Nhŷ'r Masnachwr Tuduraidd

Y bwrdd Nadolig wedi’i osod ar gyfer Nadolig Tuduraidd yn Nhŷ’r Masnachwr Tuduraidd yn Ninbych-y-pysgod
Bwrdd Nadolig Tuduraidd, Tŷ’r Masnachwr Tuduraidd, Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro | © National Trust / Sue Jones

Ar gyfer Nadolig 2023, gwnaethom eich gwahodd i fynd i naws yr ŵyl drwy ddod i weld sut y byddai masnachwr Tuduraidd wedi dathlu’r adeg hon o’r flwyddyn.

Mae gweithgareddau Nadolig 2023 wedi dod i ben yn Nhŷ’r Masnachwr Tuduraidd erbyn hyn.

Gwybodaeth ynghylch Nadolig 2023 oedd yr isod. Gobeithio eich bod wedi mwynhau popeth yr oedd gennym i’w gynnig. Dewch yn ôl yma yn nes at Nadolig 2024 i weld diweddariadau ynghylch yr holl gynlluniau cyffrous sydd gennym ar y gweill.

Noder: oherwydd ei faint bychan, ni allwn ganiatáu i fwy na 30 o bobl fod yn y tŷ ar yr un pryd.

Sut beth yw’r Nadolig yn Nhŷ’r Masnachwr Tuduraidd?

Bydd dau o’r tri llawr yn cael eu haddurno â phlanhigion bytholwyrdd naturiol, yn debyg i sut y byddai teulu Tuduraidd cyfoethog wedi addurno eu cartrefi. Caiff y bwrdd Nadolig ei osod gyda’r math o fwydydd a fwytawyd yn y cyfnod a bydd yr “Arglwydd Camlywodraethu” ar gael i roi tegan Tuduraidd i bob plentyn a fydd yn ymweld.

Nadolig yn Nhŷ'r Masnachwr Tuduraidd 2023

Oeddech chi’n gwybod mai’r Tuduriaid oedd yn gyfrifol am ddechrau nifer fawr o’n traddodiadau Nadolig? Roedd y Tuduriaid yn adnabyddus am fwynhau parti, ac roedd Harri VIII yn enwog am fod yn hoff o bethau drud a moethus.

Yn ystod y gaeaf, byddai bywyd yng nghyfnod y Tuduriaid wedi bod yn oer ac yn dywyll ac ar ôl blwyddyn anodd o lafur byddai teuluoedd cyfoethog a dosbarth gweithiol yn barod i ddathlu eu ffydd mewn amgylchedd teuluol.

Addurniadau Nadolig

Er bod coed Nadolig o gwmpas yn yr 16eg ganrif yn y gwledydd Baltig ac yng ngogledd yr Almaen, ni fyddai rhai wedi bod yng nghartrefi'r Tuduriaid. Yn hytrach na hynny, byddent wedi addurno eu tai â phlanhigion bytholwyrdd naturiol fel eiddew, celyn, llawryf ac uchelwydd a byddent wedi addurno ar noswyl Nadolig.

Anrhegion Nadolig.

Rhoddwyd anrhegion ar Ddydd Calan a byddent wedi cynnwys eitemau fel cerddi byrion, neu eitem o ddillad mewn cartrefi cyfoethog.

Arferion Nadolig.

Roedd y Nadolig yn ŵyl eithaf hir a gynhaliwyd dros 12 diwrnod. Byddai pawb yn cymryd seibiant o’r gwaith ac yn ymweld â ffrindiau, ac roedd y tymor yn cael ei ystyried yn ddathliad cymunedol i raddau helaeth. Roedd y 12 dydd yn ddyddiau gwyliau seintiau mewn gwirionedd, a’r pwysicaf ohonynt oedd 25 Rhagfyr, a chynhaliwyd y gwleddoedd mwyaf ar 1 a 6 Ionawr.

Yr Arglwydd Anghyfraith oedd yn goruchwylio'r rhialtwch ac yn gyfrifol am reoli digwyddiadau afreolus fel yfed, cyfnewid rolau ac anrhefn gyffredinol.

Bwyd y Nadolig a Gwledda

Roedd hwn yn gyfnod o wledda mawr ac yn cynnwys cig fel cig alarch, gŵydd a thwrci, yn ogystal â chig carw, paun ac wrth gwrs, baedd gwyllt.

Roedd traddodiadau eraill yn cynnwys sioeau pantomeim, canu carolau ac yfed gormod, felly yn y 12 diwrnod dros y Nadolig, byddai'r dathliadau yn Llys y Tuduriaid, ac o bosibl mewn tŷ masnachwr cyfoethog, yn llawn goleuni, chwerthin a gwledda.

Golygfa o stryd Dinbych-y-pysgod a’r harbwr
Stryd Dinbych-y-pysgod ger Tŷ’r Masnachwr Tuduraidd, Dinbych-y-pysgod | © National Trust / James Dobson

Nadolig yn Dinbych-y-pysgod

Wedi’i gyfaneddu cyn gynhared â’r 9fed ganrif, gyda’i muriau tref canoloesol, sydd mewn cyflwr da, mae Dinbych-y-pysgod yn dref glan môr hardd ac eiconig a ddaeth yn boblogaidd fel cyrchfan yn ystod y cyfnodau Sioraidd a Fictoraidd. Mae’r Nadolig yn gyfnod hyfryd i ymweld â’r dref i wneud ychydig o siopa Nadolig wrth grwydro ar hyd rhai o’r strydoedd cul hynafol. Mae gan Ddinbych-y-pysgod draethau hyfryd hefyd, ac mae cerdded ar hyd y glannau ar ddiwrnod oer o aeaf yn ffordd wych o adfywio eich hun a mwynhau’r arfordir.

Sir Benfro yn ystod y Nadolig

Mae Sir Benfro yr un mor hardd yn ystod y gaeaf ag ydyw yn ystod y gwanwyn a'r haf. Mae llawer o leoedd i'w darganfod ar ymweliad ar yr adeg hon o’r flwyddyn, o Ystad Ystagbwll gyda’i thraethau sydd wedi ennill gwobrau, a’i thirwedd restredig Gradd 1, i archwilio Penrhyn Dewi yng ngogledd Sir Benfro ac ymweld â rhai o’i borthladdoedd bach niferus fel Solfach neu Borthclais. Os ydych chi’n ddewr ac yn fentrus, gallech hyd yn oed fynd i nofio ym Môr Iwerddon neu roi cynnig ar syrffio! Sicrhewch eich bod yn gwisgo siwt wlyb i gynhesu os yw hyn yn newydd i chi.

Golygfa o Gastell Powis, uwchben ei derasau, Powys, Cymru, yn yr hydref.

Discover more in Wales

A Celtic land with an industrial past steeped in myth, legend, poetry and song. Croeso i Gymru.

You might also be interested in

Pentwr o greigiau yn y blaendir gyda thraeth a’r môr tu hwnt gydag awyr gymylog uwchben
Erthygl
Erthygl

Family Days out at Stackpole 

Discover family days out at Stackpole including beaches, history and 3,000 acres of amazing wildlife to explore.

Golwg graff ar ddwylo plentyn yn dal broga brown bach yn yr ardd yn yr Argory, Swydd Armagh.
Erthygl
Erthygl

Wildlife at Colby Woodland Garden 

Colby’s wooded valley is teeming with creatures great and small. Look out for birds, bugs, very rare bats and even the occasional otter.

The Gribin, a steep sided ridge overlooking Solva Harbour, Pembrokeshire
Erthygl
Erthygl

Pembrokeshire 

Discover a colourful combination of coast and countryside in Pembrokeshire with sweeping sands, thriving wetlands and rocky islands for you to explore.

Yr ardal fasnachu yn Nhŷ’r Masnachwr Tuduraidd, Sir Benfro, sydd â tho isel â thrawstiau pren, llawr fflags, casgenni a bwrdd ochr gwyrdd gyda phowlenni terracotta arno.
Erthygl
Erthygl

History of the Tudor Merchant’s House 

In Tudor times, Tenby was a hub for overseas trade importing a wide variety of stock, including salt, linen and wine from France. Discover more in the busy Tudor Merchant’s shop.

Ymwelydd, gwirfoddolwr a dehonglydd mewn gwisg, Tŷ’r Masnachwr Tuduraidd, Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro
Erthygl
Erthygl

Volunteering at the Tudor Merchant’s House 

We rely on volunteers to help with the many different areas of the garden we look after, which means there are plenty of interesting roles to consider.

Grŵp o adar drycin Manaw llwyd a gwyn yn hedfan dros y môr
Erthygl
Erthygl

Our conservation work on the Pembrokeshire coast 

Every 20 years a census is carried out to assess the size of the Manx shearwater colony on islands off the Pembrokeshire coast. The latest survey showed very promising results.