Skip to content
Prosiect

Ynni adnewyddadwy yn Nhŷ Mawr Wybrnant

Diwrnod braf a golygfa o hen fwthyn carreg gyda bryniau yn y cefndir a phont garreg isel yn y blaendir.
Disgwylir i’r ardal o gwmpas Tŷ Mawr Wybrnant ddioddef llawer o law yn y dyfodol | © National Trust Images/Arnhel de Serra

Trwy gydweithio gyda’r Prosiect Dŵr Uisce – sy’n cynnwys ymchwiliwr o Brifysgol Bangor a Choleg y Drindod, Dulyn – gosodwyd cynllun ynni adnewyddadwy yn Nhŷ Mawr Wybrnant yng Nghonwy. Bydd y cynllun trydan-dŵr ‘pico’ bychan yn ymdrin â’r lefelau lleithder niweidiol, gan, ar yr un pryd, helpu gyda nod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol o leihau ei defnydd o danwydd ffosil yn fawr.

Llifogydd yn Nhŷ Mawr Wybrnant

Yng ngwanwyn 2019, profodd Tŷ Mawr Wybrnant y llif gwaethaf mewn cof. Roedd y lleithder ychwanegol yn yr aer yn creu bygythiad i’r casgliad unigryw o Feiblau - gan gynnwys copi gwreiddiol o’r Beibl Cymraeg cyntaf, a argraffwyd yn 1588 - sy’n cael ei arddangos yn y ffermdy o’r 16eg ganrif, oedd yn golygu bod rhaid defnyddio mwy o wres i leihau lefelau’r lleithder. Rhag ofn niwed, symudwyd y casgliad craidd o Feiblau dros dro, gyda Beibl 1588 yn cael ei arddangos yng Nghastell y Waun.

Cynllun ynni cynaliadwy

Bydd gosod cynllun ynni adnewyddadwy trydan-dŵr bach ‘pico’ yn helpu i gadw’r lefelau lleithder cyn lleied â phosibl. Yn ei hanfod, mae dŵr mewn gwirionedd yn helpu i ddatrys y broblem y mae’n ei chreu ei hun.

‘Mae’r rhagolygon hinsawdd yn dynodi cynnydd tebygol yn nifrifoldeb ac amlder glawiad yn yr ardal. Mae’r dechnoleg yma ar raddfa fach yn gadael i ni addasu at newidiadau’r dyfodol yn fwy cynaliadwy.’

- Keith Jones, Cynghorydd Newid Hinsawdd i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Ymwelwyr yn edrych ar gas arddangos yn Nhŷ Mawr Wybrnant, man geni’r Esgob William Morgan yng Nghonwy, Cymru
Ymwelwyr yn edrych ar gas arddangos yn Nhŷ Mawr Wybrnant, man geni’r Esgob William Morgan yng Nghonwy, Cymru | © National Trust Images / Arnhel de Serra

Prosiect Dŵr Uisce

Yn Nhŷ Mawr Wybrnant, roeddem yn chwilio am ddull mwy cynaliadwy gyda help gan Brosiect Dŵr Uisce, sy’n cael ei gefnogi gan Raglen Cydweithredu Iwerddon-Cymru 2014 (a ariennir gan Gronfa Datblygu Gwledig Ewrop) ac yn cynnwys ymchwilwyr o Brifysgol Bangor a Choleg y Drindod, Dulyn. Ar ôl ystyried yr holl ddewisiadau ar gyfer gwres mwy effeithlon sydd hefyd yn cyd-fynd ag adeilad rhestredig Gradd II, dewiswyd y cynllun trydan-dŵr 4.5kW, a elwir yn gynllun ‘pico’, oherwydd ei fod yn fach.

‘Dim ond benthyca canran benodol o’r dŵr o’r nant fydd y pico ar ôl i lefel y dŵr gyrraedd pwynt penodol. Mae hyn yn golygu ein bod yn cynhyrchu’r trydan pan fydd arnom fwyaf o’i angen, pan fydd mwy o leithder yn yr aer ar ôl glaw. Defnyddir yr ynni yn syth ar y safle, ar gyfer cadwraeth y casgliad amhrisiadwy hwn o Feiblau yn unig.’

- Keith Jones, Cynghorydd Newid Hinsawdd i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Sied tyrbin ar gyfer pico hydro yn Nhŷ Mawr Wybrnant, Eryri
Sied tyrbin ar gyfer pico hydro yn Nhŷ Mawr Wybrnant, Eryri | © National Trust Images

Manteision amgylcheddol

Nod tymor hir y Prosiect Dŵr Uisce, yn ôl ei arweinydd Dr Aonghus McNabola, Athro Cysylltiol mewn Peirianneg yng Ngholeg y Drindod, yw datblygu’r dechnoleg trydan-dŵr pico ymhellach fel y gellir ei ddefnyddio’n fwy cyffredin yn y dyfodol cymharol agos a dechrau cael budd i’r amgylchedd.

‘Yn ogystal â’r arbedion ariannol amlwg, rydym yn disgwyl i brosiect fel hyn arwain at arbedion nwyon tŷ gwydr o ychydig dros 5.2 tunnell, y flwyddyn.’

- Dr Prysor Williams, arweinydd y tîm ym Mhrifysgol Bangor

Lleihau ein defnydd o danwydd ffosil yn Eryri

Mewn ymgais i geisio haneru ein defnydd o danwydd ffosil, rydym wedi gosod nifer o dechnolegau effeithlon o ran ynni ac adnewyddadwy ar draws Eryri gan gynnwys bwyleri biomas, a phympiau gwres ar ffermydd, bythynnod gwyliau a swyddfeydd. Dyma’r wythfed gynllun trydan-dŵr i ni ei osod yn yr ardal, yn Hafod y Llan yr oedd y cyntaf ac ar 600kW hwnnw oedd y mwyaf.

Pedwar ymwelydd yn cerdded wrth ochr adeilad carreg yn Nhŷ Mawr Wybrnant, Conwy, gyda llygad y dydd a blodau gwyllt eraill yn y blaendir.

Gwneud rhodd

Mae pawb angen natur, nawr yn fwy nag erioed. Rhowch heddiw ac fe allech helpu pobl a natur i ffynnu yn y lleoedd dan ein gofal.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Ymwelydd yn eistedd ar bont fwa fach, yng nghefn gwlad yn Nhŷ Mawr Wybrnant, Conwy. Mae’n edrych tuag at adeilad carreg sydd â mwg yn dod allan o’r simnai.
Erthygl
Erthygl

Hanes yr Esgob William Morgan 

Dewch i grwydro man geni’r Esgob William Morgan cyfieithydd y Beibl i’r Gymraeg. Mae Tŷ Mawr Wybrnant yn swatio mewn cwm cudd ar gyrion Penmachno ger Betws y Coed.

Prosiect
Prosiect

Ynni adnewyddadwy yng Nghastell Penrhyn 

Dysgwch sut y gwnaeth Castell Penrhyn ddweud ffarwel wrth wresogi trwy losgi olew a newid i ddefnyddio biomas, gan leihau ei ôl troed carbon a chostau am flynyddoedd i ddod.

Lawn stretching up to the house with a flower border in the middle and to the right with blue skies and a few clouds above
Erthygl
Erthygl

Renewable energy at Nuffield Place 

Discover why Nuffield Place in Oxfordshire has switched to renewable energy and the technology behind the move.