1545
Cael ei eni yn Nhŷ Mawr Wybrnant
Cafodd William Morgan ei eni yn Tŷ Mawr Wybrnant ym 1545. Roedd yn fab i John a Lowri Morgan, tenantiaid ystâd Gwydir ger Llanrwst.

O gefndir gwerinol, esgynnodd William Morgan i fod yn Esgob Llandaf a Llanelwy. Pan ddaeth yr alwad i gyfeithu'r Beibl i'r Gymraeg, gofynwwyd iddo ef. Cafodd cyfieithiad William Morgan ei ddathlu am ei gywirdeb a’i iaith syml. Mae llenyddiaeth Gymraeg gyfoes yn seiliedig ar y gwaith hwn, gan ddiogelu’r iaith a sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i gael ei siarad hyd heddiw.
1545
Cafodd William Morgan ei eni yn Tŷ Mawr Wybrnant ym 1545. Roedd yn fab i John a Lowri Morgan, tenantiaid ystâd Gwydir ger Llanrwst.
Yn ystod y Diwygiad Protestannaidd sicrhaodd y Brenin Harri VIII fod Cymru a Lloegr yn torri’n rhydd o’r Eglwys Gatholig. Yn 1538 gorchmynnodd i’r eglwysi ddefnyddio’r fersiwn Saesneg o’r Beibl a’r Llyfr Gweddi Gyffredin yn unig.
Roedd Deddf Uno Cymru a Lloegr yn 1536 wedi gwahardd y defnydd o’r Gymraeg ym meysydd y gyfraith a gweinyddiaeth. I bob pwrpas, cyhoeddwyd mai Saesneg fyddai’r unig iaith swyddogol yng Nghymru a Lloegr. Collodd y Gymraeg yr hawl i statws cyhoeddus.
Wrth i’r Diwygiad Protestannaidd ledaenu, ceisiodd arweinwyr Protestannaidd ddileu awdurdod yr Eglwys dros air Duw. Dadleuodd ysgolheigion ac eglwyswyr Cymru fod eu pobl yn cael eu hamddifadu o fanteision y Diwygiad. Roeddent yn benderfynol o sicrhau bod Beibl ar gael i’r Cymry yn eu hiaith eu hunain.
Daeth tro ar fyd yn 1563. Gorchmynnodd Elisabeth I y dylid cyfieithu’r Beibl a’r Llyfr Gweddi i’r Gymraeg erbyn Dydd Gŵyl Dewi 1567. Penderfyniad gwleidyddol oedd hwn. Roedd yr awdurdodau’n ofni bod y Cymry’n deyrngar i Gatholigiaeth a’u gobaith oedd y byddai cael Beibl yn eu hiaith eu hunain yn eu denu at Brotestaniaeth.

Yn sgîl dyfeisio’r wasg argraffu yn yr Almaen yn y 15fed ganrif daeth yn bosibl argraffu a rhannu Beiblau yn ieithoedd gorllewin Ewrop.
Erbyn canol yr 16eg ganrif roedd testunau dethol o’r Beibl yn cael eu cyfieithu i’r Gymraeg a’u cyhoeddi. Yn 1546 cyhoeddodd Syr John Price y llyfr Cymraeg cyntaf, ‘Yny lhyvyr hwnn’, sy’n cynnwys casgliad o lawysgrifau a thestunau o’r Beibl. Yn ystod y chwe blynedd canlynol, cyhoeddodd William Salesbury sawl llyfr gan gynnwys ‘Kynniver llith a ban’, cyfieithiad o’r Efengylau a’r Epistolau a ddarllenid yn yr Eglwys ar y Sul.
Cyfieithodd William Salesbury y Testament Newydd a’r Llyfr Gweddi Gyffredin a gyhoeddwyd yn 1567. Fodd bynnag, roedd y cyfieithiad yn defnyddio sillafu clasurol a Lladinaidd ac roedd yn anodd ei ddarllen. Cwblhaodd William Morgan y gwaith o gyfieithu’r Beibl cyfan 21 mlynedd yn ddiweddarach gan ddefnyddio iaith gyfoethog a chlir.

Roedd cyfieithiad William Morgan yn 1588 yn ddigwyddiad hollbwysig ar adeg o newid gwleidyddol a chrefyddol tyngedfennol. Am y tro cyntaf gwelwyd y Gymraeg yn cymryd ei lle yn falch ochr yn ochr ag ieithoedd Ewropeaidd modern eraill.
Byddai cynulleidfaoedd eglwysi ledled Cymru yn gwrando ar gyfieithiad William Morgan bob dydd Sul. Fe wnaeth hyn helpu i gysylltu’r Cymry â Phrotestaniaeth a’r Eglwys Anglicanaidd.
Llwyddodd cyfieithiad William Morgan i uno gogledd a de Cymru yn ieithyddol. Creodd iaith lenyddol bwerus, uchel ei pharch, a oedd yn goresgyn gwahaniaethau tafodieithol lleol. Derbyniodd ganmoliaeth gan feirdd, ac ysbrydolodd lawer o gerddi, straeon a chyfieithiadau Cymraeg.
Mae argraffiadau a fersiynau eraill yn dal i gael eu cyhoeddi hyd heddiw.

Ar adeg pan nad oedd sefydliadau cenedlaethol yn bodoli i amddiffyn a chefnogi’r Gymraeg, rhoddodd William Morgan sylfaen gadarn i’r iaith.
Roedd addysg yn seiliedig ar y Beibl yn fodd i wella llythrennedd ymhlith y Cymry a chreu diwylliant a oedd yn rhoi gwerth ar ddarllen ac ysgrifennu. Ysgogodd gyhoeddiadau Cymraeg a thwf papurau newydd yn y 18fed a’r 19eg ganrif. Chwaraeodd y Beibl ran hefyd yn nhwf cenedlaetholdeb Cymreig a mudiadau protest yr 20fed ganrif, gan arwain at ddeddfau iaith newydd.
Mae Beibl William Morgan yn dal i ysbrydoli pobl, mudiadau a chymunedau ar hyd a lled Cymru. Mae’n symbol pwerus hyd heddiw o hunaniaeth Cymru a goroesiad yr iaith Gymraeg, ar lafar, mewn print ac ar-lein.
Crwydrwch yr ardd Duduraidd, gyda nifer o blanhigion gwahanol i ddarparu bwyd, meddyginiaethau a pheraroglau i’r tŷ.
