Skip to content

Ynni adnewyddadwy yng Nghymru

Y gored ar draws Afon Anafon fel rhan o’r prosiect hydro Ynni Anafon yn y Carneddau a’r Glyderau yn Eryri, Cymru
Y prosiect hydro ar Afon Anafon yn Eryri | © National Trust Images/John Millar

Mae prosiectau ynni adnewyddadwy ledled Cymru yn helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd a diogelu’r llefydd pwysig rydym yn gofalu amdanynt. O baneli solar ar doeau cestyll i’r olwyn cynhyrchu trydan fwyaf yn Ewrop, dysgwch sut mae prosiectau yng Nghymru yn helpu i leihau allyriadau carbon ac arbed arian er budd cadwraeth.

Ein cenhadaeth i fynd i’r afael â newid hinsawdd

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar genhadaeth i fod yn sero net erbyn 2030. I gyflawni hyn, rydym yn gweithio i leihau ein defnydd o danwyddau ffosil yn ddramatig mewn eiddo a lleoliadau ledled y DU. Mae ein gwaith hyd yma wedi lleihau allyriadau carbon, gwneud safleoedd o gestyll i fythynnod yn fwy cynaliadwy, ac arbed arian i’w fuddsoddi mewn gwaith cadwraeth.

Yn genedlaethol, ein nod yw arbed tua £4 miliwn ar filiau ynni bob blwyddyn, a bydd pob ceiniog yn mynd tuag at ddiogelu treftadaeth ein gwlad.

Ynni adnewyddadwy yng Nghymru

Ers canrifoedd, mae mynyddoedd, coedwigoedd a dyfroedd Cymru wedi porthi ei thrigolion ac ysbrydoli cenedlaethau o ymwelwyr. Nawr rydym yn datgloi potensial y dirwedd o ran ynni glân. Drwy harneisio’r adnoddau elfennol - y tir, y môr a’r awyr - rydym yn pweru’r llefydd rydym yn gofalu amdanynt, tra’n parhau i ofalu am yr amgylchedd.

Diweddaru hen dechnolegau

Mae llosgi pren i’n cynhesu ac adeiladu olwynion dŵr yn arferion hynafol yng Nghymru. Heddiw, rydym yn diweddaru’r hen dechnolegau hyn yn ogystal â chyflwyno rhai newydd, fel ynni solar.

Mae manteisio ar ynni adnewyddadwy’n gwneud synnwyr busnes, cadwraeth ac amgylcheddol, ac mae tîm Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, sydd wedi ennill gwobrau, yn dangos y ffordd i weddill ein sefydliad ac eraill.

Dyfyniad gan Enfys EvansYmddiriedolaeth Genedlaethol Cymru Ymgynghorydd yr Hinsawdd a’r Amgylchedd

Mathau o ynni adnewyddadwy

Rydym yn gweithio ochr yn ochr â phobl leol, asiantaethau’r llywodraeth a’r gymuned wyddonol, ac mewn partneriaeth â chyflenwr ynni adnewyddadwy’r Ymddiriedolaeth, Good Energy. Dyma rai o’r cynlluniau rydym yn eu datblygu a’u cefnogi i gyflenwi ynni glân yng Nghymru:

  • Solar Ffotofoltäig (PV): defnyddio pelydrau’r haul i gynhyrchu trydan.
  • Solar Thermol: gwresogi hylif oer mewn dolen pibell gaeedig.
  • Pympiau gwres: cynaeafu gwres yr amgylchedd o’r ddaear, yr aer neu ddŵr.
  • Trydan dŵr (hydro): defnyddio ynni dŵr sy’n llifo’n gyflym i gynhyrchu trydan.
  • Biomas: llosgi deunydd planhigion fel tanwydd.

Prosiectau ynni adnewyddadwy

Mae ein dull a gydlynir yn genedlaethol o ddatblygu ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn pwysleisio arfer da ac yn helpu gyda chadwraeth. Dyma rai o’r prosiectau cyffrous sydd ar y gweill ledled y wlad i helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Olwyn ddŵr a bastiwn, Gwaith Tun a Rhaeadr Aberdulais, De Cymru
Olwyn ddŵr a bastiwn yng Ngwaith Tun Aberdulais | © National Trust / Suzanne Patton
Pwyntiau gwefru cerbydau trydan
Mae gennym 36 o bwyntiau gwefru cerbydau trydan ledled Cymru, i gyd wedi’u lleoli’n berffaith ar gyfer diwrnod o fwynhau. Gallwch blygio eich cerbyd trydan i mewn tra’ch bod chi’n crwydro cestyll campus, traethau trawiadol a gerddi godidog. Mae ein holl bwyntiau gwefru cerbydau trydan yn rhai ‘gwefru araf’ a gallent fod yn llawn pan fyddwch yn cyrraedd, felly neilltuwch ddigon o amser. Gofynnwch i’r eiddo unigol cyn eich ymweliad i gadarnhau bod pwyntiau gwefru ar gael.Dysgwch fwy am bwyntiau gwefru cerbydau trydan
Ynni solar yng Ngardd Bodnant
Mae gosodiad cenedlaethol (sydd wedi ennill gwobrau) yn harneisio ynni’r haul yng Ngardd Bodnant. Wedi’u dylunio gan Carbon Zero, gallai’r 175 o baneli ffotofoltäig sydd wedi’u gosod ar ochr y bryn gynhyrchu digon o drydan i bweru caffi’r Pafiliwn a dau bwynt gwefru cerbydau trydan (yn ogystal ag offer batri’r garddwyr). Gallant hefyd gynhyrchu pŵer ar gyfer pwmp gwres ffynhonnell aer ym mloc tai bach y maes parcio.
Ynni solar yng Nghastell y Waun
Yng Nghastell y Waun, rydym wedi gosod system carbon isel newydd yn lle’r hen system wresogi trydan ac olew. Heddiw, mae’r castell yn defnyddio system biomas sy’n cael ei chyflenwi gan ynni solar. Bu’n rhaid i’r paneli solar gael eu gosod gan arbenigwyr ar yr hen do, ac maen nhw’n darparu dŵr poeth i dai bach yr ymwelwyr.
Pympiau gwres yng Nghastell Powis
Mae pwmp gwres o’r ddaear yn cynhyrchu 90 y cant o’r gwres sydd ei angen ar y blanhigfa, tra bod system PV solar yn cynhyrchu’r trydan. Mae hyn, ynghyd â mesurau newydd eraill, yn golygu bod y defnydd o ynni wedi’i gwtogi gan bron i ddwy ran o dair, a gall trydan dros ben gael ei werthu i gyflenwr ynni gwyrdd. Ac nid dyna’r diwedd ar fentrau garddio gwyrdd Powis. Ers blynyddoedd lawer, mae’r tîm wedi bod yn casglu dŵr glaw o do’r tŷ gwydr (y blanhigfa erbyn hyn) a’i storio mewn tanciau i’w ddefnyddio’n ddiweddarach. Gyda dros 32,500 litr o gyfaint storio, dŵr glaw yw prif ffynhonnell y blanhigfa o ddŵr dyfrio erbyn hyn.
Ynni dŵr yn Llyndy Isaf
Yn ogystal â bod yn gartref i’n hysgoloriaeth ffermio, mae Llyndy Isaf wedi cynnal amrywiaeth o brosiectau ynni adnewyddadwy mewn ymgais i wneud y fferm yn fwy cynaliadwy. Mae’r system trydan dŵr bellach yn cyflenwi trydan i adeiladau’r fferm, a bydd hefyd yn pweru’r ddau bwmp gwres newydd. Bydd y prosiect yn cynhyrchu tua 37,000 kWh o drydan y flwyddyn ac yn lleihau allyriadau CO2 gan tua 18 tunnell y flwyddyn.
Paneli solar yn Nôl y Coroni yn Nhŷ a Gardd Plas Newydd yn Ynys Môn, Cymru
Paneli solar ym Mhlas Newydd yn Ynys Môn | © National Trust Images/James Dobson
Gwres biomas yng Nghastell Penrhyn
Yng Nghastell Penrhyn rydym wedi buddsoddi £400,000 yn y system biomas newydd a fydd yn gwresogi tua 100 o ystafelloedd yn y plasty gothig Fictoraidd mawr. Bydd hyn yn lleihau allyriadau carbon ac yn arbed tua £3,000 y flwyddyn mewn biliau gwres, a fydd yn cael ei fuddsoddi mewn cadwraeth. Ymysg y mesurau eraill i leihau allyriadau, gosodwyd hanner erw o baneli solar a 7000m2 o ddeunydd inswleiddio yn y llofft.Dysgwch fwy am y prosiect
Pwmp gwres ym Mhlas Newydd
Rydym wedi adeiladu pwmp gwres ffynhonnell forol mwyaf Prydain i wresogi Plas Newydd ar arfordir Gogledd Cymru. Mae dŵr môr yn cael ei bwmpio drwy bibellau i ac o gyfnewidydd gwres ar y lan, ac yna i fyny clogwyn 30 metr o uchder i foelerdy’r plasty 300 oed. Y pwmp gwres 300kW oedd y prosiect cyntaf ar gam peilot ein Rhaglen Buddsoddi Ynni Adnewyddadwy, a disgwylir iddo arbed tua £40,000 y flwyddyn i ni.
Trydan dŵr yn Eryri
Mae cynllun trydan dŵr wedi’i ymgorffori’n sensitif yn nhirwedd rugog Eryri yn fferm Hafod y Llan. Gwerthwyd y pŵer a gynhyrchwyd gan hydro Eryri drwy ein cwmni masnachu ynni adnewyddadwy newydd i’n partner ynni a’n cyflenwyr trydan gwyrdd. Dros wyth mlynedd, mae’r systemau hydro yn Eryri wedi cynhyrchu 20 miliwn kWh o ynni, digon i bweru 5,300 o gartrefi am flwyddyn.Gwyliwch ffilm am y prosiect
Gwres biomas yng Ngerddi Dyffryn
Rydym wedi gosod boeler biomas modern, pympiau gwres o'r ddaear a phaneli solar yng Ngerddi Dyffryn i leihau ein hôl troed carbon. Mae’r boeler yn rhedeg ar beledi pren wedi'u gwneud allan o gynnyrch gwastraff o waith gweithgynhyrchu pren yng nghanolbarth Cymru. Golyga'r ffynhonnell ynni fwy dibynadwy hon y gallwn wresogi ein tŷ gwydr yn well, felly gallwn brynu a thyfu rhywogaethau prinnach a mwy egsotig o degeirianau.
Yr olwyn ddŵr yn Aberdulais
Mae’r olwyn ddŵr heddiw yn fersiwn fodern o dechnoleg sy’n dyddio’n ôl i’r 1500au. Wedi’i hadeiladu gan fyfyrwyr a phrentisiaid British Steel ym Mhort Talbot, dyma’r olwyn fwyaf yn Ewrop sy’n cynhyrchu trydan, gyda diamedr o 8.2m. Ar ddiwrnod cyfartalog, mae tua 100-120kw o drydan yn cael ei gynhyrchu. Mae yna dyrbin hefyd gyda chapasiti cynhyrchu o 200kW a digon o bŵer ar gyfer y rhan fwyaf o’r gymdogaeth.Dysgwch fwy am y prosiect
Bythynnod gwyliau gwyrdd yng Nghymru
Gallwch nawr fwynhau ‘gwyliau gwyrddach’ lle mae’r arian rydych yn ei dalu am fwthyn gwyliau’n cael ei fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy ar y safle. Bydd yr arian hwn hefyd yn helpu i ddiogelu’r amgylchedd lleol yn rhai o ardaloedd prydferthaf Cymru. Mae’r mesurau adnewyddadwy’n cynnwys pympiau gwres gyda rheolaethau soffistigedig sy’n gosod y system wresogi ar lefel isel pan mae’r bythynnod yn wag.
The sun rising over Knoll Beach with grasses in the foreground at Studland Bay, Dorset

I bawb, am byth

Rydym yn diogelu a gofalu am lefydd fel y gall pobl a natur ffynnu. Dysgwch amdanom ni a'r hyn rydym yn ei gefnogi.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Llun agos o beradl yr Hydref gyda’r castell yn y cefndir yng Nghastell y Waun, Wrecsam
Erthygl
Erthygl

Ymweld â dolydd yng Nghymru 

Rydym yn rheoli dolydd yn ofalus ledled Cymru er mwyn eu helpu i ffynnu. Dysgwch ragor am ein gwaith a ble gallwch weld dolydd yng Nghymru.

Bustach yr Ucheldir ar dirwedd amaeth ym Mryn Bras, Cymru 
Erthygl
Erthygl

Ffermio yng Nghymru 

Dysgwch sut mae ein harferion ffermio ecogyfeillgar yn diogelu cynefinoedd a rhywogaethau prin, yn atal llifogydd, ac yn helpu bywyd gwyllt i ffynnu yng Nghymru.

Golygfa o bentref arfordirol Porthdinllaen gyda’r môr a thonnau yn y blaendir yng Ngwynedd, Cymru
Erthygl
Erthygl

Ein gwaith i fynd i’r afael â newid arfordirol yng Nghymru 

Dysgwch sut rydym yn gofalu am 157 milltir o arfordir Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, o ddiogelu cynefin bywyd gwyllt i addasu i heriau newid hinsawdd.

Y bugail Trefor Jones ar lechwedd serth gyda Defaid Mynydd Cymreig ar fferm Hafod y Llan yn Eryri, Cymru 
Erthygl
Erthygl

Ffermio yn Eryri 

Dysgwch am fugeilio er lles cadwraeth, adfer cynefin llygoden y dŵr a sut mae gorgorsydd yn chwarae rôl hanfodol yn rheoli llifogydd ar ffermydd yn Eryri.