Skip to content

Digwyddiadau Arbennig

Digwyddiadau Diwrnodau Agored Tŷ Mawr Wybrnant
Cynhelir digwyddiadau arbennig yn Nhŷ Mawr ar ddydd Sul cyntaf y mis yn ystod y tymor agor | © National Trust

Ar ddydd Sul cyntaf y mis o tua mis Ebrill i fis Medi, mae Tŷ Mawr yn cynnal digwyddiadau diwrnod agored arbennig sy'n cyffwrdd gyda gwahanol themâu - o lên gwerin i gerddoriaeth ac o hanes i deithiau cerdded tywys.

Beth sydd wedi digwydd hyd yma

Mae rhaglen newydd a chyffrous o ddigwyddiadau yn cael ei lunio bob blwyddyn sy'n rhoi cyfle i ymwelwyr i Dŷ Mawr ymgysylltu gyda'r safle mewn sawl ffordd wahanol.

Yn 2025 cynhaliwyd taith tywys o amgylch Tŷ Mawr gydag actorion a storïwyr proffesiynol yn did â llên gwerin a straeon yr ardal yn ôl yn fyw. Gwahoddwyd ymhelwyr ar y daith i wrando ar straeon Iwan Serw y porthmon (Llion Williams), Barbra Fedw Deg y delynores (Mair Tomos Ifans), Siôn Fychan y clocsiwr a Nanws a'ch Rhobert (Mirain Fflur).

Llun o Mair Tomos Ifans yn perfformio yn ystod digwyddiad diwrnod agored yn Nhŷ Mawr Wybrnant
Chwaraeodd Mair Tomos Ifans ran Barbra Fedw Deg ar y daith tywys yn Nhŷ Mawr Wybrnant yn 2025 | © National Trust

Digwyddiad sy'n dod yn rhan annatod o'r calendr yw'r gig ar y lawnt, lle gall ymwelwyr ddod i fwynhau cerddoriaeth acwstig fyw y tu allan wrth y ffermdy wrth fwynhau picnic a'r cefn gwlad gyfagos.

Digwyddiad arall sydd hefyd yn boblogaidd iawn yw'r ddarlith hanes. Mae darlithoedd diweddar wedi cynnwys yr Athro. Angharad Price yn trafod Catholigion Cymraeg yn ystod cyfnod William Morgan ac fe ddaru'r ddarlith gan yr Athro. Jerry Hunter cyffwrdd â hanes, dysg a llenyddiaeth yn ystod cyfnod William Morgan.

Mae yna lu o ddigwyddiadau eraill wedi digwydd hefyd, o arddangosfa disgyblion lleol i ddiwrnod agored gyda'r brodyr Turner ddaru adnewyddu Tŷ Mawr yn ystod yr 1980au.

Gwilym Bowen Rhys yn perfformio yn Ty Mawr
Gwilym Bowen Rhys yn perfformio yn Nhŷ Mawr Wybrnant yn 2024 | © National Trust Images / Siôn Edward Jones

Cadwch lygad am raglen digwyddiadau diwrnodau agored 2026 yn Nhŷ Mawr fel nad ydych chi'n colli allan.

Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol eisiau sicrhau bod y digwyddiadau ar gael i bawb. Cysylltwch gyda ni drwy e-bostio tymawrwybrnant@nationaltrust.org.uk neu drwy ffonio 01766 510 120 os ydych chi eisiau trafod unrhyw beth gyda ni.