Skip to content

Ffermio yn Eryri

Y bugail Trefor Jones ar lechwedd serth gyda Defaid Mynydd Cymreig ar fferm Hafod y Llan yn Eryri, Cymru 
Bugail ar fferm Hafod y Llan, Eryri  | © National Trust Images/Paul Harris

Mae tirwedd wyllt Eryri yn amgylchedd heriol i’w ffermio. Dysgwch fwy am y ffermwyr a’r tenantiaid rydym yn gweithio gyda nhw i adfer cynefinoedd hanfodol, diogelu bywyd gwyllt a helpu i gynhyrchu bwyd o ansawdd.

Ffermio er lles cadwraeth yn Fferm Hafod y Llan

Mae Hafod y Llan yn ymestyn o waelod y dyffryn yn Nant Gwynant i fyny llethrau serth, dramatig yr Wyddfa, ac mae’n gartref i Ddefaid Mynydd Cymreig a Gwartheg Duon Cymreig, sy’n greaduriaid gwydn. Mae rhan o’r fferm yn Warchodfa Natur Genedlaethol ac mae’r tîm yn gweithio’n agos gyda’n ceidwaid cadwraeth a cheidwaid yr ardal i sicrhau bod y tir yn cael ei reoli er lles natur.

Rydym yn plannu mwy o goed, yn monitro’r llystyfiant ac yn trwsio llwybrau troed sydd wedi erydu, yn ogystal â bugeilio’r praidd yn rhagweithiol er mwyn symud y defaid i ffwrdd o blanhigion sensitif. Drwy gyfuno sgiliau bugeilio traddodiadol ag amcanion cadwraeth modern, mae Hafod y Llan yn arwain prawf arloesol ar gyfer rheoli cynefinoedd.

‘Mae ffermio gyda natur a’r dirwedd wrth ei galon yn hanfodol mewn ardal fel hon. Maen nhw’n mynd law yn llaw.’

– Bryn Williams, tenant Fferm Gwern Gof Uchaf

Ecolegydd maes a swyddog monitro’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn fferm Hafod y Llan yn archwilio’r cynefin am fywyd gwyllt yn Eryri, Cymru
Monitro’r cynefin yn fferm Hafod y Llan, Gwynedd | © National Trust Images/Paul Harris

Pori er lles cadwraeth yn Fferm Llyndy Isaf

Mae gan Fferm Llyndy Isaf ffocws cryf ar ffermio ecogyfeillgar. Mae’r lefelau isel o dda byw yn gwneud hwn yn lle delfrydol i ffermwr ifanc ennill profiad ffermio ymarferol tra hefyd yn galluogi natur i ffynnu. Mae’r lefelau pori ar y mynydd dros yr haf hefyd yn cael eu cadw’n ddigon isel i alluogi’r coetir i adfywio.

I lawr wrth y llyn, mae’r gwartheg yn pori’r corsydd fel nad yw glaswellt y gweunydd neu’r brwyn yn dechrau gorchfygu popeth arall, gan roi’r cyfle i’r helygen Fair a llwyni a blodau amrywiol eraill ffynnu. Mae llawer o gaeau ger y cwrs dŵr yn cael eu gadael heb eu torri fel y gall llygod dŵr, sydd mewn perygl, dyrchu drwy’r cyrs a bwyta’r brwyn. Defnyddir arferion pori dwyster isel hefyd i leihau’r tebygolrwydd o sathru.

Golygfa o’r dirwedd yn fferm Llyndy Isaf yn nyffryn Nant Gwynant, gyda mynyddoedd, coetir a llyn, Eryri, Cymru.
Llyndy Isaf yn nyffryn Nant Gwynant, Gwynedd | © National Trust Images/Joe Cornish

Rheoli llifogydd yn Fferm Gwern Gof Uchaf

Mae Gwern Gof Uchaf yn fferm fynydd gynaliadwy sydd wedi’i lleoli’n gyfan gwbl o fewn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Eryri. Wedi’i chefnogi gan amrywiaeth o ffrydiau incwm, mae wedi bod yn rhan o gynllun amaeth-amgylcheddol ers blynyddoedd lawer ac mae’n manteisio ar harddwch ei lleoliad. Mae’r fferm yn rhedeg gwersyllfa fechan a thŷ bynciau, ac mae llwybrau cerdded yn croesi’r tir.

Mae tirwedd y mynydd yn cael ei phori’n ysgafn iawn yn yr haf, a ddim o gwbl yn y gaeaf. O ganlyniad, mae’r cynefinoedd rhostir sych a gorgors bellach mewn cyflwr campus. Bydd hyn yn helpu i gadw llawer mwy o ddŵr, gan chwarae rôl hanfodol yn rheoli llifogydd yn yr ardal wlyb hon.

Adfer cynefin yn Fferm Blaen Eidda Isaf

Wedi’i lleoli ar y llethrau anghysbell i’r de o Ysbyty Ifan, mae Blaen Eidda Isaf yn fferm ucheldirol 54-hectar. Mae hon yn dirwedd o laswelltir blodeuog, brwynog a chorsiog, coridor afon, coetir a ffridd. Mae gwartheg sy’n pori dros yr haf yn adfer cynefin ar gyfer adar sy’n nythu ar y ddaear, fel y gylfinir.

Mae rhaglen o flocio ffosydd i ail-wlychu’r Migneint yn gwella iechyd y mawn dwfn ac mae rhaglen bori amrywiol yn helpu i adfer natur ar y fferm. Mae’r fferm wedi gweithio gyda’r Ganolfan Ecoleg a Hydroleg i blannu mwy o goed a gwrychoedd ffermdir i amddiffyn cynefinoedd glan afon, gan leihau erydiad pridd a’r risg o lifogydd ymhellach i lawr yr afon.

The sun rising over Knoll Beach with grasses in the foreground at Studland Bay, Dorset

I bawb, am byth

Rydym yn diogelu a gofalu am lefydd fel y gall pobl a natur ffynnu. Dysgwch amdanom ni a'r hyn rydym yn ei gefnogi.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Daffodils in the park at Penrhyn Castle and Garden on a sunny day in Gwynedd, Wales
Ardal
Ardal

Cymru 

Darganfyddwch gestyll tylwyth teg, gerddi godidog a thirwedd Geltaidd wyllt sy’n drysorfa o chwedlau ar eich ymweliad â Chymru.

Walkers admire the view across Llyn Ogwen to the Cwm Idwal Valley on a sunny day, with a body of water visible in the valley and mountains in the distance

Cefn gwlad a choetir yng Nghymru 

Darganfyddwch ddyffrynnoedd dramatig a phrydferth, coetiroedd hynafol a llwybrau glan afon, neu anturiwch ar fynyddoedd gwyllt Cymru ac ymweld â rhai o gopaon mwyaf eiconig y wlad.

Golygfa o Ddinas Emrys, Beddgelert, Gogledd Cymru, yn edrych tuag at gopa dan gwmwl gyda choeden yn y blaendir.
Lle
Lle

Craflwyn a Beddgelert 

Dyffryn coediog prydferth gyda dau lyn, yn llawn chwedlau. Mae ei lethrau gogleddol yn codi i gopa’r Wyddfa.

near Beddgelert, Gwynedd

Yn hollol agored heddiw
Yr Olygfa o Olygfan y Canmlwyddiant, Dinas Oleu, Cymru
Lle
Lle

De Eryri 

Darganfyddwch goetiroedd derw hynafol a chreigiau folcanig. Mae Dolmelynllyn, Cregennan a Dinas Oleu yn cynnig cynefinoedd prin i chi eu crwydro.

Dolgellau, Gwynedd

Yn hollol agored heddiw
Bugail a chŵn defaid yn gyrru defaid i lawr Llwybr Watkin yng Nghwm Llan ar fferm Hafod y Llan, Eryri, Cymru
Erthygl
Erthygl

Ein gwaith yn Hafod y Llan 

Dysgwch sut mae Hafod y Llan ar flaen y gad fel fferm gynaliadwy i’r dyfodol.

Defaid yn pori yn Gwm Penmachno ar ddiwrnod heulog, Ystâd Ysbyty Ifan, Cymru
Erthygl
Erthygl

Ffermio a natur yn Ysbyty Ifan 

Mae Blaen Eidda Isaf yn fferm ucheldirol 54-hectar ar Ystâd Ysbyty Ifan. Drwy newid i dechnegau ffermio mwy cynaliadwy, mae’r ffermwyr tenant wedi gallu helpu bywyd gwyllt ac anifeiliaid pori i gyd-fyw’n hapus.

Prosiect
Prosiect

Ynni adnewyddadwy yn ffermydd Craflwyn a Beddgelert 

Mae prosiectau ynni adnewyddadwy yn ffermydd Craflwyn a Beddgelert yn trawsnewid y ffordd y mae pŵer yn cael ei gynhyrchu ac yn ariannu gwaith cadwraeth hanfodol.

Prosiect
Prosiect

Gwaith cadwraeth yn Fferm Carrog 

Mae gwaith rheoli afon, plannu coed a chreu dôl yn Fferm Carrog ar ystâd Ysbyty Ifan wedi arwain at boblogaethau bywyd gwyllt ffyniannus a thirwedd sy’n gallu gwrthsefyll llifogydd yn well.